Mae’r llyfrgell yn rhoi mynediad i ystod eang o adnoddau clyweledol.
Academic Video Online
Tanysgrifiad fideo amlddisgyblaethol, cynhwysfawr, sy’n rhoi mynediad i ystod o adnoddau fideo, gan gynnwys rhaglenni dogfen, cyfweliadau, ffilmiau nodwedd, perfformiadau, rhaglenni newyddion, riliau newyddion ac arddangosiadau.
Mae cynnwys â sain ddisgrifiad ar gael i’r rheini â namau ar y golwg, neu gellir gwneud cais amdano os nad yw ar gael.
Defnyddio Academic Video Online drwy Chwilio'r Llyfrgell
Ceir gwybodaeth bellach ynghylch creu clipiau a chwilio mewn trawsgrifiadau drwy’rAlexander Street Video Platform LibGuide
鲍勃(盒Broadcasts)
Gwasanaethau teledu a radio ar alw ar gyfer addysg. Mae’n caniatáu i staff a myfyrwyr recordio rhaglenni o fwy na 75 sianel ddarllediad agored a chwilio archif o fwy na 2.5 miliwn o ddarllediadau.
Gyda BoB cewch:
- Fynediad i 2.5 miliwn darllediad yn dyddio’n ôl i’r 1970au (BBC One, BBC Two, BBC Four, ITV, Channel 4, Film4 a rhagor)
- Mynediad i 10 sianel ieithoedd tramor (Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg)
- Mynediad i gynnwys Archif Shakespeare y BBC yn dyddio’n ôl i’r 1950au
- Recordio o fwy 75 na sianel ddarllediad agored
- Creu eich rhestrau chwarae a’ch casgliadau clipiau eich hun
- 化学加工ilio mewn trawsgrifiadau ac is-deitlau rhaglenni
- Ar gael ar bob dyfais
Sylwer bod BoB ar gael o fewn y DG yn unig.
Defnyddio BoB drwy Chwilio'r Llyfrgell
Mae rhagor o fideos am ddefnyddio BoB ar gael oLearning Onscreen
数字剧院+
Mae Digital Theatre+ yn blatfform ar gyfer astudio’r celfyddydau perfformio a thestunau dramatig, ac mae’n cynnwys miloedd o adnoddau ar-lein gan wneuthurwyr theatr ac ysgolheigion blaenllaw. Mae’r platfform yn gweithio ar bob porwr modern mawr ac ar draws sgriniau o bob maint.
Defnyddio Digital Theatre+ drwy Chwilio'r Llyfrgell
HS Talks
Mynediad at fwy na 1500 o ddarlithoedd, astudiaethau achos a chyfweliadau yn y Casgliad Busnes a Rheoli.
- Crëwch gyfrif personol i gadw’n gyfredol ag adnoddau newydd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau.
- Defnyddiwch Drawsgrifiadau, Gwneud Nodiadau a Lawrlwytho Sleidiau
- Cewch fynediad ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur neu ddyfais symudol
Defnyddio HS Talks drwy Chwilio'r Llyfrgell
Human Anatomy Atlas
Adnodd cyfeiriol cyffredinol i’r anatomi dynol gydag offer delweddu a dysgu 3D i ryngweithio ac archwilio systemau’r corff dynol.
Mae’n cynnwys mwy na 5,000 o strwythurau anatomaidd gwrywaidd a benywaidd sy’n rhyngweithiol ac yn feddygol gywir. Fe’i datblygwyd gan ddarlunwyr meddygol a hyfforddwyd yn feddygol ac a fetiwyd gan anatomyddion blaenllaw. Mae’n cwmpasu anatomeg systemig, anatomeg ranbarthol, y synhwyrau, gweithrediadau cyhyrau, a 25 o groestoriadau.
Cewch fynediad i’r Human Anatomy Atlas ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur neu ddyfais symudol.
Ceir gwybodaeth am y gofynion system er mwyn defnyddio’r adnodd yngNghanolfan Gymorth Visible Body
Gwybodaeth am eilawrlwytho i ddyfais symudol
Defnyddio Human Anatomy Atlas drwy Chwilio'r Llyfrgell
LinkedIn Learning
Platfform datblygiad proffesiynol a rhwydweithio ar gyfer gyrfaoedd sy’n rhoi mynediad i filoedd o gyrsiau ar-lein.
Fel defnyddiwr LinkedIn Learning, gallwch rannu fideos, cyrsiau, Llwybrau Dysgu a Chasgliadau â defnyddwyr eraill y gwasanaeth. Caiff staff a myfyrwyr fynediad drwy ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost a manylion mewngofnodi ar gyfer y Drindod Dewi Sant.