Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod gan yr ymchwilwyr anghenion hyfforddi a datblygu penodol. Nod y rhaglen datblygu ymchwilwyr newydd yw cefnogi staff ymchwil trwy ddarparu gweithgareddau datblygu sydd wedi eu halinio â Strategaeth Ymchwil ac Arloesi’r Drindod Dewi Sant a nodau gyrfa’r unigolyn.
Mae cyfleoedd datblygu ymchwilwyr i staff wedi’u mapio yn ôlFframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF). Gweler isod ein rhaglen o ddigwyddiadau ar y gweill a dolenni i adnoddau dysgu eraill yn ymwneud ag ymchwil.
Digwyddiadau datblygu ymchwilwyr ar y gweill
Dyddiad | Teitl | Disgrifiad | Archebu |
---|---|---|---|
19 Ebrill 2023 10.00 i 11.30 |
Cynefino INSPIRE | Yn agored我或霍尔员工,bydd y digwyddiad cynefino hwn yn eich cyflwyno i dîm INSPIRE, Ymchwil ac Arloesi yn PCYDDS, a’r cymorth sydd ar gael i chi. | Archebwch Le |
19 Ebrill 2023 14.00 i 15.00 |
Parodrwydd am Grant i Ymchwilwyr Dechrau Gyrfa | Eich taith o fod yn Gynorthwyydd Ymchwil i Gyd/Brif Ymchwilydd. Cyflwynir y sesiwn hon gan is-adran ymchwil INSPIRE. | Archebwch Le |
20 Ebrill 2023 10.00 i 11.00 |
Cyfnewid Gwybodaeth ac Effaith | Sut i droi eich canfyddiadau yn newid a lles yn y byd go iawn. Cyflwynir y sesiwn hon gan is-adran ymchwil INSPIRE. | Archebwch Le |
20 Ebrill 2023 14.00 i 15.00 |
Academi Fyd-eang Cymru | Dysgwch am y cyfleoedd i ymchwilwyr gyda’r fenter PCYDDS hon sy’n cysylltu sefydliadau byd-eang â’r Brifysgol. | Arhebwch Le |
24 Ebrill 2023 11:00 i 12:00 |
Chwilio’r Llenyddiaeth: Sgiliau Gwybodaeth Hanfodol i Ymchwilwyr | Eisiau dysgu rhagor am gyrraedd a defnyddio adnoddau Ar-lein Llyfrgell PCYDDS? Os felly mae’r sesiwn hon i chi! | Ymunwch ar-lein drwy MS Teams |
26 Ebrill 2023 12.00 i 13.00 |
Moeseg Ymchwil yn y Drindod Dewi Sant | Dysgwch am y broses Moeseg Ymchwil yn y Drindod Dewi Sant. Cyflwynir y sesiwn hon gan Dr Rebekah Humphreys, Cadeirydd Pwyllgor Moeseg y Drindod Dewi Sant, Dr Nik Whitehead, a Dr Matt Briggs, Pennaeth Is-adran Ymchwil INSPIRE. | Archebwch Le |
2 Mai 2023 14.00 i 15.00 |
Cymdeithas Ddysgedig Cymru | Dysgwch ragor am Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r cyfleoedd sydd ar gael i ymchwilwyr. Cyflwynir y sesiwn gan Cathy Stroemer, Arweinydd Rhaglen Cymru Gyfan a Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Swyddog Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru. | Archebwch Le |
Ar gael unrhyw bryd
Cwrs e-ddysgu manwl ar-lein sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ymchwilwyr i ddylunio a chyflwyno gweithgareddau mewn ffordd foesegol gadarn a thrylwyr. Cyrchwch trwyMoodle.
Casgliad o gyrsiau e-ddysgusydd wedi’u cynllunio i gefnogi cyfnodau gwahanol y cylch oes ymchwil. Cyrchwch trwy lwyfanNature.
Mae eich cyfeiriad e-bost PCYDDS yn eich caniatáu i gyrchu miloedd o gyrsiau ar-lein. Gallwchgyrchu’r porth ymaa bydd y dolenni isod yn mynd â chi’n uniongyrchol at gynnwys awgrymedig yn ymwneud ag ymchwil.
