Portalis - Darganfyddiadau cyntaf yng nghloddfa archeolegol Llanllŷr


11.05.2022

Mae staff a myfyrwyr o gampws Llambed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cychwyn ar ei gwaith cloddio yr wythnos hon ar safle ger Talsarn yn Nyffryn Aeron.

First finds at Llanllyr excavation

Gan ddychwelyd i’r safle am y tro cyntaf ers 2019, y gobaith oedd y byddai tystiolaeth bellach o rai o drigolion hynaf Ceredigion yn cael ei datgelu yn ystod y cloddiad. Roedd gwaith blaenorol wedi awgrymu y gallai twmpath isel ar lawr gwastad y dyffryn fod wedi darparu lloches sych mewn tirwedd a oedd fel arall yn gorsiog i bobl tua 6000 o flynyddoedd yn ôl.

O fewn oriau i ddychwelyd i'r safle a thynnu'r dywarchen, darganfuwyd yr eitemau cyntaf. Fflawiau bach, miniog iawn o fflint oedd y darganfyddiadau hyn; y malurion o wneud offer. Nid yw fflintiau'n lleol i'r rhan hon o'r DU ac mae ffynonellau gwreiddiol ar gyfer y fflint yn debygol o ddod o dde Lloegr neu o bosibl Gogledd Iwerddon. Hyd yn hyn darganfuwyd yr eitemau hyn ar ddau dwmpath ar lawr y dyffryn ac er bod ymchwilwyr yn ansicr ar hyn o bryd beth yn union yr oedd y bobl hyn yn ei wneud; gallai hela, pysgota neu hela adar dŵr fod ymhlith rhai o'r posibiliadau.

Dywedodd yr Athro Martin Bates, Academydd Arweiniol ar y prosiect yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae’n gyffrous iawn bod yn ôl ar y safle eto ar ôl 3 blynedd. Mae dod o hyd i’n harteffactau cyntaf mor gyflym wedi bod yn wych i’r tîm a’r prosiect.”

Mae’r gwaith hwn yn rhan o Portalis, prosiect peilot trawsffiniol, traws ddisgyblaethol newydd sy’n archwilio’r cysylltiad cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru. Wedi'i ariannu trwy raglen Cydweithredu Iwerddon Cymru, mae Portalis yn mapio stori'r daith ddynol gyntaf rhwng Iwerddon a Chymru, sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Mesolithig.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfuno’r dystiolaeth bresennol gyda data newydd i ddatblygu naratif trawsffiniol newydd pwerus, sy’n hygyrch o fewn profiad newydd i ymwelwyr yn Amgueddfa Trysorau Waterford, Iwerddon, ac Amgueddfa Ceredigion, Cymru. Nod y prosiect €1.95 miliwn yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltiad cynaliadwy â chymunedau a busnes, gan arwain at sefydlu dau rwydwaith twristiaeth a diwylliannol newydd sbon yng Nghymru ac Iwerddon.

Ychwanegodd Ymchwilydd Ôl-ddoethurol Portalis, Dr Samantha Brummage:

"Mae prosiect Portalis yn caniatáu i ni gysylltu darganfyddiadau newydd o'r cloddiad gyda'r hyn rydyn ni'n ei wybod eisoes o Fae Ceredigion - ac i archwilio cysylltiadau ag Iwerddon a chymunedau ehangach."

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r stori hon, gan archwilio hanes cynnar Ceredigion, yna gallwch ymuno ag archeolegwyr y prosiect yn y maes trwy gydol mis Mai. Mae staff y prosiect yn cloddio tan ddiwedd mis Mai a chroesewir gwirfoddolwyr bob dydd Gwener ac yna drwy gydol yr wythnos olaf o ddydd Llun 23ain i ddydd Gwener 27ain Mai. Defnyddiwch y dolenni sydd wedi'u hatodi i gofrestru a dewch i ymuno â'n prosiect cyffrous.

Cloddiad Archaeolegol Portalis: Helpwch i archwilio cynhanes Ceredigion Tocynnau, Dyddiadau Lluosog | Eventbrite

Os ydych yn ysgol/coleg neu’n grŵp gallwch gofrestru i fynd ar daith o amgylch y safle a dysgu mwy am archeoleg a hanes Dyffryn Aeron.

Cloddiad Archaeolegol Portalis: Dysgwch am gynhanes Ceredigion Tocynnau, Dyddiadau Lluosog | Eventbrite

First finds at Llanllyr excavation

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost atArwel.lloyd@www.guaguababy.com/ 07384 467076