Y Drindod戴维·桑特Heddluoedd De经营户格温特郡i gyflwyno Fframwaith Cymwysterau Addysg newydd ar y cyd ar gyfer swyddogion dan hyfforddiant


03.09.2018

Mae’n bleser mawr gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi partneriaeth gydweithredol gyda Heddluoedd De Cymru a Gwent i gyflwyno’r Fframwaith Cymwysterau Addysg newydd ar gyfer yr Heddlu.

Bydd y cydweithrediad, mewn ymateb uniongyrchol i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona, yn cyd-gyflwyno gradd-brentisiaeth, diploma ôl-raddedig mewn plismona, a’r radd cyn-ymuno newydd mewn Arfer Plismona Proffesiynol, sydd wedi’u cynllunio i godi safon plismona.

Meddai Wynne Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen ac Arweinydd Prosiect ar gyfer Plismona yn y Drindod Dewi Sant “Oherwydd y newidiadau hyn, mae heddluoedd ar draws y wlad yn gweithio ar y cyd â Sefydliadau Addysg Uwch i ddatblygu’r cymwysterau hyn a chyflwyno dulliau cyfunol tuag at hyfforddiant addysgol a phroffesiynol. Rydym ni’n falch iawn o weithio gyda heddluoedd De Cymru a Gwent.”

Meddai Richard Lewis, Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu De Cymru “Mae plismona’n dod yn fwyfwy cymhleth a heriol, ac mae’r disgwyliadau sydd ar swyddogion yr heddlu i ddelio â’r materion troseddol a chymdeithasol anodd a chymhleth hynny sy’n eu hwynebu, yn cynyddu. Felly, mae angen i Heddlu De Cymru sicrhau bod pob un o’n swyddogion wedi cael ei addysgu a’i hyfforddi mewn ffordd sy’n ei baratoi ar gyfer yr heriau hynny.

“I’r perwyl hwn, yn ddiweddar daeth Heddlu De Cymru yn un o’r heddluoedd cyntaf yn y wlad i gynnig cyfle i ddarpar recriwtiaid ymuno â’r heddlu trwy un o dri llwybr mynediad newydd; y Radd-brentisiaeth ar gyfer Cwnstabliaid yr Heddlu; y Rhaglen Fynediad i Raddedigion, ac ym mhen hir a hwyr, drwy’r radd Cyn-ymuno mewn plismona.

“Er mwyn cyflwyno’r rhaglen o ddysgu sydd ei hangen ar gyfer y Brentisiaeth a’r Rhaglen Fynediad i Raddedigion, rydym ninnau, gyda’n cydweithwyr ym mhob un o’r heddluoedd eraill, wrth ein boddau i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac edrychwn ymlaen at weld swyddogion dan hyfforddiant sy’n ymuno â heddluoedd De Cymru a Gwent yn datblygu o dan y trefniadau newydd hyn yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus “Dyma enghraifft ardderchog o’r ffordd rydym ni’n ailddiffinio ein harlwy er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at addysg uwch, pa le bynnag y maen nhw yn y byd. Rydym ni’n gweithredu o fewn cymuned fyd-eang sy’n wynebu heriau cyffredin, a bydd y rhaglenni hyn yn rhoi i’n myfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn dod o hyd i atebion ar gyfer heriau o’r fath. Mae prentisiaethau Lefel Uwch yn ein galluogi i greu cymdogaeth sydd â gweithgarwch academaidd yn graidd iddi er mwyn denu sefydliadau i gydleoli â’r Brifysgol i fanteisio ar wybodaeth, datblygu sgiliau, cynorthwyo sefydliadau sydd eisoes yn bodoli, a denu buddsoddiad newydd i’r ardal”.

Mae gan y Drindod Dewi Sant dîm mewnol cydweithredol o’r Gyfadran Busnes a Rheolaeth, sy’n cynnwys y tîm Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored a thîm Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, ochr yn ochr â thîm Datblygu Prentisiaethau’r Brifysgol. Bellach, bydd y tîm hwn yn gweithio mewn partneriaeth â heddluoedd De Cymru a Gwent er mwyn cyflwyno’r Radd-brentisiaeth a’r diploma ôl-raddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

天哪porate Communications and PR

Tel: 01792 483695
Mobile: 07384 467071
Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com