Sut mae Gradd-brentisiaethau Digidol yn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau digidol yng Nghymru


30.05.2022

Mae cyflogwyr yng Nghymru yn wynebu argyfwng sgiliau digidol: yn ôl YouGov, yn 2021 dywedodd 41% o gyflogwyr eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio gweithwyr â’r sgiliau digidol uwch angenrheidiol a dywedodd 76% o gyflogwyr y byddai'r prinder sgiliau digidol yn effeithio ar broffidioldeb eu busnes.

Julian Milligan will start the second year of his Digital Degree Apprenticeship in Computing (Software Engineering) in September and is a Senior Applications Developer for Carmarthenshire County Council.

Mae'r Gradd-brentisiaethau Digidol a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ateb – ac mae Uned Brentisiaethau'r brifysgol wedi trefnu digwyddiad brecwast ar 9 Mehefin ar gyfer cyflogwyr sydd â diddordeb mewn darganfod sut i uwchsgilio eu gweithlu drwy'r llwybr cost-effeithiol hwn.

“Nid yw cofrestru gweithiwr ar Radd-brentisiaeth Ddigidol yn costio dim i'r cyflogwr o ran buddsoddiad cyfalaf uniongyrchol – yr unig gost yw eu rhyddhau fel y gallant astudio,” meddai Sara Bickel, Swyddog Datblygu Prentisiaethau'r Drindod Dewi Sant. “Mae'r tîm yn y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr a phrentisiaid i nodi unrhyw broblemau o ran gwrthdaro gwaith, ac maent yn dewis dyddiadau cau ar gyfer asesiadau ac arholiadau yn ofalus gan gadw ymrwymiadau gwaith mewn golwg.”

Mae gan Radd-brentisiaethau Digidol nifer o fanteision i gyflogwyr a gweithwyr. Gall y cynllun helpu cyflogwyr i gadw a meithrin talent drwy alluogi cyfleoedd i weithwyr gamu ymlaen yn eu gyrfa o fewn yr un cwmni. Mae'r prentisiaid hefyd yn dod â sgiliau a gwybodaeth werthfawr yn ôl y gellir eu cymhwyso o fewn y sefydliad gan ddileu’r angen i dalu ffioedd ymgynghori costus.

“Mae cyflogwyr sydd eisoes wedi mabwysiadu'r llwybr hwn yn dweud wrthym eu bod yn gweld y Gradd-brentisiaethau Digidol yn ffordd gynaliadwy o greu ffrwd o dalent, yn enwedig i fusnesau sy'n mynd drwy gyfnod o dwf,” meddai Sara. “Mae llawer o brentisiaid digidol yn dod yn fodelau rôl neu'n weithredwyr newid yn eu busnesau, ac yn aml yn annog cyfoedion sy’n fwy nerfus ynglŷn â newid i uwchsgilio. Maent yn cynnig persbectif gwahanol, dysgu ffres ac ymchwil amserol y gellir eu gweithredu ar unwaith o fewn gweithrediadau busnes sydd ar waith eisoes neu brosiectau newydd neu gyfredol.”

Un enghraifft o hyn yw Samuel Jackson, sydd wedi cyflwyno sawl ateb digidol arloesol i Adran Gwasanaethau Digidol Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ystod ei brentisiaeth.

“Byddwn yn argymell llwybr y Radd-brentisiaeth Ddigidol yn llwyr,” meddai. “Hoffwn weld mwy o ymwybyddiaeth ohono fel opsiwn yn syth o'r ysgol. Nid opsiwn amgen ydyw yn fy marn i – credaf ei fod lawn cystal â chwrs prifysgol amser llawn. Erbyn i mi orffen fy mhrentisiaeth, bydd gennyf bedair i bum mlynedd o brofiad a gradd, tra bydd gan fy nghymheiriaid uchafswm o ryw flwyddyn i 18 mis o brofiad yn y diwydiant. Pan ystyriwch y cydbwysedd rhwng profiad a chymhwyster, ni allwn ei argymell ddigon.”

Mae Emma Williams, Swyddog Technegol TGCh yn yr Is-adran TGCh a Pholisi Corfforaethol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, yn brentis llwyddiannus arall. Daeth i wybod am y gradd-brentisiaethau digidol ar ôl i e-bost gyrraedd adran TGCh y cyngor yn 2019, yn rhoi gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr cymwys i ddilyn gradd.

“Bachais ar y cyfle ar unwaith i wneud cais am y llwybr BSc mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch), gan fy mod yn credu bod hwn yn gyfle gwych,” meddai.

Mae ei hastudiaethau wedi bod yn fuddiol iddi ar sawl lefel.

