Cyn Diwrnod Canlyniadau
Cam 1 – Byddwch yn Barod
- Gwnewch yn siwr bod eich manylion logio mewn i UCAS Track i law.
- Gwnewch yn siwr bod y manylion cyswllt rydych wedi’u rhoi’n gywir.
- Gwnewch yn siwr eich bod ar gael ar ddiwrnod canlyniadau, a bod gennych fynediad at ffôn.
Diwrnod Canlyniadau
Cam 2 – Edrychwch ar eich Statws ar UCAS Track
- Ewch iUCAS Tracka logiwch i mewn i edrych ar eich statws. Os ydych yn gymwys i ddefnyddio Clirio bydd ‘Add Clearing Choice’ yn ymddangos ar eich tudalen broffil, ynghyd â’ch rhif clirio.
- Gwnewch gofnod o’ch rhif clirio – bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn ein ffonio.
- Os nad ydych yn siwr beth y mae eich statws UCAS Track yn ei olygu,edrychwch ar ganllaw UCAS YMA
Cam 3 – Dod o hyd i Gyrsiau Clirio
Os ydych yn gymwys i fynd trwy Clirio, bydd arnoch angen ffeindio cwrs yr hoffech wneud cais amdano. Edrychwch yma ar y rhestr o gyrsiau sydd ar gael gennym trwy Clirio yma.
Chwiliwch isod neuporwch y meysydd pwnc
Cam 4 – Ffoniwch Ni
Ffoniwch y llinell gymorth clirio ar0300 323 1828i siarad gyda thîm y Gofrestrfa.Mae’r amseroedd agor ar gyfer llinell gymorth Clirio isod:
Dydd Mawrth 10fedAwst |
8.30a.m. - 8.00p.m. |
Dydd Mercher, 11egAwst |
8.30am - 8.00pm |
Dydd Iau, 12fedAwst |
8.30am - 5.00pm |
Dydd Gwener, 13egAwst |
8.30am - 5.00pm |
Dydd Sadwrn, 14egAwst |
10.00am - 4.00pm |
Dydd Llun, 16egAwst ymlaen |
Oriau swyddfa arferol |
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn gallu gwneud penderfyniad ‘yn y fan a’r lle’ ynghylch p’un a allwn gynnig lle i chi neu beidio. Cewch hefyd gyfle i siarad gyda thiwtor derbyn eich dewis gwrs i ddysgu rhagor am astudio yn Y Drindod Dewi Sant.
Cam 5 – Cadarnhau eich bod yn derbyn y cynnig
- 我dderbyn静脉cynnig bydd rhaid我气fewngofnodii UCAS Track a rhoi’r manylion i mewn fel dewis clirio (‘clearing choice’) ar eich proffil erbyn y dyddiad rydym wedi’i roi i chi.
- Unwaith y byddwn wedi prosesu’ch cais ac wedi cadarnhau eich bod yn bodloni unrhyw amodau, byddwn yn cadarnhau eich lle ac fe fydd yn ymddangos yn eich proffil ‘Track’ gyda’r gair ‘Unconditional’.