Chwiorydd o’r Gymuned y Teithwyr yn graddio o'r Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli eraill i gyflawnieu breuddwydion a chyrraedd eu nod.


06.07.2022

Mae gan y chwiorydd Gwennie Jones a Kimberley Janes, graddedigion o’r cwrs Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal Y Drindod Dewi Sant un dymuniad – i ysbrydoli eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i ddefnyddio addysg fel llwybr i gyflawni eu breuddwydion.

Early Years Travelling community

Dywedodd Gwennie eu bod wedi penderfynu astudio yn y Drindod Dewi Sant gan ei bod yn lleol, bod y campws yn fach a oedd yn addas i'r ddwy ohonynt. Fel myfyriwr aeddfed, ac yn dod o gymuned y teithwyr, roedd hi'n nerfus ynghylch mentro nôl i addysg. Fodd bynnag, ddim yn hir ar ôl cyrraedd y Brifysgol, dywedodd ei bod wedi gweld yn gyflym pa mor groesawgar oedd y myfyrwyr a’r staff.

Meddai: “Roeddynt i gyd yn fy neall i a fy niwylliant, oedd yn syndod, ac am y tro cyntaf, teimlais fy mod yn cael fy nghynnwys, ac yn rhan o’r dosbarth. Doeddwn i ddim yn cael fy marnu ar gam am fod yn fi.”

Wrth astudio’r cwrs Blynyddoedd Cynnar, dywed Gwennie ei bod wedi sylwi ar lawer o ferched eraill o gymuned y teithwyr yn dilyn yr un llwybr i mewn i addysg.

Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn newid a fydd yn lledaenu trwy’r holl deuluoedd teithwyr. Yn fam i ddwy o ferched (13 a 6 oed) mae addysg yn allweddol ac rwy’n gobeithio eu hysbrydoli nhw i ddilyn eu breuddwydion a’u nodau hwythau.”

Dywed Gwennie ei bod yn dwlu ar y ffaith fod y cwrs yn glir, gyda modylau’n cael eu haddysgu mewn blociau, un ar y tro, a bod y darlithwyr yn barod i helpu bob tro, a bod cyd-fyfyrwyr ar gael bob tro i annog a chymell ei gilydd.

Meddai: “Mae’r Drindod wedi fy helpu i ddatblygu fel unigolyn trwy fy nghaniatáu i fod yn fwy meddwl agored. Mae wedi fy helpu i dyfu a bod yn well rhiant i’m dwy ferch. I mi, mae’r Drindod wedi gwneud mwy na fy addysgu am y blynyddoedd cynnar, mae wedi fy ngalluogi i fod yn hyderus ynof fi fy hun a chofleidio pob cefndir a diwylliant. Heb os, byddaf yn gweld eisiau mynd i’r Drindod, ond am weddill fy oes, byddaf yn gwybod fy mod yn rhan o’r teulu blynyddoedd cynnar.”

Bu Gwennie yn ffodus yn ystod ei thaith myfyriwr ei bod wedi astudio ochr yn ochr â’i chwaer, a theimlodd bod hyn wedi helpu ei hyder, drwy allu cefnogi a helpu ei gilydd i oresgyn unrhyw heriau.

“Rydym ni wedi crio a chwerthin gyda’n gilydd gyda holl droeon yr yrfa dros y blynyddoedd. Fe fydd yn rhywbeth y gallwn edrych nôl arno â balchder.”

Ar ôl graddio, mae Gwennie yn gobeithio parhau â'i hastudiaethau drwy ennill gradd meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.

Dywedodd Kimberley ei bod wedi penderfynu astudio'r blynyddoedd cynnar oherwydd bod addysg yn rhywbeth sydd "bob amser wedi cael ei feithrin ynom drwy ein mam Rose."

Ychwanegodd: "Yn ystod fy nghyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, sylwais fod y darlithwyr yn gefnogol iawn. Mae'n debyg na fyddwn wedi dechrau fy astudiaethau pe na fyddai’n chwaer wedi bod yno gyda mi gan fy mod bob amser wedi bod yn brin o hyder, yn enwedig gyda rhywbeth mor fawr â mynd i'r brifysgol. Roedd fy chwaer yn fy ysgogi ac yn fy annog o hyd i ddal ati."

