Mae gwirfoddoli un o fyfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus PCYDDS wedi arwain at rôl newydd gyda Heddlu De Cymru


11.02.2022

Mae myfyriwrBA Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddussy’n astudio am ei radd Meistr gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn rhoi ei sgiliau newydd ar waith fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) gyda Heddlu De Cymru.

UWTSD英航法律和聚氨酯blic Services Master’s student Kane Grant is putting his new skills into practice as a PCSO with South Wales Police.

Ymgofrestrodd Kane ar gampws Busnes Abertawe PCYDDS yn 2017. Ochr yn ochr â’i astudiaethau, gwnaeth gofrestru ar gyfer cynllun Myfyrwyr-wirfoddolwyr yr Heddlu (PSV) a grëwyd gan PCYDDS a Heddlu De Cymru.

Hyd yn hyn, mae Kane wedi gweithio 180 sifft ac wedi cwblhau 1,180 awr o wirfoddoli, yn bennaf yn Help Point Abertawe, a sefydlwyd i ofalu am bobl sydd wedi anafu eu hunain, yn feddw neu yn agored i niwed.

Meddai Kane bod y cyfle i weithio’n agos gyda’r gwasanaethau argyfwng wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau a’r arbenigedd iddo i wneud cais am rôl gyda Heddlu De Cymru.

Ychwanegodd ef: “Oherwydd mai fy nghynlluniau i’r dyfodol oedd ymuno â’r Heddlu, roedd y radd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda PCYDDS yn ddewis amlwg i mi. Yn hytrach na chanolbwyntio ar astudio plismona yn unig, teimlais mai’r peth gorau fyddai cadw fy opsiynau ar agor rhag ofn i mi newid fy meddwl. Ond gwnaeth y cyfleoedd gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru wneud i mi sylweddoli fy mod yn bendant wedi dewis yr yrfa iawn i mi. Dyma gyfle i mi weithio’n agos ac yn rheolaidd gyda swyddogion yr Heddlu.

Enillodd Kane y teitl ‘Myfyriwr-wirfoddolwr mwyaf profiadol De Cymru,’ a dyfarnwyd iddo wobr am ei wirfoddoli ymroddedig yn Help Point Abertawe, lle mae ef wedi chwarae rhan hanfodol yn cadw pobl yn ddiogel.

Meddai Kane fod gwirfoddoli gyda Heddlu De Cymru yn Help Point, Stryd y Gwynt, lle mae diogelwch pobl yn brif ffocws, a gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd o dan amgylchiadau heriol, o les mawr i bawb sy’n ceisio cael gyrfa fel Swyddog yr Heddlu.

Medd ef,”梅helpu yn y modd hwn铁道部bwysig我错过,ac mae’n rhywbeth yr hoffwn barhau ei wneud. Dyna pam yr wyf wedi penderfynu dechrau ar fy ngyrfa blismona fel PCSO gyda Heddlu De Cymru. Diolch i’m gwirfoddoli, yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu, yr holl sgiliau yr wyf wedi’u datblygu, y perthnasau y gwnes i eu hadeiladu a’r bobl y gwnes i eu cwrdd ar hyd y ffordd, roedd ymuno â’r heddlu yn broses lled hawdd ac meddai fy nghyfwelwyr fod fy mhrofiad drwy wirfoddoli wedi gwneud argraff arnynt.

Sefydlwyd Help Point Abertawe gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn 2014 drwy gronfa Arloesi’r Swyddfa Gartref fel menter i leihau’r straen ar y gwasanaethau argyfwng yn ystod yr economi nos. Mae Help Point yn rhedeg ei wasanaeth ar Stryd y Gwynt, Abertawe ar nosweithiau Mercher a Sadwrn rhwng 10 pm a 4 am, yn chwilio am bobl sydd wedi anafu eu hunain, sy’n feddw neu sy’n agored i niwed. Hyd yn hyn, mae wedi helpu dros 5,000 o bobl. Mae Help Point yn fenter amlasiantaethol, gyda Heddlu De Cymru, Ambiwlans Sant Ioan, PCYDDS, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd ABMU yn cydweithio, ac wedi’i leoli yn Y Strand, y tu cefn i Stryd y Gwynt. Pan fo Help Point ar agor, mae Nyrs, Parafeddyg, Ymatebwr Brys, Swyddog yr Heddlu, cynorthwywyr cymorth cyntaf Sant Ioan a myfyrwyr-wirfoddolwyr yr heddlu o brifysgolion Abertawe i gyd yn gweithredu’r cynllun.

Yn eithaf aml, mae’r unigolion sy’n mynychu Help Point yn fyfyrwyr nad ydynt yn lleol ac felly nid yw hi’n bosibl ffonio aelod o’r teulu i’w casglu. Ni wnaiff Help Point adael yr unigolion hynny i fynd tan naill ai eu bod nhw’n gallu gofalu amdano eu hunain, neu eu bod nhw’n cael eu casglu gan ffrind.

MeddaiBronwen Williams, Cyfarwyddwraig Academaidd PCYDDS:“Gwnaeth Kane ymuno â ni yn Y Drindod Dewi Sant ym mis Medi 2017 er mwyn dechrau astudio am radd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac ar gwblhau ei radd yn llwyddiannus yn 2020, parhaodd gyda’i astudiaethau, gan astudio am radd Meistr MA Cyfiawnder Troseddol a Phlismona. Ochr yn ochr â’i radd, gwnaeth ef ymuno â chynllun Myfyrwyr-wirfoddolwyr yr Heddlu (PSV) a grëwyd gan PCYDDS a Heddlu De Cymru.

“Gwnaeth Kane ymgymryd â’i rôl gyda sêl, ac mae wedi rhoi cannodd o oriau i wirfoddoli a bod yn rhan o’r nifer mawr o gynlluniau seiliedig ar y gymuned sydd wedi’u trefnu gan Heddlu De Cymru.

“Y rôl fwyaf gwnaeth Kane ymgymryd â hi oedd ei waith gyda Help Point Abertawe, yn rhoi llawer o’i oriau hamdden i weithio yn yr economi nos er mwyn helpu cadw Dinas Abertawe yn ddiogel a gofalu am y sawl sy’n ymweld â, ac yn noddi Stryd y Gwynt ar nosweithiau allweddol, megis ar nosweithiau Mercher a Sadwrn.

“Mae’r sifftiau hyn yn golygu gweithio o 10pm tan 4am. Mae Kane wedi gweithio am 5 mlynedd yn Help Point gan ddod yn arweinydd tîm yno, yn arwain gwirfoddolwyr wrth iddynt batrolio canol y ddinas a mynd â chleifion yn ôl i Help Point. Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu gofalu am bobl sy’n agored i niwed, sydd wedi anafu eu hunain ac sy’n feddw yng nghanol y ddinas ar noson allan.

“Mae Kane wedi bod yn ased allweddol i’r gwaith hwn, yn aelod gwerthfawr o’r tîm, ac wedi datblygu ei sgiliau gweithio fel aelod o dîm, a’i sgiliau cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a bydd y rhain o fantais fawr iddo wrth iddo ddechrau yn ei rôl fel PCSO i Heddlu De Cymru. Mae ei brofiad gwaith gyda’r Heddlu wedi cyfoethogi ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o weithio yn y sector cyhoeddus ac wedi ei baratoi ar gyfer ei rôl newydd. Rydym yn falch iawn o’i gyflawniadau.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com