- Hanfodion Ymchwil Academaidd: Meintiol
Mae ymchwil meintiol yn rhan hollbwysig o astudiaeth academaidd ac yn fethodoleg ymchwil ysgolheigaidd hanfodol. Yn y cwrs hwn, mae’r addysgwr Rolin Moe yn archwilio hanfodion y fethodoleg hon i’ch helpu i fynd i’r afael â’ch astudiaeth ymchwil feintiol eich hun. - Hyfforddiant Hanfodol SPSS Statistics
Rhaglen dadansoddi ystadegau a data i fusnesau, llywodraethau, sefydliadau ymchwil, a chyrff academaidd yw SPSS Statistics. Yn y cwrs hwn, mae Barton Poulson yn defnyddio dull ymarferol, gweledol, ac anfathemategol o ymdrin â SPSS Statistics. - Hanfodion Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial: Coed Penderfynu gydag SPSS
Mae llawer o arbenigwyr gwyddoniaeth yn ceisio newid tuag at ganolbwyntio ar ddysgu peirianyddol. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â hanfodion dysgu peirianyddol, gan gynnwys dadansoddeg ragfynegol a gweithio gyda choed penderfynu. - Hyfforddiant Hanfodol R: Ymdrin â Data a’i Ddelweddu
Iaith raglennu ystadegol yw R i ddadansoddi a delweddu’r berthynas rhwng symiau mawr o ddata. Mae’r gyfres hyfforddi hon yn rhoi cyflwyniad trylwyr i R, gyda chyfarwyddyd manwl ar gyfer gosod a llywio R ac RStudio ac enghreifftiau ymarferol, o graffeg archwiliadol i rwydweithiau niwral. - Delweddu Data: Adrodd Straeon
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda data ac sy’n gorfod ei gyfleu i eraill, boed yn ymchwilydd, dadansoddwr data, ymgynghorydd, marchnatwr, neu ohebydd. Mae Bill yn dangos i chi sut i feddwl am, a llunio, straeon o ddata trwy archwilio sawl stori gymhellol yn fanwl. - Llythrennedd Gwybodaeth
Llythrennedd gwybodaeth yw’r gallu i ddarganfod a defnyddio mathau amrywiol o wybodaeth. Mae’n sgil hanfodol ar gyfer llywio’r oes wybodaeth. Gwyliwch y cwrs hwn i ddysgu am strategaethau ar gyfer canfod gwybodaeth – o lyfrgell, archif, cronfa ddata, neu’r Rhyngrwyd – a moeseg ei defnyddio. - Ysgrifennu Cynnig Busnes
Yn y cwrs hwn, mae Judy Steiner-Williams, awdur ac uwch ddarlithydd o Ysgol Fusnes Kelley, yn dangos awgrymiadau a thechnegau i chi er mwyn ymateb i “gais am gynnig” (RFP) a saernïo cynnig wedi’i lunio’n dda o’r dechrau. - Cynnal Ymchwil mewn Byd Ar Ôl y Pandemig
Yn y cwrs hwn, mae Cory Lebson, hyfforddwr ac arbenigwr UX, yn rhoi trosolwg i chi o’r ystyriaethau allweddol, yr heriau, a’r arferion gorau ar gyfer cynnal ymchwil cynhyrchiol o bell.
Hyfforddiant Python
- Python i’r Rhai Nad Ydynt yn Rhaglennu
Yn y cwrs hwn, mae Nick yn addysgu hanfodion Python i chi: rhywun nad ydych yn rhaglennu, defnyddiwr ag ychydig neu ddim profiad o godio. Cewch ddysgu mwy am beth yw Python, a’r hyn y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer. - Python Canolradd i’r Rhai Nad Ydynt yn Rhaglennu
Gwthiwch eich set sgiliau gyda chysyniadau mwy datblygedig a heriau codio trwy gwblhau’r tri phrosiect ymarfer, gan gynnwys daroganwr tywydd, crafwr gwe, a rhestr i’w gwneud. Dysgwch ragor am ddosbarthiadau mewn rhaglennu sy’n canolbwyntio ar wrthrychau yn ogystal ag adnoddau rhaglennu swyddogaethol a sut i greu, golygu a dileu ffeiliau. - Hyfforddiant Hanfodol Python ar gyfer Gwyddor Data Rhan 1
Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Lillian Pierson yn eich tywys gam wrth gam trwy brosiect gwyddor data ymarferol: crafwr gwe sy’n lawrlwytho ac yn dadansoddi data o’r we. - Hyfforddiant Hanfodol Python ar gyfer Gwyddor Data Rhan 2
Yn y cwrs hwn, mae’r hyfforddwr Lillian Pierson yn eich tywys gam wrth gam trwy brosiect gwyddor data ymarferol: adeiladu modelau dysgu peirianyddol a all gynhyrchu rhagfynegiadau ac argymhellion ac awtomeiddio tasgau arferol.
Ar gyfer pob cyfle datblygu nad yw’ymwneud ag)chwil, ewch iHwb Datblygu Staff PCYDDSi gael rhagor o wybodaeth.
Casgliad gwybodaeth ac adnoddauLlyfrgell PCYDDS i gefnogi staff a myfyrwyr.
Ewch i’r GanolfanDdigidoli gael casgliad o adnoddau i gefnogi eich datblygiad sgiliau digidol ac i roi’r hyder i chi ddefnyddio adnoddau digidol.
I drafod eich sgiliau ymchwil a’ch anghenion datblygu, cysylltwch âinspire@pcydds.ac.uk