Myfyrwyr PCYDDS yn cefnogi digwyddiad Coed Nadolig cynaliadwy Mynydd Cilfái
24.12.2021
Ymunodd myfyrwyr a staff o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) â Gwirfoddolwyr Cymunedol Mynydd Cilfái mewn digwyddiad coed Nadolig – un sydd hefyd yn helpu ymdrechion i ddi-ddofi’r ardal.
Bob blwyddyn mae Gwirfoddolwyr Coetir Cymunedol Cilfái yn gwahodd teuluoedd i’r llechwedd, ble gallant dorri i lawr un o’r cannoedd o binwydd sy’n ei gorchuddio, a mynd â hi adref yn rhad ac am ddim.
Nid yw’r fenter yn derbyn cyllid o gwbl ac mae’n cael ei rheoli yn llwyr gan gymorth pobl leol drwy’r grŵp cymunedol lleol. Mae’r coed a symudir yn binwydd polion, sy’n rhywogaeth anfrodorol a blannwyd yn y 1950-1970au gan blant ysgolion lleol ar draws tir diffaith, sef olion slag o’r gwaith copr.
Plannwyd y coed er mwyn sefydlogi’r tir, ond bellach mae angen eu symud er mwyn gwneud lle i rywogaethau brodorol. Mae’r digwyddiad coed Nadolig yn ffordd o symud y coed sydd wedyn yn gadael i’r ardal hunan-hadu.
Meddai Gareth Thomas, Swyddog Ymgysylltiad Dinesig yn Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter y Brifysgol (INSPIRE): “Mae’r digwyddiad yn darparu coed Nadolig i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac ar yr un pryd, yn denu pobl leol i’r bryn – sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a’r coetir trefol mwyaf yn y DU.
“Eleni mae gwirfoddolwyr amgylcheddol PCYDDS wedi bod yn gweithio ar y bryn, mewn sesiynau wythnosol, er mwyn paratoi’r bryn ar gyfer y digwyddiad. Roedd hyn yn golygu clirio llwybrau a gwneud yr ardal yn ddiogel, yn ogystal â thynnu rhai o’r coed mwy prysgog.”
Helpodd gwirfoddolwyr PCYDDS wedyn ar y diwrnod, yn gweithio fel marsialiaid ac yn cynnal gweithdai byrfyfyr. Ychwanegodd Gareth: “Dyna 500 o goed lleol a fyddai wedi cael eu symud i ffwrdd drwy eu cymynu yn y dyfodol agos ac na chawsant eu tyfu ar ffermydd masnachol sy’n defnyddio glyffosad fel chwynladdwr. Clirion nhw ryw erw o dir a fydd yn cael hunan-hadu gyda bedw, gwern a chyll. Ni fyddai modd ymgymryd â’r gwaith yma heb ymdrechion y gwirfoddolwyr.” Rebecca Davies Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau Executive Press and Media Relations Officer Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus Corporate Communications and PR Mobile:07384 467071 Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.comGwybodaeth Bellach