Carmarthen Old Building 870

Corff llywodraethu’r Brifysgol yw Cyngor y Brifysgol. O dan y Siarter a’r Ystatudau, mae’r Cyngor yn gyfrifol am benderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y Brifysgol, gan oruchwylio ei gweithgareddau, sicrhau ei hydaledd a diogelu asedau.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Is-Ganghellor a'r uwch aelodau Gweithredol eraill i osod cyfeiriad strategol y Brifysgol. Hefyd, mae'n gyfrifol am sicrhau bod systemau effeithiol o reolaeth a rheoli risg ar waith.

O dan drefniadau integreiddio y cytunwyd arnynt yn 2017, mae Cyngor y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda Chyngor Prifysgol Cymru ac yn rhannu strwythur pwyllgor sefydlog. Mae cnewyllyn cyffredin o lywodraethwyr yn aelodau o'r ddau Gyngor.

LLywodraeth: PCYDDS

Gweldmanylion aelodaethCyngor PCYDDS.

Cofnodion PCYDDS

Cofnodion Cyd-Cyngor

Dod yn Aelod o'r Cyngor

Cyfleoedd ar gyfer aelodau annibynnol newydd y Cyngor

Mae gan Gyngor PCYDDS swyddi gwag ar gyfer aelodau annibynnol newydd yn rheolaidd, ac felly hefyd Gyngor Prifysgol Cymru a Bwrdd Coleg Sir Gâr.Os oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaethu fel aelod annibynnol, naill ai ar unwaith neu yn y ddwy i dair blynedd nesaf, yna byddem yn hoffi clywed gennych.

Ceir rhagor o wybodaeth am y sgiliau a’r profiad rydym yn chwilio amdanynt yn yDisgrifiad Rôl ar gyfer Aelodau Annibynnol. Ar hyn o bryd mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan rai sydd â chefndir proffesiynol ym maes addysg uwch, yn enwedig sicrhau ansawdd addysg uwch a/neu addysg uwch ryngwladol; a phensiynau.

Ymrwymiad o ran amser

Penodir aelodau annibynnol fel arfer am gyfnod o bedair blynedd y gellir ei adnewyddu am bedair blynedd arall. Bydd yr ymrwymiad gofynnol o ran amser yn amrywio, ond amcangyfrifir y bydd yn rhyw 8-15 diwrnod y flwyddyn i fynychu a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd a mynychu digwyddiadau eraill.

Tâl

Nid yw aelodau’r Cyngor yn cael tâl am ymgymryd â’u dyletswyddau ond bydd y Brifysgol yn talu treuliau rhesymol sy’n codi tra byddant ar fusnes y Brifysgol.

Annibyniaeth a chymhwystra

阿梅或Cyngor yn arddel diffiniad annibyniaeth sydd wedi’i gytuno gan y sector. Mae’n annhebygol o benodi unigolyn sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn weithiwr i’r Brifysgol neu un o’i is-gwmnïau; sydd wedi cael perthynas fusnes faterol gyda'r Brifysgol; neu sydd â chysylltiadau teuluol neu broffesiynol agos gyda aelod o’r Brifysgol. O dan reolau’r Comisiwn Elusennol, mae rhai amgylchiadau’n atal penodi unigolyn yn ymddiriedolwr. Caiff yr amgylchiadau hyn eu gwirio gan y Brifysgol cyn penodi. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y Llywodraeth:Ymddiriedolwr elusen: datganiad o gymhwysedd a chyfrifoldeb - GOV.UK (www.gov.uk)

Cyfle Cyfartal

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd dysgu a gweithio cynhwysol a chefnogol lle gall yr holl staff a myfyrwyr ffynnu a chyflawni eu potensial personol. Mae’n gweithio’n ddiwyd ar ddileu rhwystrau rhag cyfranogi ac yn cefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiad i gyflawni eu potensial. Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth y Cyngor ac i sicrhau aelodaeth sy’n adlewyrchu proffil y sefydliad a’i fyfyrwyr. Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr o bob oedran a chefndir. Rydym yn treialu ffyrdd newydd o weithio er mwyn annog ceisiadau gan y sawl sy’n gweithio neu sydd ag ymrwymiadau teuluol. Anogwn yn arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, gan ein bod yn cydnabod eu bod ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol ar y Cyngor.

