Myfyrwraig aeddfed yn cyrraedd y brig wrth iddi ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth


05.07.2022

Mae myfyrwraig aeddfed a fu’n astudio Addysg Gynradd gyda SAC ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill y Wobr Addysg Gynradd yn ei seremoni raddio ar ôl dychwelyd i’r ystafell ddosbarth i ddilyn ei breuddwyd.

Primary Education Award

Penderfynodd Maudie Hughes astudio Addysg Gynradd gyda SAC am ei fod yn llwybr gyrfa yr oedd wedi’i ystyried am ychydig pan adawodd yr ysgol ond teimlai nad oedd yn barod ar gyfer hynny ar y pryd. Wrth i Maudie newid gyrfa dros y blynyddoedd, cafodd ei hun yn gweithio fel cynorthwyydd cymorth dysgu mewn ysgol gynradd leol ac roedd wrth ei bodd â’r gwaith. Ar ôl trafodaethau byr gydag aelodau o’r staff am y proffesiwn, gwyddai Maudie ei bod am ddilyn ei breuddwyd o flynyddoedd yn ôl a'i bod am addysgu.

Roedd rôl addysgu hefyd yn apelio ati gan fod ganddi rywfaint o brofiad o weithio gyda phobl ifanc fel arweinydd gyda’r sgowtiaid, ac yn ddiweddar fel hyfforddwr sifil gyda’r cadetiaid môr, a wnaeth ei symbylu i ymwneud mwy ag annog, cefnogi a datblygu plant drwy addysg.

Fel myfyrwraig aeddfed â chyfrifoldebau teuluol, penderfynodd mai’r Drindod Dewi Sant oedd y dewis perffaith iddi gan ei bod yn brifysgol leol. Ar ôl gwrando ar adborth cadarnhaol gan athrawon yn ysgol ei meibion, a oedd hefyd wedi astudio yn y Drindod Dewi Sant ac a oedd â meddwl uchel o’r sefydliad, fe’i perswadiwyd fwy fyth i astudio yma.

Meddai,

“Pan ymwelais i â’r campws yng Nghaerfyrddin, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith – lle croesawgar a chyfeillgar a ddim yn rhy fawr. Gwnaeth y naws a’r awyrgylch gwych, ynghyd â’r staff croesawgar a chadarnhaol, wneud i mi deimlo mai dyma’r lle iawn yn bendant i mi ddod i wneud fy nghwrs hyfforddi athrawon.”

Teimlai Maudie fod y cwrs wedi’i strwythuro’n fodylau a oedd wedi’u diffinio’n glir ac a oedd yn datblygu o ran dyfnder a chwmpas dros y tair blynedd. Hefyd, yn ychwanegol at y lleoliadau bob blwyddyn, roedd nifer o gyfleoedd eraill i fyfyrwyr ymweld ag ysgolion a gweld y cysylltiad rhwng theori ac arfer.

“Roeddwn i hefyd yn hoffi’r gefnogaeth barhaus gan y darlithwyr a’m cyd-fyfyrwyr, yn ogystal â’r sesiynau i helpu i wella fy sgiliau Cymraeg. Er bod pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid addasu tipyn o’r cwrs i ddelio â’r amgylchiadau, parhaodd y tîm i’n cefnogi a’n harwain a’n helpu i gyflawni ein gorau.”

Dros y tair blynedd diwethaf mae Maudie wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau drwy’r cwrs, yn enwedig o ran sgiliau ymarferol i’w defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth cynradd. Fel cynrychiolydd grŵp ar gyfer ei dosbarth dros y tair blynedd diwethaf, mae’r cyfle hwn wedi ei galluogi i ddatblygu ei sgiliau arwain ymhellach.

Yn ôl Maudie, mae’r cwrs

“wedi rhoi或cymwysterau angenrheidiol我mi alluddysgu mewn ysgolion cynradd, ond y tu hwnt i hynny mae wedi rhoi cyfleoedd i mi gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl arbennig drwy ddarlithoedd, gweithgarwch mewn ysgolion a chynadleddau a dechrau ffurfio rhwydweithiau a fydd yn fy nghefnogi yn y dyfodol ar hyd fy ngyrfa.”

Meddai Elaine Sharpling, Cyfarwyddwr Academaidd Addysg Athrawon:

“Camodd Maudie yn ôl o un yrfa lwyddiannus iawn a dewis gwneud gwahaniaeth drwy ddod yn athrawes. O’r cychwyn cyntaf ar ei rhaglen BA Addysg Gynradd gyda SAC, mae wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl – gan gefnogi eraill a chymryd arni rôl cynrychiolydd myfyrwyr a llysgennad darllen. Trwy gyfnodau anodd a da, mae Maudie wedi arddangos holl rinweddau athrawes sydd wedi’i haddysgu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Gan fod Maudie’n gweithio ar hyn o bryd fel athrawes gyflenwi, mae’n teimlo ei bod yn gyfle perffaith iddi weld gwahanol ysgolion, meithrin hyder yn yr ystafell ddosbarth a datblygu ei sgiliau a’i phrofiad. Mae’n chwilio ar hyn o bryd am swydd addysgu barhaol ac yn gobeithio cael ei dosbarth ei hun o fis Medi ymlaen.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com