‘Damwain Hapus’ – myfyriwr yn cael gyrfa newydd ar ôl uwchsgilio drwy gwrs y Drindod Dewi Sant


11.07.2022

Daeth Dan Blyth, sy’n gweithio i’r GIG, o gefndir fel Athro Cynradd ac i mewn i’w ail yrfa yn y gwasanaeth iechyd yn annisgwyl, a hyn, yn ei eiriau ef, oedd “y ddamwain orau erioed!”, ar ôl i gydweithiwr argymell y rhaglenDiploma Cysylltiol y CIPD mewn Rheoli Poblyn y Drindod Dewi Sant am ddatblygiad proffesiynol.

HR Graduate - Carmarthen July 2022

Roedd yn amharod我ddechrau phan awgrymwyd y连续波rs i Dan roedd “ychydig yn wyliadwrus ynghylch mynd yn ôl i’r byd academaidd ond rwy mor falch y gwnes i, oherwydd rwy wedi dwlu ar ddysgu erioed ac roedd arnaf eisiau datblygu’n broffesiynol. Edrychais i ar ychydig o opsiynau, ond roeddwn i’n wir yn hoffi elfen prentisiaeth y cwrs hwn. Doeddwn i ddim mewn sefyllfa i roi’r gorau i fy ngwaith, felly roedd gallu astudio a gweithio ar yr un pryd yn berffaith.”

”潘ddechreuais我,doedd dim syniad gen i beth i’w ddisgwyl,” ychwanega. “Roeddem ni saith mis i mewn i’r pandemig, ac mae bod yn weithiwr AD proffesiynol yn heriol ar y gorau. Gweithio yn y GIG yn ystod COVID fu profiad mwyaf emosiynol, blinedig, ond boddhaus fy mywyd, ond roedd bod ar y cwrs ar yr un pryd yn caniatáu i mi weld y darlun ehangach a dysgu gan weithwyr proffesiynol eraill mewn diwydiannau gwahanol, sydd wedi bod yn un o’r uchafbwyntiau pennaf yn f’amser yn y brifysgol.”

Y peth gorau am y cwrs i Dan oedd lefel y gefnogaeth a gafodd gan y Darlithwyr, a meddai: “Dwi ddim eisiau canolbwyntio’n ormodol ar ystrydebau Covid, ond rwy’n meddwl ei bod yn glod i ymrwymiad a phenderfyniad Julie a’i thîm bod y cwrs hwn hyd yn oed wedi mynd ymlaen drwy’r pandemig. Mae’u harbenigedd a’u profiadau mor werthfawr ac mae’r cymorth academaidd a bugeiliol yn wych.

“Mae fy ngharfan i a minnau hefyd wedi ffurfio rhwydwaith gwych, sy’n rhyfeddol o ystyried ein bod wedi cyfathrebu’n bennaf dros WhatsApp. Rydym ni wedi cefnogi ein gilydd drwy amseroedd anodd ac roeddem ni’n gallu dysgu gyda’n gilydd drwy rannu profiadau.

“Yn amlwg nid yw fy mhrofiad prifysgol bob amser wedi bod yn hawdd: mae aseiniadau, ynghyd â swydd lawn amser a cheisio cael bywyd personol (rhwng cyfnodau clo) wedi gofyn am dipyn o hunanddisgyblaeth. Ond pryd bynnag rwy wedi cael trafferth i gydbwyso fy llwyth gwaith, rwy bob amser wedi gallu gofyn am help gan fy narlithwyr neu fy nghyd-fyfyrwyr.

“Byddwn i’n sicr yn argymell y cwrs hwn i bobl eraill sydd yn y Proffesiwn Pobl neu sy’n meddwl amdano. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau rwy wedi’u hennill wedi bod yn ffantastig ac mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol. Ers dechrau’r cwrs hwn, rwy wedi cael fy nyrchafu ddwywaith ac wedi ymuno â Grŵp Llywio Dysgu a Datblygu CIPD Cymru. Yn bwysicach na hynny, mae wedi fy helpu i dyfu fel person ac wedi gwella fy hyder a fy hunan-barch.

“Fyddai ddim o hyn wedi bod yn bosibl heb y cwrs CIPD, ac mae’n rhoi cyffro mawr i mi ddefnyddio’r sgiliau rwy wedi’u dysgu i gefnogi fy nhîm. Byddwn i’n annog unrhyw un i gofrestru am y cwrs hwn – mae e’n wir wedi newid fy mywyd.”

UWTSD Carmarthen July 2022

Meddai Julie Thomas, Uwch Ddarlithydd yn Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Drindod Dewi Sant: “Rydym ni’n eithriadol o falch o Dan a’r hyn mae ef wedi’i gyflawni, yn ogystal â’i lwyddiant yn y gwaith a’i ymwneud â Grŵp Llywio Dysgu a Datblygu CIPD Cymru. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei groesawu yn ôl ym mis Hydref i gwblhau ei gymhwyster ôl-raddedig.

“Hoffwn i hefyd gydnabod gwaith caled, ymrwymiad a chyflawniad ein holl fyfyrwyr sy’n parhau i gynhyrchu gwaith o ansawdd uchel ar yr un pryd â jyglo swyddi prysur, cyfrifoldebau gofalu ac ymrwymiadau eraill. Maen nhw i gyd yn ennyn parch ynof i.”

Nodyn i'r Golygydd

Mae’r Brifysgol yn cefnogi’r gymuned AD leol drwy ddarparu cyfres o gymwysterau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Pobl, o lefel 3 i lefel ôl-raddedig.Mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio gyda’r CIPD am fwy na 55 mlynedd ac yn fwy diweddar, â Choleg Sir Gar, i ddarparu ystod eang o gyrsiau AD i fod yn addas i bob rôl Gweithiwr Proffesiynol Pobl.

Hyder yw’r rhodd fwyaf mae’r cyrsiau hyn yn ei rhoi i fyfyrwyr, yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth i gyflawni rolau heriol a chyfoethogi eu gyrfaoedd.Mae’rCyrsiauwedi’u llunio i ffitio o gwmpas ymrwymiadau gwaith cyfredol myfyrwyr, ac mae’r rhan fwyaf yn cael eu hariannu’n gyflawn, gan arwain at ddim costau ychwanegol i’r myfyrwyr nac i’w cyflogwr.Mae gan yr holl ddarlithwyr brofiad sylweddol o weithio mewn rolau AD a Dysgu a Datblygu ac maent yn defnyddio’r profiad hwn i hwyluso trafodaeth a chyfoethogi dysgu gan y myfyrwyr yn y gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email :ella.staden@www.guaguababy.com

Ffôn |Phone :07384467078