Cefnogaeth i ddau brosiect cychwynnol ar ‘Outlines of the Globe’ gan Thomas Pennant


22.06.2022

Derbyniodd dau ymchwilydd o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd arian ar gyfer prosiectau fydd yn hybu mynediad at rai o drysorau’r Amgueddfa Forol Genedlaethol, Greenwich, Llundain.

A map excerpted from the works of Pennant showing the western coast of Africa and 'Oceanus Aethiopicus'.

Map o'r Congo ac Angola o Thomas Pennant, ‘Outlines of the Globe’

©National Maritime Museum, Greenwich, London

Cyfres o lawysgrifau wedi eu haddurno yw’rOutlines of the Globe,a gyfansoddwyd gan Thomas Pennant (1726-1798), naturiaethwr o sir y Fflint. ‘Taith ddychmygol’ yw hon, sy’n trafod ardaloedd Gorllewin Affrica a Gogledd Ewrop yn ogystal ag India, Siapan, ac Indonesia. Y mae'n arolwg o’r byd fel y gwelid ef o Brydain yn y ddeunawfed ganrif, yn seiliedig ar brofiad Pennant fel teithiwr, naturiaethwr a hynafiaethydd, ac yn cynnwys gwybodaeth o’r lleoliadau eu hunain oddi wrth rwydwaith eang o ohebwyr rhyngwladol. Bydd y ddau brosiect newydd yn hybu ein dealltwriaeth o sut y dychmygai Prydeinwyr y byd yng nghyd-destun yr ymerodraeth estynedig.

Derbyniodd Dr Rhys Kaminski-Jones (ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan) Gymrodoriaeth Caird gan yr Amgueddfa Forol i astudio’r llawysgrifau am dri mis. Dywedodd:

"Trwy'r prosiect, byddaf yn ychwanegu at y catalogau arlein ar gyfer dwy gyfrol ar hugain yrOutlines, gan hyrwyddo’r broses o archwilio’r deunydd diddorol hwn ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol. Yn ogystal, byddaf yn ysgrifennu blogiau ar gyfer gwefanRoyal Museums Greenwich, ac yn astudio'r llawysgrifau, gan ffocysu ar fethodoleg arloesol Pennant a’i agwedd atgenreysgrifennu taith, ac yn asesu lle’r corpws o fewn rhwydweithiau ymerodrol – yn enwedig y ffordd y mae’n delweddu’r berthynas rhwng Cymru ac India.

Derbyniodd Dr Ffion Mair Jones (Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan) arian gan Rwydwaith Arloesi Cymru (Wales Innovation Network: WIN) i ddatblygu prosiect sydd yn canolbwyntio ar un gyfrol o’rOutlines,‘Gorllewin Affrica’. Mae tystiolaeth fewnol yn awgrymu'n gryf i hon gael ei llunio tua 1788, ar foment allweddol ym Mhrydain yn natblygiad y symudiad dros ddiddymu caethwasiaeth. Er ei bod yn dangos cydymdeimlad â diddymiaeth, y mae hefyd yn arddangos nodweddion trefedigaethol, o ran y testun a'r delweddau niferus a gynhwysir. Ychwanegodd Dr FFion Mair JOnes:

"Mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa Forol, Cyngor Hil Cymru a phartneriaid o Brifysgolion Bryste, Glasgow a Chaerdydd, bydd y proseict yn astudio’r testun a’r delweddau o safbwynt dadgoloneiddio, gan gwestiynu natur delweddu diwylliant a phobl Affrica ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif."

Mae’r ddau brosiect yn adeiladau ar waith a gyflwynwyd yn y Ganolfan gan brosiectTeithwyr Chwilfrydig (curioustravellers.ac.uk), ac yn dangos arwyddocâd gwaith Thomas Pennant i rai o gwestiynau allweddol ein cyfnod ni.