Double page spread from the book 'Fischbuch' by Conrad Gessner

Mae Llyfrgell ac Archif Roderic Bowen (LlARB) yn cadw Casgliadau Arbennig, sef llyfrau, llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol a hi yw un o brif adnoddau ymchwil academaidd Cymru.

Wedi’u caffael dros y 200 mlynedd ddiwethaf, yn bennaf trwy gymynroddion a chyfraniadau, mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 darn o waith argraffedig, wyth llawysgrif canoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-canoloesol, a 69 incwnabwla. Mae deunydd yr Archifau'n cynnwys cofrestri myfyrwyr cynnar a ffotograffau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Bydd Ystafell Ddarllen Roderic Bowen yn ailagor ddydd Llun 4 Ionawr fel y gall defnyddwyr unigol gyrchu deunyddiau o’r Casgliadau Arbennig a’r Archifau.Dim ond trwy drefniant ymlaen llaw y gellir gwneud hyn a bydd hefyd angen i ni wybod ymlaen llaw pa eitemau yn union y bydd eu hangen i’w defnyddio er mwyn sicrhau hylendid priodol a chyfnod cwarantin.I drefnu lle defnyddiwch yffurflen ar-lein.

我盖尔人rhagor o wybodaeth am ein mesurau a’n gwasanaethau yn ystod Covid, ac i gynllunio eich ymweliad, ewch i dudalennau gweGwasanaethau Covid-19y LlAD.

Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Llambed
Ceredigion
SA48 7ED

Ffôn: 01570 424716 (llinell uniongyrchol) neu Est. 4716 (mewnol).

Ymholiadau e-bost iLspecialcollections@www.guaguababy.com

Cydnabyddir pob e-bost. Os na chewch chi gydnabyddiaeth, dylech gymryd yn ganiataol nad ydym wedi derbyn eich e-bost, a'i anfon atom eto.

chat loading...