Seminar ar-lein yn archwilio casgliad Llambed o draethodynnau Bowdler


26.01.2022

Bydd y seminar gyntaf yng Nghyfres Trysorau Llanbedr Pont Steffan yn archwilio casgliad y Brifysgol o draethodynnau Bowdler. Caiff y seminar ei thraethu ar-lein gan yr Athro Nicholas Seager, a’i chynnal drwyMicrosoft Teamsar nos Iau, 10 Chwefror am 7.30 yh.

Image of three of the Bowdler Tracts

Datblygwyd y gyfres o seminarau gan dîm Llyfrgell ac Archifau’r Brifysgol er mwyn cefnogi’r ystod o arddangosfeydd ar-lein a ffisegol a gynhelir gydol y flwyddyn yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol.

Mae Traethodynnau Bowdler ymhlith trysorau pennaf llyfrgell y Brifysgol ac yn cynnwys casgliad o 9 000 o bamffledi, a gasglwyd gan dri aelod olynol o deulu Bowdler rhwng 1638 a 1785.

Mae’r pynciau’n amrywio o grefydd i feddygaeth, ac o’r theatr i fasnach dramor a’r trefedigaethau ac maent yn rhoi darlun rhagorol o fywyd yn y 17eg a’r 18fed ganrif.

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig y Brifysgol, “Daeth casgliad Traethodynnau Bowdler i Lambed yn fuan ar ôl marwolaeth Dr Thomas Bowdler IV (1754-1825), sy’n fwy adnabyddus am olygu (glanhau) Shakespeare yn 1818 i gael gwared ar gynnwys a allai fod yn anghymeradwy neu’n anaddas. Aeth ei enw yntau i mewn i’r iaith Saesneg yn y ferf ‘to bowdlerize.’

“Er ei bod yn hysbys bod pamffledi Bowdler wedi cyrraedd Llanbedr Pont Steffan beth amser cyn 1836, mae manylion hyn yn dal yn ansicr. Yn 1811 symudodd Thomas Bowdler IV i’r Rhyddings yn Abertawe a oedd bryd hynny yn rhan o esgobaeth Tyddewi, ac roedd e’n gyfarwydd iawn â’r Esgob Thomas Burgess, sef sylfaenydd Coleg Dewi Sant Llambed. Buont yn rhan o’r un cylch o ffrindiau crefyddol, gan gynnwys William Wilberforce, Hannah More, ac aelodau eraill o Sect Clapham. Yn wir, roedd Bowdler a’i chwaer, Henrietta Maria (golygydd argraffiad cyntaf The Family Shakespeare (1807)) ill dau yn gyfranwyr cynnar at gronfa adeiladu Burgess ar gyfer y coleg arfaethedig.

“Cyflwynodd Dr Bowdler gopïau o nifer o’i gyhoeddiadau ei hun i Burgess ynghyd ag eraill sydd ar gael o hyd yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen. Yn ogystal, yn ystod y flwyddyn cyn iddo farw, bu’n annerch y Royal Society of Literature, a sefydlwyd gan Esgob Thomas Burgess. Efallai mai diddordebau hysbys Burgess ym maes casglu llyfrau oedd yr ysgogiad terfynol a’i anogodd i gyflwyno’r casgliad o bamffledi i Lambed.”

Meddai’r Athro Nicholas Seager,“Mae’r casgliad hwn o bamffledi a thraethodynnau yn adnodd hynod ddiddorol ac anhysbys ar gyfer nifer o bynciau. Mae'n arbennig o gryf o ran darparu tystiolaeth o'r defnydd o bropaganda wrth lunio barn wleidyddol y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn. Ceir hefyd gipolwg diddorol ar yr ofn y gallai pla gyrraedd y wlad yn gynnar yn y 18fed ganrif. Rwyf wedi mwynhau’n fawr y cyfle i gael blas ar y casgliad a dod i adnabod ei gynnwys.”

现成的Meddai艾莉森ng, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu:“Fel rhan o ddaucanmlwyddiant y brifysgol, hoffwn groesawu pawb i’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddathlu’r Casgliadau Arbennig ac Archifau, a hefyd rhannu'r straeon sydd ganddynt i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae’r casgliadau hyn yn rhoi cipolwg anhygoel i ni o’r rhai sydd wedi mynd o’n blaenau, yn rhannol o leiaf, ac wrth wneud hynny yn dweud cymaint wrthym pwy ydym ni nawr”.

Mae seminar yr Athro Nicholas Seager yn rhan o Gyfres y Trysorau lle gwahoddir academyddion blaenllaw i archwilio casgliadau arbennig y Brifysgol. Mae casgliadau Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn cynnwys llyfrau argraffedig hynaf, llawysgrifau ac archifau’r Brifysgol ac maent yn un o brif adnoddau ymchwil academaidd Cymru.

Wedi 'u caffael滴y 200 mlynedd ddiwethaf, ynnnaf trwy gymynroddion a rhoddion, mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 darn o waith argraffedig, wyth llawysgrif ganoloesol yn cynnwys llawysgrif enwog Gwaed y Mynach a Beibl Llambed sy’n dyddio o 1279, tua 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol, a 69 incwnabwla. Mae deunydd yr Archifau'n cynnwys cofrestri myfyrwyr cynnar a ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Gellir darganfod mwy am Draethodynnau Bowdler ardudalennau gwe y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu.

Mae Tîm y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi trefnu cyfres o arddangosfeydd a seminarau fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Brifysgol sy’n coffau sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru.

Yn ystod y flwyddyn, mae digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu trefnu ar draws campysau’r Brifysgol.Am fwy o wybodaeth ac ar gyfer ein calendar mwyaf diweddar ewch i’n gwefan.

Gwybodaeth Bellach

Mae’r Athro Nicholas Seager yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ac yn Bennaeth Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol Keele. Mae wedi cyhoeddi ar awduron gan gynnwys John Bunyan, Jonathan Swift, Eliza Haywood, Daniel Defoe, Samuel Richardson, Laurence Sterne, Samuel Johnson, Oliver Goldsmith, a Jane Austen. Yn ddiweddar golygodd gasgliad o ohebiaeth Daniel Defoe, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2022.

Dolen i’r seminar ar Microsoft Teams:

https://teams.microsoft.com/registration/-REPTm4EBUWcuNshUjEeIQ,i5KWJtWu0kGSNU4I7dvx5Q,sSB67rrdyUqxtjT9eAOI0g,QvpkXLUiiU-mVR6PvL0uPw,FG5kqIq6vk6k9RcsHa_BuA,tPg2kbQclUiY2-hqhEJOAQ?mode=read&tenantId=4e0f11f9-046e-4505-9cb8-db2152311e21