Taith dysgu un o raddedigion PCYDDS Llundain i ysbrydoli ei mab ifanc


22.02.2022

”潘wnaeth忠诚Wajeeh Nasser, un o raddedigionBA Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y GweithlePCYDDS Llundain, gyrraedd gyntaf yn y DU, roedd hi eisoes wedi dioddef taith bywyd emosiynol ac anodd. Yma, mae hi’n canmol PCYDDS am ei helpu hi i droi ei bywyd o gwmpas a rhoi iddi’r sgiliau a’r hyder i gael gyrfa ac i ysbrydoli ei mab ifanc.

Wafa Wajeeh Nasser and her son Yousef

Yn frodorol o Balestina, magwyd Wafa yn Kuwait gyda’i saith sibling, ar ôl i’w rhieni gael eu gorfodi i ffoi ar droed yn ystod y feddiannaeth.

Wedi’i hannog i astudio’n galed yn yr ysgol a’r coleg, cafodd cynlluniau Wafa i ennill ysgoloriaeth feddygol ac ymuno â’i brawd hŷn yn yr Unol Daleithiau eu hatal pan ddechreuodd Rhyfel y Gwlff ac felly, ymadawodd y teulu â Kuwait i ddechrau bywyd newydd yng Ngwlad Iorddonen.

Gwnaeth dechrau eto o’r cychwyn cyntaf o dan amgylchiadau anodd olygu byddai rhaid i freuddwydion Wafa am yrfa aros wrth iddi hi chwilio am waith i helpu ei rhieni a’i siblingiaid a oedd ar ôl.

Meddai hi: “Ar ôl nifer o flynyddoedd, cofiais unwaith eto am y freuddwyd a dechreuais astudio dylunio mewnol ac yna, chwilio am waith yn fy maes astudio, ond am fy mod yn ferch, methais ddod o hyd i waith.

“Roeddwn yn teimlo’n rhwystredig, ond bu rhaid i mi chwilio am waith. Ymgofrestrais ar gwrs trin gwallt a harddwch a dechreuais weithio yn y diwydiant hwnnw, ond oherwydd roeddwn yn fenyw ddi-briod, ac oherwydd y pwysau cymdeithasol, yr arferion a’r traddodiad a oedd yn bodoli, nid oeddwn yn gallu parhau i wneud hynny.”

O ganlyniad, symudodd hi i Lundain a dechreuodd weithio fel triniwr gwallt a harddwraig mewn salon. Yn dilyn hynny, er gwaethaf atalfeydd pellach, gwnaeth hi ddarganfod ei bod hi’n feichiog gyda’i mab Yousef; meddai Wafa mai hwnnw oedd y sbardun yr oedd ei angen arni i ddychwelyd i fyd addysg a dilyn gyrfa.

Meddai hi: “Roedd y daith yn hir ac yn llawn trafferthion, dioddefaint a salwch, ond yn y diwedd, ar ôl 14 o flynyddoedd, roeddwn yn gallu gweld ffordd well o’m blaen. Roeddwn yn benderfynol o ddechrau ar daith newydd ac ymladd dros fywyd gwell. Yr hyn a ddaeth â’r holl gryfder a disgleirdeb i’m bywyd oedd fy mab, Yousef.

“Rwyf am fod yn esiampl dda iddo a chyflawni fy nodau maes addysg gan weithio ar yr un pryd, ac felly, ymunais â PCYDDS. Dr Audsin Dhas oedd yr un a wnaeth fy ysgogi, rhoi hyder i mi a fy nghefnogi, ac ni allaf ei ddiolch digon. Ar ôl ymuno â PCYDDS, dechreuodd fy mywyd newid a dechreuais newid bywydau pobl eraill, ac felly, ni fyddaf fyth yn rhoi’r gorau i ddysgu.

“Boed diolch i Allah a diolch i bawb ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi fy nysgu i gredu yn fy hun. Diolch arbennig i chi fy nhiwtoriaid, staff y brifysgol a’m cydweithwyr am fy mywyd mwy disglair newydd – byddwch bob amser yn rhan ohono.”

Mae Wafa bellach yn parhau ar ei thaith dysgu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Llundain ac yn astudio am gymhwyster MBA mewn Marchnata.

Meddai Dr Audsin Dhas, Deon Gweithredol a Phennaeth campws Llundain: “Mae Wafa yn symbol eiconig o sut y gall penderfyndod a dyfalbarhad arwain at gyflawni eich nodau. Er gwaethaf yr holl heriau, parhaodd hi yn gadarn gyda gwên bob amser ar ei hwyneb, Dymunaf bob dymuniad da iddi”.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com