Mis o ddathlu’r Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe.


12.04.2022

阿梅aelodau员工myfyrwyr Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn dathlu defnydd o’r Gymraeg yn ystod mis Mawrth.

Gwobrau Coleg Celf Abertawe

Cychwynnodd y dathlu ar ddydd Gŵyl Dewi, pan gynhaliwyddarlitharbennig yng nghwmni yr artistMeinir Mathias a’i merch Mari.

Yna, bu rhai myfyrwyr yn ddigon lwcus i dderbyn gwobr am eu hymrwymiad i’r Gymraeg, ac am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y rhain yn fyfyrwyr sy’n graddio eleni, ac eraill yn fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs Sylfaen a’r cwrs Ffilm a Theledu.

Dywedodd y darlithydd Gwenllian Beynon, a fu’n brysur wrthi’n cydlynu’r cyfan,

“Roedd yn wych i ddathlu'r Gymraeg trwy gydol mis Mawrth eleni. Cefais i a'r artistiaid Preswyl lawer o hwyl yn darparu’r gwobrau. Wrth gynllunio roedd cyfyngiadau COVID yn dal i fod yn rhwystredig, ac felly penderfynwyd peidio â chynnal seremoni gyda llawer o bobl ynddo. Ond gwnaeth hyn i’r gwobrau fod yn fwy personol ac arbennig rhywsut gyda seremonïau bach ar draws y mis. Roedd darlith Meinir a Mari yn ardderchog, a bu’n ddechreuad arbennig i’r dathliadau eleni. Llongyfarchiadau enfawr i bawb wnaeth ennill gwobr eleni.”

Coleg Celf Abertawe - Gwobrau Gwyl Ddewi

Un o’r myfyrwyr a enillodd wobr eleni, oedd Jasmine Star sy’n astudio Celf Gain yn y Brifysgol. Dywedodd,

“Fel yr unig berson o fy nheulu sy’n gallu siarad Cymraeg, mae’n rhan hanfodol o’m hunaniaeth. Mae’n bwysig i mi fy mod yn defnyddio’r iaith o fewn fy ngwaith creadigol a thu hwnt. Mae ennill y wobr hwn yn golygu llawer am y rhesymau hyn.”

I Stella Hubbar Smith, myfyrwraig arall sy’n astudio Celf Gain,

“Mae bod yn artist Cymraeg yn bwysig i mi oherwydd mae bod yn ddwyieithog yn siapio cyd-destun fy ngwaith.”

Meddai Emily Sullivan sy’n astudio ffotograffiaeth,

“Mae’n fraint eithriadol i allu siarad Cymraeg, mae wedi bod yn fanteisiol i mi, ac wedi dod â chyfleoedd na fyddent wedi cyflwyno eu hun fel arall.”

Ychwanegodd Rhys O’Leary, myfyriwr Dylunio Celfi a Chynnyrch,

“Mae’r iaith Gymraeg wedi fy helpu i gysylltu gyda Chymry arall yn fy maes dros y byd i gyd.”

Ac i Lynwen Hammond sy’n astudio Ffilm a Theledu,

“Fel myfyriwr aeddfed, nid wedi ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ers dros deugain mlynedd. Rwyf wedi mwynhau’r profiad, ac yn bwriadu ysgrifennu sgriptiau byr pellach ar gyfer drama a dogfen yn Gymraeg.”

Ar ddiwedd mis Mawrth, tro’r technegwyr oedd hi i’w gwobrwyo, ond y tro hwn roedd y gwobrau yn cynnwys technegwyr o adeilad IQ, Dinefwr, ac Alex, a Chaerfyrddin hefyd. Roedd y gwobrau hyn am gefnogi staff a myfyrwyr gyda’r Gymraeg o fewn ei rôl yn y Brifysgol.

Dywedodd Adam Howell,

“Diolch yn fawr iawn am hyn. Mae’n annisgwyl braidd gan nad ydw i’n siarad Cymraeg yn union y tu hwnt i lefel elfennol iawn, ond yn bendant yn angerddol yn fy nghefnogaeth i warchod yr iaith a helpu ein myfyrwyr Cymraeg. Mae’n braf i’r ymdrech o gefnogaeth gael ei chydnabod gan y Brifysgol.”

Ychwanegodd y darlithydd Peter Spriggs,

“Mae Addysg Uwch yn newid o hyd. Newid pwysig yw'r pwyslais cynyddol ar y defnydd o'r Gymraeg a dwyieithrwydd. Mae'n her ac yn bleser dod o hyd i strategaethau i gyflwyno gwybodaeth, diddanu a chyffroi myfyrwyr a staff Celf a Dylunio fel bo'r Gymraeg yn rhan naturiol a nodweddiadol o'i profiadau.”

Meddai Cameron Ridgeway,

“Mae gweithio ochr yn ochr ag unigolion sydd hefyd yn rhannu'r un cariad at y Gymraeg ac angerdd am y creadigrwydd yn anrhydedd. Ac mae’n bleser gwybod bod fy nghyd-aelodau o staff a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith wedi teimlo fy nghefnogaeth barhaus a’m hymroddiad tuag atynt.”

Gwobrau Gwyl Ddewi - Coleg Celf Abertawe

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com