Daran Griffiths

Arweinydd Peirianneg Gweithrediadau gyda Zimmer Biomet, sy’n astudio Lefel 6 gradd Beirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu

Daran Griffiths smiles directly at the camera.

“Ar hyn o bryd rwy’n astudio’r cwrs BEng mewn Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu ac yn cael boddhad mawr o wneud hynny. Rwy’n teimlo fy mod yn gallu cysylltu rhai o’r pynciau â phrofiadau rwy wedi’u cael yn ystod fy mywyd gwaith hyd yn hyn, ac rwy’n cael llawer o wybodaeth o’r modylau dadansoddol, sydd yn hwb i’m hyder wrth i mi ddychwelyd i’r gweithle. Er bod sefyllfa’r pandemig wedi newid dynameg y cwrs wrth i ni ddysgu o bell, rwy’n teimlo bod y brifysgol a’r darlithwyr wedi gwneud gwaith gwych yn newid y fformat a’u harddull ddarlithio i sicrhau eu bod yn rhoi cymaint o wybodaeth a manylion ag y gallant i ni. Mae’r darlithwyr yn rhoi cyn gymaint o amser ag sydd ei angen arnom ac rwy wedi cymryd rhan mewn sawl ‘galwad Teams’ yn hwyr y nos gyda’r darlithwyr yn fy nghefnogi gyda’m cwestiynau a’m hanghenion”

Jonathan Jones

Peiriannydd Ansawdd Cyflenwyr gyda Zimmer Biomet, sy’n astudio Lefel 6 gradd Beirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu

Jonathan Jones looks directly into the camera.

“Wrth i mi astudio’r radd-brentisiaeth rwy wedi cael cefnogaeth lawn y busnes, sydd wedi caniatáu diwrnod astudio i mi ac wedi trefnu i’r cwrs gael ei ariannu. I mi roedd yn gyfle arbennig i gael hyfforddiant gwych mewn sgiliau perthnasol gan ddarlithwyr gwybodus iawn, ar gampws deniadol a fydd nid yn unig yn fy natblygu fel Peiriannydd ond hefyd o fudd i’m busnes”

Lowrie Proctor

Dadansoddwr gyda Heddlu Dyfed Powys, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth)

A smiling selfie of Lowrie Proctor.

“Rwy’n astudio Cyfrifiadura Cymhwysol (Systemau Data a Gwybodaeth) a dewisais i’r cwrs hwn gan fod y modylau’n uniongyrchol berthnasol i’m rôl. Mae’n fy ngalluogi i wella fy mherfformiad gwaith a’m hyder ac yn hwb i gamu ymlaen yn fy ngyrfa. Mae astudio yn y modd hwn yn caniatáu i mi weithio amser llawn a magu fy merch.”

Rhys Davies

Technegydd Peirianneg Sifil gydag Arup, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd)

Rhys Davies

“Dewisais astudio Peirianneg Meddalwedd gan fy mod wrth fy modd yn gweithio gyda chyfrifiaduron. Sylweddolais fod y diwydiant adeiladu yn mynd trwy Drawsnewidiad Digidol ac y bydd unrhyw sgiliau newydd y gallaf eu dysgu yn fuddiol i’m gyrfa. Mae’r cwrs yn un rhannol ddamcaniaethol a rhannol ymarferol felly ceir cyfleoedd i roi’r theori ar waith. Mae fy nghyflogwyr yn sylweddoli pwysigrwydd meddu ar y sgiliau digidol iawn a chredaf y byddai unrhyw un sydd â diddordeb mewn TG yn elwa o ymgymryd â gradd-brentisiaeth ddigidol.”

Sam Jackson

Swyddog y Ddesg Wasanaeth gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Felindre), sy’n astudio BSc Datblygu Meddalwedd Cwmwl

Sam Jackson

“Rwy wedi gallu gweithredu’r theori a ddysgais yn fy modwl Lefel 4, Seiberddiogelwch a Rhwydweithio, yn fy swydd. Rwy’n gweld y brentisiaeth hon yn gyfle gwych i roi’r sylfeini i mi gamu ymlaen yn fy ngyrfa. Mae Gwasanaethau Digidol o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi ymrwymo i addysg, dysgu a datblygu ac rwy'n mwynhau'r cyfle i ddysgu a gwella fy ngwybodaeth.”

Saulius Paltanavicius

Prentis Beiriannydd Electroneg a Meddalwedd gyda Sony UK TEC, sy’n astudio am radd BEng Systemau Gweithgynhyrchu

Saulius Paltanavicius

“Rwy’n teimlo bod fy mhrentisiaeth wir wedi fy ngalluogi i ddatblygu a mireinio fy sgiliau, wrth i mi ddilyn gyrfa rwy’n angerddol amdani.”

Ben Atkins

Swyddog Datblygu Meddalwedd yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch)

Ben Atkins: a young man in a black suit and shirt with short blond hair looks into the camera.

“Rwy wedi dysgu cynifer o sgiliau amhrisiadwy ac wedi gallu eu cymhwyso i’m rôl yn y gwaith. Mae hyn nid yn unig wedi fy ngalluogi i symud ymlaen o fewn y sefydliad ond hefyd wedi rhoi mwy o hyder i mi o ddydd i ddydd yn fy ngwaith.”

