Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn codi yn nhabl canllaw da The Times a The Sunday Times 2022
17.09.2021
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dathlu ei llwyddiant diweddaraf ar ôl codi deunaw safle yn nhablThe Times and The Sunday Times Good University Guide 2022.
Mae’r tabl cynghrair hwn a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 17 Medi) yn darparu gwybodaeth ynghylch safleoedd a phroffiliau llawn 131 o brifysgolion y DU. Mae’r canllaw yn canolbwyntio ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr diweddaraf ac yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel ‘ansawdd y dysgu’ a ‘phrofiad myfyrwyr’, yn ogystal â ‘chynhwysiant cymdeithasol’, ‘myfyrwyr aeddfed’ a ‘myfyrwyr ag anabledd’.
Un o’r mesurau allweddol ynThe Times a The Sunday Times Good University Guide 2022yw ‘ansawdd y dysgu’ lle sicrhaodd y Drindod Dewi Sant y 13eg safle yn y DU. Sicrhaodd y Brifysgol hefyd 8fed ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’, 6ed ar gyfer ‘myfyrwyr ag anabledd’ ac 8fed ar gyfer ‘myfyrwyr aeddfed’.
Dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt y Brifysgol ar gyfer Profiad Academaidd:
"Mae hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad staff ledled y Brifysgol. Maent yn angerddol am addysgu a chefnogi ein myfyrwyr i wella eu profiad prifysgol.
Rydym falch iawn gyda'n 13eg safle mewn perthynas â boddhad y myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu. O dan amodau heriol y pandemig, mae sgorio'n uchel yn y mesur allweddol hwn yn bwysig i'r Brifysgol gan fod hwn yn faes lle credwn ein bod yn gallu cynnig gwerth ychwanegol i bawb sy'n astudio gyda ni.”
Nododd The Times a Sunday Times:
“Mae gan y brifysgol record gref o foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) ac mae wedi gwneud yn dda i ddod yn 13eg yn genedlaethol am ansawdd addysgu eleni o dan amodau heriol y pandemig. Ochr yn ochr â phrofiadau personol ar y campws, mae dysgu o bell yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddarparu cyrsiau israddedig.”
Mae’r brifysgol hefyd yn dathlu nifer o lwyddiannau ar lefel pwnc. Mae darpariaeth ‘Celf a Dylunio’ a ‘Pensaernïaeth’ y Brifysgol ill dau wedi eu gosod yn 19eg yn gyffredinol yn y DU. Mae canlyniadau nodedig eraill ar lefel pwnc yn cynnwys:
- 2il yn y DU am ‘ansawdd y dysgu’ mewn Peirianneg Awyrennol a Gweithgynhyrchu.
- 2il yn y DU am ‘ansawdd y dysgu’ addysgu’ mewn Peirianneg Fecanyddol.
- 3ydd yn y DU am ‘ansawdd y dysgu’ yn y Clasuron.
- 3ydd yn y DU am ‘ansawdd y dysgu’ mewn Hanes.
Daw cynnydd y Drindod Dewi Sant ynThe Times and Sunday Times Good University Guide 2022yn fuan ar ôl iDabl 2022 Cynghrair Prifysgol y Guardiangael ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf lle gosodwyd y Brifysgol yn 1af yng Nghymru mewn 10 pwnc ac yn y pymtheg uchaf yn y DU mewn 6 phwnc.
Nodyn i'r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost atArwel.lloyd@www.guaguababy.com/ 07384 467076