Lansio Môr o Chwedlau yn Noc Penfro


30.03.2022

Cynhaliwyd digwyddiad yn Nherfynfa Fferi Doc Penfro i ddathlu murlun newydd gan artist o Sir Benfro, Robert Jakes.

A special event on 22 March 2022, held at the Pembroke Dock Ferry Terminal, launched a new mural by the Pembrokeshire artist Robert Jakes.

Murlun serameg yw ‘Môr o Chwedlau’, sy’n mapio rhan o Fôr Iwerddon rhwng Cymru ac Iwerddon, gan ddatgelu hanes coll yr ardal a’r arfordiroedd ar y ddwy ochr. Mae bywyd gwyllt, llongddrylliadau a cheblau tanforol i gyd yn llechu dan wyneb y dŵr, yn ogystal â chwedlau ac atgofion lu. Mewn gair a llun, mae Robert Jakes yn dal cyfoeth bywyd ar y môr ac o dan y tonnau dros amser maith, o drysor y Llychlynwyr hyd at hanes yr ail ryfel byd, hyd at gerdyn post cyfoes gan rywun o’r fro.

Comisiynwyd y gwaith gan brosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Croesiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru’, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Iwerddon Cymru. Nod y prosiect yw talu sylw i hanes a threftadaeth y trefi porthladd o gwmpas Môr Iwerddon, a’u cysylltu trwy archwilio eu treftadaeth gyffredin fel porthladdoedd. Pedwar sefydliad sy’n rhedeg y prosiect hwn, sef Prifysgol Corc a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth yng Nghymru.

Mae pob teilsen yn y murlun yn fan cychwyn i hanes neu chwedl am Ddoc Penfro neu’r cyffiniau. Yn 2006-7, creodd Robert Jakes waith celf ar gyfer placiau troed Llwybr Tref Doc Penfro. Mae prosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’ yn datblygu fersiwn newydd o’r llwybr hwn fel ‘ap’ digidol, gan ychwanegu lluniau o’r archifau a gwybodaeth bellach at y deunydd gwreiddol. Daeth rhai o’r straeon ar y murlun o’r gymuned ei hun, ac mae’r prosiect yn awyddus i glywed rhagor gan bobl leol. Os hoffech chi rannu stori neu eitem hanesyddol , ebostiwch y tîm arports@ucc.ie, a dysgwch fwy am eu gwaith ar y wefan:https://portspastpresent.eu/

Trefnwyd y lansiad mewn cydweithrediad â staff y derfynfa a Phorthladd Aberdaugleddau, ac ymunodd cydweithwyr ar y prosiect o Iwerddon. Dywedodd yr Athro Mary-Ann Constantine, sy’n arwain y tîm yn PCYDDS: ‘Mae gwaith Rob mor hardd: cewch ymgolli yn ei straeon, megis yn yr hen fapiau a siartiau morol bu’n rhannol yn ysbrydoliaeth iddo. ‘Dyn ni wir yn gobeithio bydd y murlun hwn yn fan cychwyn i sawl siwrnai chwilfrydig gan deithwyr a phobl leol sy’n dod i’w weld.’

Gallwch weld ‘Môr o Chwedlau’ yn ardal y caffi yn nherfynfa fferi Doc Penfro: mae’n agored i’r cyhoedd yn yr oriau o gwmpas oriau gadael a chyrraedd y fferi i Iwerddon.

the Arts in Ireland and Wales and the Ports Past and Present Project is delighted to announce the awarding of twelve commissions of £5,000 each to creative practitioners based in Ireland and Wales.

the Arts in Ireland and Wales and the Ports Past and Present Project is delighted to announce the awarding of twelve commissions of £5,000 each to creative practitioners based in Ireland and Wales.

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost atArwel.lloyd@www.guaguababy.com/ 07384 467076