Swigen Greadigol PCYDDS yn cynnig cymorth i fenter AGB Abertawe


11.06.2021

Gyda llwybr cadarn o’r cyfnod clo wedi ei osod gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, camodd AGB Abertawe i fyny gyda rhagor o gyflenwadau PPE hanfodol i gynorthwyo siopau a busnesau’r ardal AGB i agor a masnachu’n ddiogel.

Swansea BID have set up a hub at UWTSD’s Creative Bubble space in Cradock Street, where they also distributed PPE packs via pre-arranged appointments.

Mae AGB Abertawe wedi sefydlu hwb yn Swigen Greadigol PCYDDS yn Cradock Street, lle buon nhw hefyd yn dosbarthu pecynnau PPE drwy apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw. Bu pob pecyn dechrau yn cynnwys mygydau wyneb, glanweithiwr llaw jin Cygnet, poster Covid-ddiogel, poster ‘gwisgwch fwgwd os gwelwch yn dda’ a sticeri llawr pellhau cymdeithasol. Bu AGB Abertawe yn cynorthwyo busnesau drwy gydol y pandemig, a chynigiwyd y pecynnau hyn fel rhan o’u hymdrechion i helpu canol y ddinas gael ffynnu eto.

Bu gan PCYDDS berthynas agos ag AGB Abertawe erioed – yn 2013 lansion nhw Swigen Greadigol ar y cyd fel ffordd o annog myfyrwyr i greu eu busnesau eu hunain yn Abertawe. Mae’r lle galw heibio aml-bwrpas yn Cradock Street wedi cynnal cannoedd o ddigwyddiadau a arweiniwyd gan fyfyrwyr, o siopau galw heibio i nosweithiau rhwydweithio, ac mae wedi arwain at nifer o interniaethau i fyfyrwyr, a chyflogaeth gyda busnesau lleol. Mae ABG Abertawe yn defnyddio siop y Swigen Greadigol fel safle dros dro cyn i’r siop agor i fyfyrwyr eto ym mis Medi.

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB (Ardal Gwella Busnes) Abertawe: “Rydym wedi cael perthynas hir gyda PCYDDS drwy ein menter Swigen Greadigol, ac mae’n bleser gennym ddefnyddio safle ffantastig y Swigen Greadigol i helpu’n busnesau canol dinas godi’n ôl ar eu traed. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod anodd i bob un o fusnesau ein ardal AGB, ond rwy’n hyderus y gallwn symud ymlaen i amserau gwell os byddwn i gyd yn dal i gyd-dynnu. Mae gennym lawer i edrych ymlaen ato.”

Meddai Ian Walsh, Profost PCYDDS Abertawe: “Fel rhan o’n cenhadaeth ddinesig mae PCYDDS wedi ymrwymo i weithio gydag AGB Abertawe i adeiladu Abertawe sy’n gryf a bywiog. Mewn cyfnod heriol iawn i’r masnachwyr sy’n asgwrn cefn i galon fasnachol y ddinas, credwn ei bod yn ddyletswydd arnom i’w helpu nhw symud ymlaen.”

Hoffai AGB Abertawe ddiolch i PCYDDS, Swigen Greadigol, Distyllfa Cygnet, SA Stationers a SW Design and Print am gefnogi’r fenter i wneud i’r cyhoedd, ynghyd ag ymwelwyr i ganol dinas Abertawe, deimlo’n ddiogel ac yn sicr.

Bydd swyddfa newydd hwb AGB Abertawe yn y Swigen Greadigol ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm ar gyfer eich holl ymholiadau sy’n gysylltiedig â’r AGB.

Swansea BID have set up a hub at UWTSD’s Creative Bubble space in Cradock Street, where they also distributed PPE packs via pre-arranged appointments

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com