Myfyrwraig o'r Drindod Dewi Sant yn ennill BA anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Twristiaeth ar ôl cael ei hysbrydoli i ddychwelyd i addysg gan ei merch


24.08.2021

Mae myfyriwr aeddfed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Twristiaeth ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei merch i ddychwelyd i addysg. Bu Becky Lloyd o Dyddewi, Sir Benfro, yn jyglo swydd ac yn magu teulu wrth astudio ar gyfer ei gradd.

Becky Lloyd from St Davids, Pembrokeshire, juggled a job and raising a family while studying for her degree

“Des我nol ar ol 26mlynedd i ychwanegu at fy HND yn rhan-amser i lefel radd," meddai. "Fe wnes i gefnogi fy merch i fynd i’r brifysgol a gweld ei thaith hi a dyna a wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn gradd fy hun. Roedd fy mhlentyn ieuengaf newydd ddechrau yn yr ysgol yn bump oed ac roeddwn i eisiau defnyddio fy ymennydd eto ar ôl bod gartref gydag un bach a gweithio mewn swydd ran-amser yn weinydd."

A hithau wedi astudio yn Y Drindod Dewi Sant o'r blaen, teimlai Becky yn hyderus wrth ddychwelyd i'r brifysgol – yn enwedig gan fod rhai o'i hen ddarlithwyr yn dal yno.

"Roedd Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau, mor gefnogol a ches i fy annog i ddod yn ôl pan welais i ei bod hi’n credu ynof i ac yn credu y gallwn i wneud hynny," meddai. "A minnau’n byw yng ngorllewin Cymru, roedd cael astudio yn Abertawe yn berffaith ac roeddwn i’n teithio ar y trên ar gyfer darlithoedd – a oedd yn brofiad braf iawn. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn y llyfrgell gan fod hynny’n caniatáu i mi ganolbwyntio heb orfod meddwl am fywyd cartref a phethau a allai dynnu sylw. Roedd yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio o ddifri."

Gan ei bod hi’n byw mewn man poblogaidd i dwristiaid, bu Becky yn angerddol am arferion twristiaeth cynaliadwy erioed, felly gwnaeth hyn yn ffocws pwysig yn eu hastudiaethau.

"Ar ôl astudio effeithiau gordwristiaeth, ysgrifennais i fy nhraethawd hir ar beth oedd trigolion Penrhyn Tyddewi yn ei feddwl am effeithiau economaidd-gymdeithasol hyn a sut yr effeithiodd hyn ar ansawdd eu bywyd," meddai. "Rwy wedi darganfod arferion twristiaeth adfywiol ac wedi cael fy ysbrydoli i weithio yn y maes hwn."

Bellach mae Becky yn Rheolwr Marchnata ar fusnes gosod gwyliau hunanarlwyo ac mae hefyd yn weithgar iawn gyda chelfyddydau cymunedol a phrosiectau cynaliadwy ym Mhenrhyn Tyddewi.

"Hoffwn i weithio i hyrwyddo arferion twristiaeth adfywiol er lles fy nghymuned a'r gyrchfan yn ei chyfanrwydd a'i hymwelwyr," meddai. "Heb os nac oni bai, byddwn i’n argymell y cwrs yn frwd i eraill fel finnau. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddychwelyd i astudio a rownd yr eildro. Rydych chi'n gwybod beth rydych chi ei eisiau ac yn gallu canolbwyntio'n well."

Ychwanegodd Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau yn Y Drindod Dewi Sant:

"Mae wedi bod yn braf iawn cael croesawu Becky yn ôl i'r brifysgol ar ôl toriad mor hir a gweld ei llwyddiant academaidd a’i bod yn hyrwyddo ei gyrfa. Nid yn unig y mae Becky wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau dosbarth cyntaf yn ei holl bynciau a datblygu awch dros dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol, ond yn ystod pandemig Covid mae hi wedi bod yn ysbrydoledig yn gweithio ar ymgyrchoedd celfyddydol a diwylliannol, yn gwirfoddoli gyda glanhau traethau ar draws Sir Benfro ac yn arwain menter i annog cymunedau lleol i wneud baneri i roi sglein ar drefi a phentrefi disglair ledled gorllewin Cymru.

"Mae wedi bod yn bleser gwylio llwyddiant Becky o’r adeg pan ddechreuodd yn fyfyriwr ifanc a oedd yn mwynhau bywyd prifysgol, lleoliadau a theithiau maes yn Ewrop, i weithio'n rhan-amser yn y diwydiant twristiaeth wrth gefnogi ei theulu ifanc, i raddio erbyn hyn gyda gradd dosbarth cyntaf a datblygu gyrfa newydd gyffrous. Pob dymuniad da i Becky yn y dyfodol."

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol一Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com