Hafan YDDS-Y Brifysgol-Sefydliadau ac Academïau-Coleg Celf Abertawe——Ffotograffiaeth
Hoffech chi fod yn rhan o un o’r sectorau cyflymaf ei dwf yn y DU, sef y Diwydiannau Creadigol? Ni fu erioed amser o’r blaen pan fu ffotograffiaeth mor hanfodol bwysig. Mewn oes sy’n cael ei diffinio’n fwyfwy gan ‘y ffotograffig’, mae ein cyrsiau Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, Y Drindod wedi’u cynllunio i’ch addysgu ynghylch sut mae delweddau ffotograffig yn creu a dosbarthu syniadau o fewn diwylliant gweledol.
Ar eich taith gyda ni, byddwch yn dysgu’r sgiliau technegol a chysyniadol sydd eu hangen i fod yn ‘llythrennog yn weledol’, ac wrth wneud hynny, byddwch yn dysgu sut y gellir cymhwyso eich creadigrwydd i ystod o gyd-destunau creadigol a gyrfaoedd yn y dyfodol. Cewch bynciau o ddiddordeb mawr i chi a byddwch yn dod yn arbenigwyr yn eich maes astudio. Trwy arbrofi mewn gwahanol strategaethau gweledol – o ddigidol i analog, gwneud rhaglenni dogfennol i ffilmiau, golygyddol i osodwaith – byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich safbwynt unigryw a nodweddiadol eich hun fel ymarferwr creadigol.
Mae ein staff i gyd yn arbenigwyr yn y maes, yn gweithio fel ffotograffwyr, artistiaid ac ymchwilwyr a fydd yn gweithio gyda chi a’ch diddordebau nol, gan dywys eich proses creadigol a’ch helpu i siapio eich goliau ar gyfer y dyfodol. Bydd rhaglenni ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe yn rhoi’r holl gysylltiadau proffesiynol gyda’r diwydiant y bydd arnoch eu hangen ar ôl graddio.
美静脉rhaglen darlithwyr gwadda chyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i weld drosoch chi eich hun faint o wahanol gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael drwy astudio gyda ni. Caiff ein cyn-fyfyrwyr eu cyflogi mewn ystod eang o gyd-destunau creadigol, yn cynnwys cyd-destunau ffasiwn, portreadau, golygyddol, dogfennol, hysbysebu, curadu ac oriel.