Deanna Bailey

Deanna Bailey

Fy enw i yw Deanna Bailey, ac rwy’n athro addysg gorfforol yn Ysgol St John’s Catholic Comprehensive, Caint. Astudiais y rhaglen BA (Anrh) Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o 2015 i 2018. Gan fy mod yn teithio mor bell o’n cartref yng Nghaint, roeddwn ychydig yn nerfus am ddechrau yn y brifysgol, ond nid oedd angen i mi fod, gan fod natur gyfeillgar a chefnogol y brifysgol wedi gwneud fy nhair blynedd yn wych!

Roeddwn yn caru’r ffaith bod y staff yno i mi bob tro, os oeddwn yn straffaglu gydag unrhyw un o’m darlithoedd. Hefyd, rhaid i mi ddiolch am gefnogaeth Sian y dderbynyddes a oedd mor barod i helpu, yn enwedig â minnau mor bell oddi adref.

Roedd y cwrs ei hun yn llawer mwy nag oeddwn yn ei ddisgwyl. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o brifysgolion, roedd yn ymwneud yn benodol ag Addysg Gorfforol ac yn cynnwys cymysgedd o’r ymarferol a damcaniaeth, a oedd yn bositif gan fod cymaint o fyfyrwyr yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ond roedd yn help gan fy mod yn cael marciau uwch yn yr ymarferol yn hytrach na’r theori. Mae’r cwrs hefyd yn defnyddio ei gyfleusterau fel Stiwdio, Pwll Nofio, Campfa, Neuadd Chwaraeon, Labordy a mwy. Mae eich blwyddyn gyntaf yn eich caniatáu i archwilio’r holl bynciau o fewn Addysg Gorfforol ac yna wrth i chi fynd ymlaen drwy’r blynyddoedd gallwch ddechrau culhau eich dewisiadau i opsiynau penodol, er enghraifft, dewisais i seicoleg dros ffisioleg.

Fe wnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wir fy helpu i fod yr athro ydw i heddiw.