Hafan YDDS-Sefydliadau ac Academïau-Coleg Celf Abertawe-Crefftau Dylunio- Crefftau Dylunio – Cysylltiadau Diwydiannol

Crefftau Dylunio – Cysylltiadau Diwydiannol

design-craft-industry-link-870x580

Mae ein gradd Crefftau Dylunio yn cynnig llu o gyfleoedd cyffrous i chi i weithio ar friffiau byw a chymryd rhan mewn lleoliadau gyda phartneriaid diwydiannol o fyd cynllunio mewnol, y sector orielau a phensaernïaeth. Mae’r tîm Crefftau Dylunio yn ymarferwyr proffesiynol sydd â rhwydweithiau helaeth o gysylltiadau diwydiannol. Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i gynllunio’ch gyrfa yn y dyfodol a’ch datblygiad proffesiynol tu hwnt i raddio.

Cyflogi Graddedigion

Mae entrepreneuriaeth wedi’i ymgorffori yn y cwrs, gyda thrafodaethau eang ar yr ymagweddau amrywiol at ddatblygu a chynnal arfer creadigol yn ogystal â dod o hyd i lwybrau at gyflogaeth yn y sector a thu hwnt. Caiff hyn ei gyfoethogi ymhellach drwy ddarlithoedd rheolaidd gan wneuthurwyr wrth eu gwaith a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.

Mae gan y DU enw da ledled y byd am Grefft a Dylunio creadigol ac arloesol, gyda galw mawr am raddedigion o’r sectorau hyn ar draws ystod o ddiwydiannau. Bydd graddedigion o’n cwrs Crefft Dylunio yn datblygu sgiliau creadigol, datrys problemau, dylunio a gwneud cryf y gellir eu cymhwyso i ystod eang o gyfleoedd gwaith, o hunangyflogaeth (fel artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr annibynnol) i weithio i gwmnïau sefydledig mewn amrywiaeth o rolau.