Dywedodd Kimberley ei bod wedi cael diagnosis o ADHD tra yn y Drindod Dewi Sant. "Mae hyn yn rhywbeth a'm helpodd i ddeall fy hun a'm newid yn llwyr fel mam a pherson," meddai.

"Mae astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi rhoi hyder i mi, mae gen i fwy o ffydd ynof fy hun erbyn hyn, ac rwy'n gwybod y gallaf barhau i ddringo'r ysgol a chyrraedd fy mreuddwydion drwy ddod yn weithiwr cymdeithasol yn y dyfodol agos.

"Roedd y Drindod Dewi Sant yn sicr wedi dangos i mi fod y Brifysgol ar gyfer pawb, ac mae'r gefnogaeth sydd ar gael gan y Drindod Dewi Sant yn anhygoel.

"Rwy'n gobeithio y bydd fy mhlant yn fy edmygu ac yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn rwyf wedi'i gyflawni. Mae gen i dri o blant ifanc, a nawr rwy'n gwybod y bydd fy mhlant yn cyflawni'r hyn maen nhw ei ddymuno, ac yn cael y cymorth sydd ei angen.

"Gan fy mod yn dod o'r gymuned y teithwyr, nid yw addysg yn beth mawr mewn gwirionedd, ond i mi roedd o hyd yn bwysig pan roeddwn yn tyfu i fyny, ac rwy'n hapus fy mod wedi mynd i'r brifysgol a chyflawni fy nod. Mae wedi bod yn rhywbeth roeddwn i eisiau gwneud erioed, a nawr dwi eisiau parhau i gyrraedd lefelau uwch, oherwydd rwy'n gwybod y gallaf, diolch i'r Drindod Dewi Sant!"

Meddai'r darlithydd Glenda Tinney,

"Rydym yn falch iawn o weld Gwennie a Kim a'u cyd fyfyrwyr yn dathlu heddiw. Mae Gwennie a Kim wedi astudio'r un radd, a'r hyn sy'n ei gwneud yn arbennig iawn yw eu bod yn chwiorydd, felly maent wedi gallu rhannu'r profiad astudio gwych hwn.

"Mae Gwennie bellach yn parhau â'i thaith astudio fel rhan o gymhwyster Gwaith Cymdeithasol ôl-raddedig ac mae Kim hefyd yn paratoi i gael mynediad at astudiaethau pellach yn yr un maes. Rwy'n cofio cwrdd â Gwennie a Kim yn ystod y broses dderbyn a gwnaeth eu cymhelliant a'u brwdfrydedd i ddychwelyd i astudio argraff fawr arnaf ac mae'n hyfryd eu gweld yn graddio gyda'i gilydd.

“Yn ystod y轨美Gwennie wedi bod Yn gweithioar leoliad, ac felly nid yn unig mae hi'n graddio gyda'i gradd BA (Anrh) ond mae hefyd wedi ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar sy'n gymhwyster ymarfer graddedig ar gyfer y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Mae Kim hefyd wedi ymgymryd â phrofiad ymarferol er mwyn datblygu ei diddordeb ei hun yn y sector gofal cymdeithasol.

"Yn ystod eu gradd astudiodd Gwennie a Kim amrywiaeth o bynciau gan gynnwys hawliau plant, cynhwysiant, diogelu, anghenion dysgu ychwanegol, arweinyddiaeth, lles a chwarae, a bydd y rhain yn werthfawr wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector gwaith cymdeithasol erbyn hyn. Fel llawer o'n myfyrwyr, mae Gwennie a Kim wedi cydbwyso eu hymrwymiadau ar leoliad ac astudio ochr yn ochr â chefnogi eu cyfrifoldebau teuluol.

"Llongyfarchiadau Gwennie, Kim a'n holl fyfyrwyr yn graddio'r haf hwn. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o deithiau myfyrwyr a'u gweld yn dilyn eu breuddwydion."

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com