“Un fantais sylweddol yw fy mod wedi magu llawer mwy o hyder,” meddai. “Bellach mae gen i'r hyder i fynd i ddigwyddiadau prifysgol i drafod fy nhaith, siarad mewn cyfarfodydd gwaith a chysylltu ag eraill mewn modd mwy hyderus.”

Dechreuodd ar y radd wrth weithio fel Peiriannydd Cymorth Digidol TGCh, a rhoddodd ei hastudiaethau iddi'r hwb yr oedd ei angen arni i wneud cais am rôl Swyddog Technegol TGCh.

“Rwy'n lwcus iawn bod fy nghyflogwr mor galonogol a chefnogol i ni fel myfyrwyr Gradd-brentisiaethau Digidol, gan ein galluogi i dyfu fel gweithwyr,” meddai. “Rydyn ni'n dod â'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu a'i brofi yn ôl i'r gweithle ac yn cyfrannu at y gwasanaeth.”

Mae mwy o gyflogwyr yn deffro i fanteision Gradd-brentisiaethau Digidol. Mae Daniel Lewis, Cadeirydd Awen Collective, busnes moesegol twf uchel sy'n datblygu meddalwedd seiberddiogelwch ar gyfer sefydliadau diwydiannol a'u cadwyni cyflenwi, yn bwriadu ystyried gradd-brentisiaethau ar gyfer ei fusnes ei hun, a chyfrannu efallai at addysgu a hyfforddi gradd-brentisiaid digidol ynghylch seiberddiogelwch.

“Mae addysg lefel gradd yn gyffredinol yn hynod bwysig o fewn disgyblaethau technegol,” meddai. “Mae'n sylfaen, nid yn unig ar gyfer gwneud swydd ond hefyd i ddarparu meddwl beirniadol sy'n hanfodol ar gyfer arloesi mewn meysydd digidol.”

Yn y digwyddiad brecwast ar 9 Mehefin bydd yn trafod y bwlch o ran sgiliau digidol, yn enwedig yn y sectorau seiberddiogelwch a diwydiannol.

“Rwy'n edrych ymlaen at drafod y posibiliadau gyda'r brifysgol a gyda busnesau eraill,” meddai.

Heb fentrau fel y Gradd-brentisiaethau Digidol, mae’r bwlch o ran sgiliau digidol yn annhebygol o fynd i ffwrdd; mae’r angen ymhlith busnesau am sgiliau uwch yn debygol o gynyddu wrth i'n byd digidol ddod yn fwy soffistigedig, ac mae angen ffrwd o dalent â'r galluoedd priodol ar frys.

“美rhaglen y radd-brentisiaeth wedi份子chreu我弟弟atrys y prinder difrifol o ran sgiliau lefel uchel sy'n bodoli yn y DU, yn enwedig o fewn y sector digidol,” meddai Barry Liles, Pro Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) yn y Drindod Dewi Sant. “Fe’i defnyddir gan newydd-ddyfodiaid i'r sector yn rhan o'u dilyniant gyrfa, a hefyd i uwchsgilio'r gweithlu presennol lle mae cyflogwyr wedi nodi bylchau o ran sgiliau.

“Mae'r rhaglenni'n cynnig ateb pwrpasol i'r prentis a'r cyflogwr. Mae'n caniatáu caffael cymhwysedd sgiliau sy'n cael effaith uniongyrchol ar gyllid busnesau wrth i brosiectau byw gael eu cynnal yn rhan o'r rhaglen datblygu prentisiaid.”

Nod y digwyddiad brecwast ar 9 Mehefin yw lledaenu'r gair ymhellach am y posibiliadau a gynigir gan y Gradd-brentisiaethau Digidol.

“Mae'r digwyddiad yn briodol ac yn agored i ystod eang o gyflogwyr, o fusnesau bach a chanolig i gwmnïau rhyngwladol mawr a sefydliadau sector cyhoeddus,” meddai Barry Liles. “Fe'i cynlluniwyd i godi ymwybyddiaeth cyflogwyr o strwythur, cynnwys a budd y rhaglen ac i dynnu sylw at y fantais bosibl i'r cyflogwr drwy ymgysylltu â'r Brifysgol.”

Ychwanegodd Sara: “Bydd cyflogwyr yn gallu gweld sut mae busnesau eraill yn elwa ohono,” meddai. “Byddant yn gweld sut y gall helpu gyda'u materion sgiliau a recriwtio a bydd yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio ynghyd â gweld beth mae eraill yn ei wneud. Credaf y bydd, i lawer, yn rhoi’r cadarnhad sydd ei angen arnynt mai dyma'r cam cywir ymlaen.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com