Mae dysgu digidol yn cwmpasu amrywiaeth eang o fodelau a dulliau dysgu, technolegau a gwasanaethau digidol, felly rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y modd yr ydym yn addysgu a’r modd y mae ein myfyrwyr yn dysgu.
Mae sefyllfa bresennol Covid wedi bod yn gatalydd i wella arwyddocâd adnoddau dysgu ac addysgu digidol o ansawdd uchel, a hefyd bwysigrwydd sicrhau cydraddoldeb rhwng profiadau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Gall pecyn datblygedig o ddeunyddiau dysgu digidol:
- Wella profiad dysgwyr a deilliannau posibl
- Ehangu cyfranogiad a chydweithio
- Gwella hygyrchedd a chynhwysiant
- Datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol
Y Tîm Dysgu Digidol
Mae'r tîm Dysgu Digidol yn cynnwys 6 aelod o staff sy'n darparu dau wasanaeth allweddol i'r Brifysgol – cyngor a chymorth o ran addysgeg ddigidol a dylunio dysgu.
Emily Baker
Rheolwr Dysgu Digidol
E-bost:e.baker@www.guaguababy.com
Emma Jones
Technolegydd Dysgu Digidol
E-bost:e.c.jones@www.guaguababy.com
Alice De Angeli
Ddylunydd Dysgu Uwch
E-bost:alice.de.angeli@www.guaguababy.com
Amy Cutler
Ddylunydd Dysgu
E-bost:a.cutler@www.guaguababy.com
Calum Gregory
Ddylunydd Dysgu
E-bost:c.gregory@www.guaguababy.com
Hong Bui
Ddylunydd Dysgu
E-bost:h.bui@www.guaguababy.com
Olivia Hutchings
Ddylunydd Dysgu
E-bost:o.hutchings@www.guaguababy.com
Addysgeg Ddigidol
Gan ddod â phrofiad o addysgu gyda ffocws penodol ar ddefnyddio technoleg ddigidol, mae'r tîm yn cyhoeddi adnoddau, yn cyflwyno sesiynau hyfforddi ac yn gallu gweithio gyda staff ar geisiadau pwrpasol i gefnogi staff addysgu ar bob agwedd addysgegol ar ddysgu cyfunol.
Mae'r ceisiadau hyn yn amrywio o’r gwaith cychwynnol o ddylunio cyrsiau a modylau a chynllunio gweithgareddau, i strategaethau dysgu ac addysgu unigol ar gyfer ennyn brwdfrydedd, cydweithio ac asesu. Gall y tîm ddarparu cymorth ar ddefnyddio technoleg ddigidol i gyfoethogi'r ddarpariaeth dysgu ac addysgu ac ar ymgorffori datblygu sgiliau digidol dysgwyr mewn cyrsiau, modylau a sesiynau unigol.
Dylunio Dysgu
Mae'r tîm dylunio dysgu’n gweithio gyda staff addysgu i greu deunyddiau dysgu anghydamserol rhyngweithiol, diddorol i gyfoethogi darpariaeth dysgu cyfunol.
Gan ddefnyddio methodoleg dylunio dysgu ADDIE, bydd ein dylunwyr dysgu’n gweithio gydag arbenigwyr pwnc drwy broses o ddadansoddi anghenion, storifyrddio, cynghori ar addysgeg ar-lein effeithiol, adeiladu adnodd difyr, deniadol i’r llygad a rhyngweithiol a chefnogi gweithredu a chyflwyno drwy'r wefan, Moodle neu blatfform dysgu arall yn ôl y gofyn.
Er bod ytîm yn gymharol newydd, dyma rai enghreifftiau o'r gwaith sydd eisoes wedi'i gynhyrchu.
Canllaw Hygyrchedd YDDS Chwarae cyfannol a dusgu tu allan Fframwaith Priodoleddau Graddedigion Cwis Ymwybyddiaeth AlcoholEdrych ymlaen
Yn y flwyddyn newydd bydd ffocws ar hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael i staff y Drindod Dewi Sant, drwy greu safle Dysgu Digidol pwrpasol sy'n rhoi manylion pellach am y gwasanaethau y gellir eu cynnig, yn ogystal â dolenni i'r adnoddau dysgu digidol presennol sydd ar gael i staff.