Un o raddedigion Rheolaeth Chwaraeon PCYDDS yn hyfforddi mewn Academi Bêl-droed yn America


13.09.2021

Mae un o raddedigion y cwrs Rheolaeth Chwaraeon o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gweithio fel hyfforddwr mewn Academi Tîm Pêl-droed yn Dallas, Texas, ac yn defnyddio ei arbenigedd i adnabod talent newydd fel rhan o’r rôl honno.

Rhys Surringer is dressed in academic robes for his graduation, and holds up his framed degree certificate.

Dymuniad Rhys Surringer o Gastell-nedd bob amser oedd teithio a gweithio dramor. Mae poblogrwydd chwarae pêl droed yn cynyddu yn Unol Daleithiau America ac meddai Rhys fod academïau UDA am gyflogi mwy o hyfforddwyr Prydeinig ac Ewropeaidd. Mae Rhys wedi cwblhau ei gymwysterau hyfforddi ac wedi ennill gradd Rheolaeth Chwaraeon PCYDDS. Mae bellach wedi llwyddo sicrhau teitheb dymor hir sydd wedi rhoi’r cyfle gwych hwn iddo.

Penderfynodd Rhys i astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd roedd e’n chwilio am her newydd. Ar ôl treulio 10 mlynedd yn gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd ac mewn campfa, roedd am ddatblygu ei lwybr gyrfa o fewn y diwydiant chwaraeon.

“Gwnaeth y radd BA Rheolaeth Chwaraeon fy ngalluogi i ddatblygu fy ngwybodaeth o fewn yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach gan roi i mi’r sgiliau perthnasol a’r gallu i’w defnyddio yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd,” meddai.

Gwnaeth y rhaglen helpu Rhys i ddatblygu ei sgiliau rheoli a’i wybodaeth. Ar ôl graddio, roedd Rhys yn hyderus ei fod wedi dod o hyd i’r llwybr gyrfa yr oedd ef am ei ddilyn, sef fel hyfforddwr datblygu chwaraeon mewn clwb pêl-droed.

Mae Rhys wedi canmol y Brifysgol am ei chefnogaeth gan ychwanegu y byddai symud i America wedi bod yn amhosibl heblaw am y sgiliau y gwnaeth ef eu dysgu yn ystod ei radd.

“Mae pob un o’r darlithwyr yn y Brifysgol wedi bod yn gefnogol dros ben, hyd yn oed ar ôl cwblhau’r radd Rheolaeth Chwaraeon.” Ychwanegodd: “Rwyf yn dal i gysylltu â nhw yn rheolaidd ac maent bob amser wedi bod yno i fentora a chynnig cyngor i mi ar wahanol gyfleoedd gyrfaol. Y peth da am y radd Rheolaeth Chwaraeon yw’r amrywiol lwybrau gyrfaol y gallai gynnig ar ôl i chi raddio.”

Meddai Rhys ei fod am annog myfyrwyr i ddilyn eu breuddwydion. “Yn bendant, byddwn yn annog pob myfyriwr i osod cyrchnodau, dilyn ei freuddwydion a pheidio ag ofni symud dramor er mwyn dod o hyd i gyfleoedd.”

Rhys Surringer and Andrew Thomas at graduation wearing academic gowns and hats.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com