Ydds Hafan-Sefydliadau ac Academïau-Coleg Celf Abertawe-Dylunio Graffig- Dylunio Graffig - Cysylltiadau Diwydiannol

Wedi’i chynnal ers nifer o flynyddoedd bellach, bu ‘Wythnos Ddylunio’ yn llwyddiant ysgubol ymhlith y myfyrwyr Dylunio Graffig, staff a’r ysgol Darlunio a Hysbysebu Brand yn ehangach.

Mae’r digwyddiad hwn sy’n para wythnos yn gyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â dylunwyr a chwmnïau mawreddog mewn cydbwysedd perffaith o sgyrsiau a gweithdai. Ymhlith rhai o’r cwmnïau mae Sky Creative, Lego, Saatchi & Saatchi Wellness, Gordon Young a Chymdeithas Darlunwyr AOI.

Mae’n bleser gennym hefyd gwahodd rhai o’n cyn-fyfyrwyr gwych, sy’n dychwelyd i rannu eu llwyddiannau gyrfaol.

Mae ‘Wythnos Ddylunio’ yn brofiad dwys, sy’n magu hyder myfyrwyr ac yn creu’r sefyllfa berffaith i’r Diwydiant Dylunio weld potensial myfyrwyr sy’n graddio.