Matrics Arloesedd y Drindod Dewi Sant - canolfan newydd ar gyfer arloesi digidol a menter


16.05.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi rhannu ei gweledigaeth ar gyfer Y Matrics Arloesi, y cam nesaf yn Ardal Arloesi’r Brifysgol, rhan o ddatblygiad trawsnewidiol Ardal Arloesi SA1 Glannau Abertawe sy’n cynnwys adeilad yr IQ a’r Fforwm. Y nod yw creu cymdogaeth fywiog lle gall y Brifysgol gydleoli a chydweithio â busnesau a chanolfannau ymchwil arloesol.

The Innovation Matrix is central to the University’s ambition and will provide a new platform for UWTSD’s research and knowledge exchange to connect with, and support, cross-sector MNEs, SMEs, micro-enterprises, entrepreneurs, and investors to stimulate commercial growth for Wales’s expanding digitally empowered economy.

Mae’r Matrics Arloesi’n ganolog i uchelgais y Brifysgol a bydd yn darparu llwyfan newydd ar gyfer ymchwil a chyfnewid gwybodaeth y Drindod Dewi Sant i gysylltu â chwmnïau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig, microfentrau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr ar draws y sector, a’u cefnogi i ysgogi twf masnachol economi ddigidol ehangol Cymru.

Wedi’i ariannu drwy bartneriaeth strategol rhwng y Brifysgol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd y Matrics Arloesi’n annog ac yn cefnogi datblygu economi gynaliadwy, seiliedig ar arloesedd, a fydd yn cynyddu’n sylweddol allu Cymru i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru o adeiladu economi sy’n seiliedig ar wybodaeth, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Bydd yr adeilad carbon isel yn darparu 2,200 metr sgwâr o ofod llawr o ansawdd uchel, a bydd wedi’i leoli ochr yn ochr ag adeiladau presennol y Brifysgol sef IQ a’r Fforwm yng nghanol Ardal Arloesi Abertawe. Bydd y Matrics Arloesi hefyd yn darparu cyswllt hanfodol i gampws ehangach y Brifysgol yn Abertawe, gan gynnwys Technium 1 a 2, Canolfan Dylan Thomas, Campws Busnes Abertawe ac Ardal Gelfyddydol Dinefwr, ALEX ac Adeilad y BBC.

Mae 2022 yn gyfnod cyffrous i'r Brifysgol wrth i ni ddathlu ein daucanmlwyddiant, gan nodi 200 mlynedd ers gosod carreg sylfaen Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 a geni addysg uwch yng Nghymru. Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Heddiw, mae gan y Brifysgol gampysau yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd,

Mae'n briodol y byddwn, yn mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, yn gosod carreg sylfaen arall wrth i ni dorri’r tir ar gyfer y Matrics Arloesi, canolfan arloesi a menter ddigidol newydd.

Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein hanes a’n cysylltiad ag ef, yn enwedig y modd y mae wedi rhoi’r penderfyniad a’r hyder inni i siapio ein dyfodol ein hunain yn ogystal â helpu siapio bywydau unigolion a chymunedau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.”

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd gwaith ar y safle’n cychwyn ym mis Awst/Medi 2022 a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst 2023.

The Innovation Matrix is central to the University’s ambition and will provide a new platform for UWTSD’s research and knowledge exchange to connect with, and support, cross-sector MNEs, SMEs, micro-enterprises, entrepreneurs, and investors to stimulate commercial growth for Wales’s expanding digitally empowered economy.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com