Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn y Drindod Dewi Sant yn dathlu noson y graddedigion a’r wythnos gyflogadwyedd


19.01.2022

Wrth i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddechrau ar ddathliadau ei daucanmlwyddiant, mae disgyblaeth Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn falch iawn o allu ymuno yn y dathliadau gyda noson y graddedigion a’r wythnos gyflogadwyedd.

BA Early Years Education and Care (Early Years Practitioner Status) students at their graduation ceremony in 2019

Myfyrwyr BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar) yn eu seremoni raddio yn 2019

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle i raddedigion y Drindod Dewi Sant roi sylw i’r gyrfaoedd a’r profiadau maent wedi ymwneud â nhw ers graddio. Mae hefyd yn rhoi cyfle pwysig i fyfyrwyr cyfredol weld yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael, a rhannu profiadau â modelau rôl sydd wedi bod ar daith astudio debyg iddyn nhw.

Eleni daw’r graddedigion o ystod o sectorau a rolau gyrfa gwahanol yn cynnwys Darlithydd Prifysgol, Swyddog Ymchwil – Addysg a Gwasanaethau Plant, Swyddog Digonolrwydd Gofal Plant a Chwarae i Gyngor Dinas Abertawe, Therapydd Chwarae, Arweinydd Dechrau’n Deg, gweithwyr proffesiynol o Ysgolion Cynradd a sector yr Heddlu ac ymarferwyr o sefydliadau gwirfoddol megis yr URDD.

Meddai Helen Griffiths, un o’r trefnwyr sy’n Ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg,

“Roedd digwyddiad y graddedigion y llynedd yn rhan o’n darpariaeth Wythnos Gyflogadwyedd a ddenodd gynulleidfa dda iawn, gydag oddeutu 100 yn bresennol. Cafodd y myfyrwyr cyfredol fudd sylweddol o glywed am lwybrau gyrfa amrywiol ein graddedigion a’r modd mae eu cwrs gradd wedi caniatáu iddynt gyflawni eu nodau – o gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn rhan o Sefydliad Pêl-droed Dinas Caerdydd, i reolwr Canolfan i Deuluoedd leol, i gymorth dysgu oedolion i astudio am gymhwyster TAR i enwi ond ychydig. Mae darpariaeth eleni’n edrych yr un mor amrywiol a diddorol.”

Nododd Jessica Pitman, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar a threfnwr arall y digwyddiad,

“Mae ein myfyrwyr blwyddyn olaf wedi dangos ymrwymiad rhagorol i’r sector blynyddoedd cynnar, gan astudio a llawer yn gweithio drwy’r amser mwyaf anodd yn oes rhai ohonom ni. Rydym ni i gyd mor falch o gyflawniadau ein myfyrwyr hyd yn hyn. Bydd yn gyfle gwych iddyn nhw weld posibiliadau astudio Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, a gobeithio y bydd yn rhoi sbardun pellach iddyn nhw fod y gorau gallan nhw i blant. Gobeithio eu bod yn gallu gwneud cysylltiadau newydd a meddwl yn fawr am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Er nif flynyddoedd阿梅noson y graddedigion我们di bod yn gyfle i arddangos y nifer mawr o fentrau cyflogaeth a busnes mae myfyrwyr wedi ymwneud â nhw ers graddio. Mae’r tîm Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg hefyd wrth eu bodd i glywed cynifer o storïau am lwyddiant a chlywed sut mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddylanwadu ar lesiant, hawliau, cynhwysiant a’r dysgu gan blant a phobl ifanc ar draws Cymru a thu hwnt.

Un o’r graddedigion a fydd yn rhannu ei stori fydd Natasha Young sydd bellach yn ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant.

