Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni- Dosbarthiadau Meistr

Busnes a Rheolaeth



ein cyrsiau

Cyfadran Busnes a Rheolaeth dosbarthiadau meistr

Mae’r Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yma yn y Drindod Dewi Sant yn gweithio’n agos â sefydliadau, ysgolion a cholegau ac rydym yn gweithio i helpu unigolion i gyflawni eu potensial.

Os mai newid gyrfa neu uwchsgilio sydd dan sylw, rydym ni yma i helpu. A hwythau’n cael eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant, mae ein sesiynau rhyngweithiol yn ddiddorol iawn ac mae modd eu teilwra o gwmpas eich anghenion a thueddiadau diweddar. Maent wedi eu creu gan ein staff profiadol ac arbenigwyr yn y diwydiant. Ethos sylfaenol yr Athrofa yw “Ei wneud gyda Diwydiant ar gyfer Diwydiant” ac rydym yn paratoi ein graddedigion ar gyfer y gweithle. Gallwch archwilio a chadw lle ar un o’n hystod eang o sesiynau ar y campws ac ar-lein isod. Os oes gennych gais am ddosbarth meistr penodol i grŵp o unigolion neu os hoffech i ni gyflwyno sesiwn fewnol, gallwch anfon ceisiadau ar e-bost iIMHmarketing@www.guaguababy.com.