Myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol yn dysgu oddi wrth yr arbenigwr Diwydiant Byd-eang, Ed Sims


10.02.2022

Yn ystod yr wythnos y gwnaeth ef ymddeol, cafodd Ed Sims, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol WestJet Airline Canada ei gyfweld gan fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), fel rhan o gyfres o ddarlithoedd, er mwyn i’r myfyrwyr gael enghreifftiau go iawn o sut olwg allai fod ar eu gyrfa yn y dyfodol, yn ogystal â’r hyn y mae hi’n cymryd i wireddu eu breuddwydion.

Ed Sims, President and CEO of WestJet will address Travel, Tourism and Events students at the University’s Institute of Management and Health on Thursday, November 19 at 3pm.

Ac yntau wedi’i eni a’i fagu yn Abertawe a’i addysgu yn Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, a leolir yn y ddinas honno, mae Ed Sims, drwy gydol ei yrfa yn y diwydiant awyrennau, wedi dangos bod pwyslais ar ddatblygu pobl a chyfathrebu tryloyw yn gamau ymlaen at lwyddiant. Fel Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol, sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol y cwmni a’r gweithrediadau beunyddiol, gwnaeth Ed arwain cyflogeion WestJet gan roi’r pwyslais ar hyn ac ar y gwerthoedd proffesiynol, atebolrwydd, gwydnwch, dilysrwydd, uchelgais a gostyngeiddrwydd.

Wedi’i drefnu gan Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS a phwyllgor myfyrwyr newydd Cangen Cymru’r Institute of Hospitality, amcan y digwyddiad hybrid oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau ar draws Cymru i gwrdd gydag arweinwyr rhyngwladol blaenllaw’r diwydiant a thrafod amrywiaeth o faterion pynciol byd-eang sydd â chysylltiadau cryf â Chymru.

Arweiniwyd sesiwn Holi ac Ateb y myfyrwyr gan Phillipa Fitzgerald, myfyrwraig Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol sydd yn ei blwyddyn olaf yn Y Drindod Dewi Sant ac yn Gadeirydd pwyllgor myfyrwyr IOH Cymru, a gwnaeth hyn alluogi Ed i rannu hanes ei yrfa, un a wnaeth fynd ag ef o Abertawe i Seland Newydd, ac yna i Ganada.

Gwnaeth yr Is-gadeirydd, Joshua Wilson, a ymunodd â’r digwyddiad yn fyw o Ddigwyddiad Addysgol ‘Passion for Hospitality’ yr Institute of Hospitality yn Llundain, hefyd ofyn cwestiynau. Roedd gan y myfyrwyr ddiddordeb arbennig mewn clywed mwy am ddiwylliant rhoi grym unigryw WestJet sy’n canolbwyntio ar bobl, a chawsant eu hysbrydoli gan onestrwydd a brwdfrydedd Ed.

我或Yn siarad ar oldigwyddiad orffen, meddai Ed Sims: “Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i mi rannu storïau a gwersi bywyd gyda’ch carfan dalentog o fyfyrwyr, ac yn y blynyddoedd a ddaw, fe fydd gan bob un ohonynt daflwybr gyrfaol rhagorol oherwydd eu cyfnod yn Y Drindod Dewi Sant”.

MeddaiJacqui Jones, Cyfarwyddwraig y Rhaglen: “Roedd hwn yn ddigwyddiad unigryw a wnaeth alluogi myfyrwyr i drafod materion allweddol gydag un o arweinwyr byd-eang y diwydiant. Nid oes unrhyw amheuaeth bod brwdfrydedd ac awydd Ed wedi gwneud y digwyddiad hwn yn brofiad ysbrydoledig go iawn, nid dim ond o safbwynt y diwydiant a’r myfyrwyr a lwyddodd fynychu’r digwyddiad byw, ond hefyd o safbwynt y sawl a wnaeth wylio’r recordiad nes ymlaen fel rhan o’u hastudiaethau academaidd.”

MeddaiJoshua Wilson Is-gadeirydd pwyllgor myfyrwyr IOH Cymru a Myfyriwr Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol PCYDDS Lefel 5: “Roedd y sesiwn yn ffantastig ac roedd hi’n anrhydedd i fod yn rhan ohoni.”

YchwanegoddPhillipa Fitzgerald: “Mae cofrestru fel myfyrwraig gyda’r Institute of Hospitality wedi cynnig gwledd o gyfleoedd i mi, gan gynnwys bod yn gadeirydd pwyllgor myfyrwyr cangen Cymru’r IoH, a gwnaeth hyn arwain at y pleser a’r fraint o gyfweld ag Ed Sims.”

Ymunodd Ed Sims â WestJet yn 2017 fel Is-lywydd Gweithredol Masnachol, ac fe ddaeth yn Llywydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2018. Gwnaeth arwain WestJet o golled chwarterol cyntaf y cwmni mewn 52 chwarter yn olynol, a’i chwarter cyntaf ef fel Prif Swyddog Gweithredol, i sefyllfa o wneud elw parhaus a sylweddol.

O dan ei arweinyddiaeth ef, cymerodd WestJet gamau breision ymlaen yn ei esblygiad o fod yn gludydd cost isel o le i le, i fod yn gwmni awyrennau â rhwydwaith byd-eang, gyda dyfodiad y 787 Dreamliners cyntaf a chyflwyno gwasanaeth premiwm a chaban busnes. Mae WestJet wedi parhau i gael ei gydnabod fel Hoff Gwmni Awyrennau Canada (Tripadvisor 2017/2018/2019), ac fel cwmni sy’n rhagori’n genedlaethol o ran diogelwch ac effeithlonrwydd gweithredol, gan gael ei enwi ymhlith y 10 uchaf o gwmnïau awyrennau Gogledd America o ran prydlondeb yn 2019 (Cirium).

Yn 2019, arweiniodd Ed y sefydliad trwy’r cytundeb ecwiti preifat mwyaf yn hanes y diwydiant awyrennau wrth i Onex brynu WestJet.

Dechreuodd Ed yn y diwydiant teithio yn y Deyrnas Unedig, ac mae ef wedi mwynhau gyrfa amrywiol yn rhychwantu dros 30 o flynyddoedd ym maes twristiaeth a’r diwydiant awyrennau ar draws marchnadoedd Ewrop, Awstralasia a Gogledd America.

Cyn symud i WestJet, bu Ed mewn uwch swyddi arwain masnachol a gweithredol gyda Tui, Thomas Cook a Virgin, a bu’n gwasanaethu am ddeng mlynedd gydag Air New Zealand, lle bu’n arwain busnes rhyngwladol awyrennau llydan. Cyn ymgymryd â’i swydd gyda WestJet, bu’n gwasanaethu am chwe blynedd fel Prif Swyddog Gweithredol cwmni Airways, darparwr gwasanaeth awyrlywio Seland Newydd.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com