Prifysgol yn talu teyrnged i bawb sydd wedi gwneud yr aberth eithaf


28.10.2021

Wrth i'r Apêl Pabi gychwyn y mis hwn i godi arian i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Saint David wedi creu Gerddi Coffa ar draws ei champysau yn Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe i arwain at Sul y Cofio sy’n nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd 1918.

A remembrance garden in front of UWTSD Y Fforwm building in Swansea

Mae'r Gerddi yn cynnwys ffigyrau o Tomi, croesau â thorchau a phabïau dur a gellir eu gweld o amgylch Adeilad Dewi Sant yn Llambed, Yr Egin a Chanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin ac o amgylch Y Fforwm ac adeilad IQ yn Abertawe. Bydd adeiladau’r Brifysgol hefyd yn cael eu goleuo yn goch.

Ail-grewyd y gosodiadau celf eleni gan Dîm Gweithrediadau'r Brifysgol gan gynnwys Stuart Tawse a wasanaethodd yn y 5ed Bataliwn Catrawd Frenhinol y Ffiwsilwyr, Gareth Williams, Rhodri Davies, Bleddyn Edwards yn ogystal â Carl Murphy a wasanaethodd gyda chatrawd yr RAF a'i gydweithiwr Dave Williams. Crëwyd fideo Coffa gan fideograffydd y Brifysgol Richard Beecher, a wasanaethodd yn y Bataliwn 1af Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines.

Image of Lampeter campus illuminated for Remembrance

“Mae’r Brifysgol yn dymuno nodi’r amser pwysig hwn i dalu teyrnged a chofio pawb a roddodd eu bywydau ac a wnaeth gymaint o aberthau mewn gwrthdaro ers y Rhyfel Byd Cyntaf”, meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Brifysgol. “Fel sefydliad dinesig rydym yn diolch am wasanaeth ac ymroddiad pawb a’n hamddiffynodd ar adegau o ryfel a gwrthdaro. Rwy’n ddiolchgar iawn i staff y Brifysgol sydd wedi creu’r gwaith godidog a dychmygus hwn ”.

Gellir rhoi rhodd i Apêl Pabi’r Lleng Brydeinig ym mhrif dderbynfeydd y Brifysgol yn ogystal â thrwywefan y Lleng Brydeinig.

A remembrance garden in front of UWTSD Carmarthen