Sut i wneud cais

I wneud cais am le ar Gyngor PCYDDS neu Gyngor Prifysgol Cymru, cyflwynwch lythyr eglurhaol byr yn esbonio pam mae’r penodiad hwn o ddiddordeb i chi, beth fyddech chi’n ei gyflwyno i’r rôl a sut yr ydych yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u rhestru ym manyleb yr unigolyn. Yn ogystal cyflwynwch eich curriculum vitae (CV) yn manylu eich profiad perthnasol. Nodwch hefyd enwau a manylion cyswllt dau ganolwr, y cysylltir â nhw gyda’ch caniatâd chi yn unig. Dylid anfon eich dogfennau drwy e-bost igovernance@www.guaguababy.com.

I gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais, cysylltwch â Chlerc y Cyngor argovernance@www.guaguababy.com

I fynegi diddordeb mewn swydd yng Ngholeg Sir Gâr, cysylltwch â’r Clerc ac Ysgrifennydd y Cwmni ar:governance@colegsirgar.ac.uk.

Gwobrau er Anrhydedd

Bob blwyddyn mae'r Brifysgol yn cydnabod unigolion o fri drwy gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd neu Raddau er Anrhydedd iddynt, fel arfer mewn Cynulliad Graddio.

Gellir rhoiDoethuriaethau er Anrhydeddi'r rhai sy'n nodedig yn eu maes, fel arfer am eu bod wedi gwneud cyfraniad academaidd pwysig a chynaliadwy mewn maes sy'n berthnasol i'r Brifysgol, neu wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau eithriadol.

Gellir dyfarnuCymrodoriaethau er Anrhydeddi unigolion nodedig iawn yn eu meysydd eu hunain ac sydd wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i'r Brifysgol.

Enwebiadau

Gellir gwneud enwebiadau am ddyfarniadau er Anrhydedd gan ddefnyddio'rFfurflen Enwebu Dyfarniadau Er Anrhydedd, y dylid ei chyflwyno i'r Brifysgol drwyllywodraethu@pcydds.ac.uk.

Caiff pob enwebiad ei ystyried gan y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, un o bwyllgorau Cyngor y Brifysgol. Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys myfyriwr-lywodraethwr a staff-lywodraethwr.

Gellir cyflwyno enwebiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ond fel arfer cânt eu hystyried yn flynyddol gan y Pwyllgor.

Mae rhagor o wybodaeth amFeini Prawf a Gweithdrefn Dyfarniadau Er Anrhydeddar gael yma.

Cwynion allanol

Mae’r Brifysgol yn croesawu adborth adeiladol ar ei gweithgareddau ac mae’n cydnabod y gallai pobl neu sefydliadau allanol i’r Brifysgol deimlo, o bryd i’w gilydd, nad yw’r Brifysgol, ei staff neu’i myfyrwyr wedi cwrdd â’u disgwyliadau.

Darperir isod gweithdrefn y Brifysgol ar gyfer ystyried cwynion allanol, a’r ffurflenni i’w defnyddio gan unigolion sy’n dymuno gwneud cwynion.

Gweithdrefn Gwyno Allanol

Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol

Ysgrifenydd y Brifysgol a Clerc Cynghorau PCYDDS a Phrifysgol Cymru yw:

Sarah Clark
E-bost:llywodraethu@pcydds.ac.uk

Rhennir y cyfrif e-bost hwn er mwyn sicrhau ymateb amserol

Cefnogir y clerc o ddydd i ddydd gan y Tîm Llywodraethu, sy’n cynnwys y canlynol:

Swyddog Prif Ddyletswyddau Llywodraethu

Mrs Margaret Williams
Prif Swyddog Llywodraethu
E-bost:llywodraethu@pcydds.ac.uk

  • Gwasanaethu cyfarfodydd pwyllgorau’r Cyngor
  • Cynorthwyo gyda pharatoi papurau

Ms Caryl Bond
Prif Swyddog Gweinyddol - Llywodraethu Corfforaethol
E-bost:llywodraethu@pcydds.ac.uk

  • Paratoi papurau ar gyfer pwyllgorau Cyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru
  • Cefnogaeth weinyddol i’r Clerc
  • Prif bwynt cyswllt ar gyfer Llywodraethwyr