Emma Williams

Swyddog Technegol TGCh gyda Chyngor Sir Gâr, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch)

艾玛·威廉姆斯的靠近她smiles sideways into the camera.

“Bydd y sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau a gaf dros y 3 blynedd a hanner nesaf o fudd i mi a’m cyflogwr, yn awr ac yn y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’m cyflogwr a’r Drindod Dewi Sant am fy nghefnogi a’m hannog gyda’m datblygiad proffesiynol parhaus.”

Katie Rees

Dadansoddwr Busnes a Chymorth gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth)

Katie Rees smiles into the camera as she sits in an office wearing a headset and dark, smart clothes.

“Gan i mi ddechrau gweithio i’r Gwasanaeth Gwybodeg heb gefndir technegol, mae’r Radd-brentisiaeth Ddigidol wedi rhoi hwb mawr i’m hyder o fewn fy rôl ac yn caniatáu i mi gael gwell perthynas gyda datblygwyr ac aelodau eraill fy nhîm. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi fy nghefnogi’n llwyr drwy gydol y brentisiaeth.”

Faith Over

Arweinydd Gwelliant Parhaus gydag Eaton, sy’n astudio BEng Systemau Gweithgynhyrchu

Faith Over, a female student with long dark hair and a green jumper, controls a device using a pale blue hand-held tablet.

“Pan ddechreuais ar fy rôl o fewn cyfleuster gweithgynhyrchu, roeddwn yn aml yn ei chael hi'n anodd dilyn rhai sgyrsiau. Mae dechrau'r Rhaglen Radd-brentisiaeth a chael 87% yn fy arholiad cyntaf wedi fy helpu i sylweddoli fy mod yn fwy nag abl i gyflawni’r rôl. Edrychaf ymlaen at ddatblygu fy ngwybodaeth a chymryd yr awenau mewn sgyrsiau yr oeddwn ar un adeg yn bryderus ynglŷn â chymryd rhan ynddynt hyd yn oed. "

Julian Milligan

Uwch Ddatblygydd Cymwysiadau gyda Chyngor Sir Gâr, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd)

Julian Milligan, a man with glasses wearing a dark hoodie, looks over his shoulder at the camera.

“Pan ddechreuodd pandemig Covid-19, roedd angen i ni fynd ti’n gyflym i newid y ffordd roeddem yn gweithio, i ddatblygu a chyhoeddi cymwysiadau llawer ynghynt. Gwnaeth rhai o’r dulliau a ddysgais yn fy mlwyddyn gyntaf fel Gradd-brentis Digidol mewn Peirianneg Meddalwedd fy helpu i ddelio â’r problemau hyn a chynhyrchu pecynnau a allai helpu timau i wasanaethu’r cyhoedd.”

Liam Radcliffe

Is-ddatblygwr Meddalwedd ar gyfer FFT Education, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd)

Liam Radcliffe wearing glasses and a beige jumper leans back in an office chair.

“Mae’r cynllun prentisiaethau mewn Peirianneg Meddalwedd wedi caniatáu i mi gael gyrfa mewn diwydiant roeddwn prin wedi meddwl mynd iddo pan oeddwn yn yr ysgol. Mae’n cymryd yr agweddau gwaith a hyfforddi, sy’n gallu bod yn bethau cyferbyniol, ac yn eu cyfuno fel eu bod yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd ac yn helpu i’ch cefnogi ac yn rhoi’r amser i chi ganolbwyntio ar y ddau.”

Ethan Needham

Prentis Seilwaith Craidd gydag NWIS, sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (rhwydweithiau cyfrifiadurol a seiberddiogelwch)

Ethan Needham wearing a white shirt, blue lanyard and headset looks to his right.

“美财政年度narlithwyr wedi财政年度nghefnogi trwy fod ar gael yn barhaus pe bai angen arweiniad neu gymorth arnaf byth. Mae NWIS a’r Drindod Dewi Sant yn cynnal cyfarfodydd misol i wneud yn siŵr bod y grŵp o brentisiaid yn iawn ac i holi a oes angen unrhyw gymorth arnom.”

Siobhan Stephens

Datblygydd gyda Mobilise sy’n astudio BSc Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd)

Siobhan Stephens

“Rwy’n cael cyfuno’r hyn rwy wedi’i ddysgu yn y Brifysgol gyda’r hyn rwy’n ei ddysgu yn y gwaith. Gallaf reoli f’astudiaethau ochr yn ochr a’m gwaith gan fod fy nghyflogwr yn rhoi amser i mi yn ystod y wythnos i wneud hynny. Gwelaf yn aml fod gwneud fy ngwaith Prifysgol yn haws gan fy mod eisoes wedi ymdrin â’r gwaith yn y gweithle. Byddwn yn bendant yn annog unrhyw un sy’n meddwl am wneud gradd i ystyried gradd-brentisiaeth - mae gallu gweithio, ennill arian a chael eich ffioedd gradd wedi’u talu gan Lywodraeth Cymru yn gyfle gwych ac mae meddu ar 4 blynedd o brofiad gwaith ar ddiwedd eich gradd yn amhrisiadwy.”