“Roeddwn i’n gweithio’n llawn amser yn y sector blynyddoedd cynnar ac roedd gen i deulu ifanc yn ogystal ag ymrwymiadau eraill. Doeddwn i’n wir ddim wedi ystyried prifysgol fel opsiwn posibl ar gyfer symud ymlaen yn fy ngyrfa. Fodd bynnag, pan ddes i ar draws y Llwybr Carlam Hyblyg ar gyfer y BA mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar gyda’r Drindod Dewi Sant, roeddwn i mor falch y byddwn i’n gymwys. Pan ddechreuais i ar fy nhaith ar y radd, roeddwn i’n nerfus ac yn llawn cyffro. Yn syth cafodd fy nerfau eu tawelu gan y tîm caredig, gofalgar, brwdfrydig a gwybodus o ddarlithwyr. Gyda phob darlith, ces i f’ysbrydoli’n fwyfwy gan y darlithwyr hynny, i ddilyn gyrfa yn y byd academaidd rywbryd yn y dyfodol.

“Ar ôl graddio yn 2020 gyda gradd anrhydedd ddosbarth cyntaf, roedd fy mrwdfrydedd am y sector blynyddoedd cynnar wedi datblygu hyd yn oed ymhellach a theimlais y byddai’r wybodaeth a’r profiad roeddwn wedi’u cael yn uniongyrchol yn sgil y radd yn cefnogi datblygiad fy ngyrfa. Yn fuan ar ôl graddio, ces i’r cyfle i gydweithio ar nifer o brosiectau diddorol. Datblygais i nifer o fodylau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ymarferwyr y blynyddoedd cynnar mewn cydweithrediad â’r Mudiad Meithrin. Gweithiais ar gynllunio’r cwricwlwm newydd ar gyfer darpariaeth nas cynhelir mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Hefyd ces i’r cyfle i ymgymryd â gwaith darlithio ar gyfer y radd Astudiaethau Plentyndod gyda Phrifysgol De Cymru. Pan ddaeth y cyfle i ymuno â’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn ddarlithydd llawn amser, achubais ar y cyfle ar unwaith. Dim ond fel canlyniad uniongyrchol i’r radd a’r tîm blynyddoedd cynnar, a’r cyfleoedd a’r profiadau a roddwyd i mi, y cefais i’r hyder i wneud cais am rôl darlithydd.

“Rydw i mor ddiolchgar i’r Drindod Dewi Sant a’u hymrwymiad i ehangu mynediad am eu rhaglenni, oherwydd heb hynny, fyddwn i ddim mewn rôl rydw i’n ei mwynhau mewn maes sydd mor bwysig. Rydw i’n falch i ddweud fy mod i bellach yn rhan o’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant. Hefyd rydw i’n edrych ymlaen at fynd â fy ngyrfa ymhellach, drwy gwblhau fy Nhystysgrif Ôl-raddedig Addysg Uwch gyda’r Drindod Dewi Sant cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr”.

Meddai’r Cyfarwyddwr Academaidd Dros Dro, Dr Nichola Welton:

“Mae’r wythnos gyflogadwyedd yn cynnig wythnos gyffrous a llawn digwyddiadau i fyfyrwyr Blynyddoedd Cynnar ac Astudiaethau Addysg o fewn Disgyblaeth Astudiaethau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg. Mae cyfleoedd i ymgysylltu â darlithwyr gwadd a sefydliadau sy’n ysbrydoli, cyfleoedd hyfforddi ac ystod o weithdai. Maen nhw i gyd yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau amhrisiadwy i helpu i gefnogi myfyrwyr wrth wneud dewisiadau gwybodus am y camau nesaf yn eu teithiau addysgol a/neu broffesiynol.”

Y digwyddiad hwn fydd cychwyn wythnos gyflogadwyedd sy’n llawn dop, gyda gweithdai’n gysylltiedig â chwarae llawn dychymyg, cefnogi cynhwysiant yn y blynyddoedd cynnar, hyfforddiant Cymorth Cyntaf, sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, ymwybyddiaeth am y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, gyrfaoedd, mentergarwch, ac astudiaethau pellach.

Mae’r tîm yn edrych ymlaen at groesawu graddedigion y gorffennol yn ôl a dathlu eu llwyddiant a llwyddiant parhaus y Drindod Dewi Sant ym mlwyddyn ei daucanmlwyddiant.

Early Years Graduate Stories event

Nodyn i'r Golygydd

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com