Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus y Drindod Dewi Sant i Mrs Uzo Iwobi OBE, Prif Weithredwr Race Council Cymru


16.07.2019

Heddiw (dydd Mawrth, 16 Gorffennaf), dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus i Mrs Uzo Iwobi OBE, Prif Weithredwr Race Council Cymru, gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mrs Uzo Iwobi stands smiling at a lectern wearing academic robes and hat.

Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria; yna, enillodd gymhwyster fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr, ac fe’i galwyd i’r Bar yn Nigeria.

Yn 2004, ymunodd â Heddlu De Cymru, ac yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (African Community Centre - ACC) gyntaf yng Nghymru, gan weithio fel Cadeirydd y ganolfan honno am 15 mlynedd.

Penodwyd Uzo i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu (Police National Diversity Team - PNDT) a leolir yn Y Swyddfa Gartref er mwyn cynrychioli Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (Association of Chief Police Officers - ACPO) a’r 43 o heddluoedd sydd yn y DU mewn partneriaeth deir-ran strategol ar lefel uchel, gan gynnwys Y Swyddfa Gartref, Yr Awdurdod Heddlu ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi i gyflawni’r dasg o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Wrth dderbyn y dyfarniad, meddai Mrs Uzo Iwobi OBE:

“Rydw i mor falch ac mor gyffrous i dderbyn yr anrhydedd hon. Doedd gen i ddim syniad a doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl. Mae’n dipyn o fraint meddwl bod sefydliad y bûm yn gweithio ynddo fel darlithydd cyfraith rhan amser flynyddoedd yn ôl ac wedi astudio ynddo hefyd - rhywle lle mae pobl wedi buddsoddi ynof i ac wedi fy helpu i ddatblygu - wedi cofio amdanaf yn y ffordd yma.

Rydw i eisiau dweud wrth yr holl fyfyrwyr - credwch ynoch chi'ch hun, gweithiwch yn galed iawn, peidiwch byth â chymryd na fel ateb, daliwch ati i gnocio ar y drysau a byddwch yn barod i fethu, ond mae hynny'n iawn oherwydd mae’n gyfle i ddysgu - ond peidiwch byth rhoi'r gorau iddi. Os wnewch chi gadw mewn cof yr hyn yr ydych chi wedi'i ddysgu yn y Brifysgol hon yna rwy’n ffyddiog y byddwch yn llwyddiannus dros ben.”

Cyflwynodd yr Athro Michael Fernando, Deon y Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg, Mrs Uzo Iwobi OBE i’r gynulleidfa. Ychwanegodd yntau:

“Mae Uzo yn gyfreithiwr profiadol iawn ac yn fargyfreithiwr sydd wedi helpu i lywio polisïau gwrth-wahaniaethu, cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws gwahanol sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi ei gwreiddio'n ddwfn ym mywyd cymunedol Cymru ac mae ei chysylltiadau â'r sefydliad hwn yn mynd yn ôl yn bell.

Is-ganghellor, mae'n briodol ar y diwrnod hwn lle rydych wedi annog ein graddedigion i wasanaethu'r gymuned, ein bod yn anrhydeddu Mrs Iwobi. Mae Uzo yn symbol o’r hyn y gall rhywun ei gyflawni pan fyddwch yn defnyddio arbenigedd a sgiliau academaidd er budd y gymuned gyfan. Mae Uzo wedi cyfrannu at sicrhau bod Cymru'n genedl gynhwysol i bobl o bob cefndir.”

Uzo oedd y Comisiynydd benywaidd Affricanaidd du cyntaf i gael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol i weithio fel comisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU.

Mrs Uzo Iwobi receives her Honorary Fellowship