CATALYSE 2023: GIG Cymru, academia, a diwydiant gan gyd-greu dyfodol technoleg iechyd


26.10.2023

Cynhaliodd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant symposiwm yr wythnos hon (dydd Mercher, Hydref 25), ar y thema Cyd-greu Dyfodol Technoleg Iechyd.

Catalyse ATiC Symposium 2023 Line up

Cynhaliwyd digwyddiad CATALYSE 2023 mewn cydweithrediad â âBwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Ddaa’iSefydliad TriTech, ynghyd llu o siaradwyr gwadd,游泳Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe a chafodd ei ffrydio’n fyw hefyd.

Dr Rob Orford, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol dros Iechyd (CSA-H) i Lywodraeth Cymru, a roddodd yr anerchiad agoriadol, yn dilyn croeso gan yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, a’r Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Roedd pedair sesiwn thema’r symposiwm yn cynnwys cyflwyniadau ar Gyd-Greu a Phartneriaethau; Technoleg Ymdrochol; Technoleg Feddygol; a Thechnoleg Ddigidol a Data Mawr, gyda siaradwyr gwadd o sectorau iechyd ac addysg uwch Cymru, a busnesau yn y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Bloom Standard Inc, UDA and Cyberdyne Inc, Japan.

Archwiliodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), y sefydliad cenedlaethol sy’n adeiladu ac yn dylunio gwasanaethau digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru, her hacathon data fel rhan o raglen y symposiwm, yn ystod y sesiwn Technoleg Ddigidol a Data Mawr.

Bydd DHCW yn cynnal y digwyddiad hacathon yn y dyfodol agos, lle caiff timau eu herio i fynd i’r afael â phroblemau penodol a darparu canfyddiadau newydd ym maes gofal iechyd, ar sail data a gesglir yn rheolaidd gan y GIG.

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW), sef cydweithrediad rhwng Hyb Gwyddorau Byw Cymru ac Iechyd a Gofal Cymru, yn dod â diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisi, academyddion, arloeswyr ac arianwyr at ei gilydd i greu amgylchedd o arloesi digidol yng ngofal iechyd Cymru.

Mewn sesiwn benodol ynghylch Technoleg Ymdrochol, amlygodd tîm DHEW fenter newydd i sefydlu grŵp diddordeb arbennig Cymru gyfan yn y maes hwn.

Catalyse ATiC Symposium 2023 Room

Meddai’rAthro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant:“Roeddem yn falch dros ben o bartneru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Sefydliad TriTech ar gyfer y symposiwm cyffrous hwn, a chroesawu Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i arwain dwy o’r sesiynau, sy’n cryfhau ein cysylltiadau cydweithredol.

“Roedd yn gyfle ardderchog我arddangos sut gall y cydweithredu rhwng academia, GIG Cymru, a diwydiant ddarparu manteision go iawn a gwell canlyniadau i gleifion, yn ogystal â hyrwyddo twf economaidd.

“Mae’r dull cydweithredol a chymhwysol hwn yn ganolog i strategaeth ymchwil ac arloesi’r Brifysgol, ac mae’n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae prifysgolion yn ei chwarae wrth yrru arloesi yng Nghymru a’r tu hwnt, gan sicrhau ein llewyrch yn y dyfodol.”

Meddai'r Athro Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:"Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn mynd o nerth i nerth.

“Efallai mai Symposiwm CATALYSE a'n hymdrechion cydweithredol mewn perthynas â'r Sefydliad TriTech yw’r enghreifftiau gorau o'r hyn y gellir ei gyflawni, pan fydd y GIG, prifysgolion a diwydiant yn cydweithio i wella gofal iechyd a chanlyniadau cleifion.

“Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i’r afael â’r heriau iechyd sydd ger ein bron ni fel cenedl yw cofleidio arloesedd technegol a chymdeithasol. Roedd CATALYSE 2023 yn gyfle perffaith i wneud hynny.”

Meddai’rAthro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesi a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol ATiC, Y Drindod Dewi Sant: “Roedd y trydydd symposiwm hwn yn rhoi enghreifftiau o sut y gall byrddau iechyd, gofal iechyd, academia, a diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a gwerthuso technolegau arloesol, i ddeall a ellid darparu gwell diogelwch, effeithiolrwydd, a gwell canlyniadau i gleifion ar raddfa fawr.

“Rydyn ni’n falch dros ben o weithio gyda’r holl bartneriaid, gan rannu, a dysgu sut y gallwn ni ychwanegu gwerth gyda’n gilydd at ein cymunedau ledled Cymru.”

MeddaiDr Sean Jenkins, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC, Y Drindod Dewi Sant: “Adeiladodd y trydydd symposiwm ATiC hwn ar lwyddiant ein digwyddiad cychwynnol yn 2019 a symposiwm 2022, a oedd yn adlewyrchu effaith ac etifeddiaeth rhaglen Accelerate Cymru, yr oedd ATiC yn bartner ynddo rhwng 2018 a 2022.

“Bydd y digwyddiad CATALYSE newydd, yr ydym yn ei ragweld yn dod yn gynhadledd gydweithredol flynyddol, yn croesawu siaradwyr a chynadleddwyr ar draws Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, busnes, ac academia.

“Roedd yn ddigwyddiad cyffrous, yn arddangos enghreifftiau o gydweithredu diweddar a chyfredol, a chyfleoedd symbylol ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol i gyd-greu dyfodol technoleg iechyd.”

Nodyn i'r Golygydd

  • MaeATiC, Y Drindod Dewi Sant,yn bartner academaidd balch iSefydliad TriTech, sef menter gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gan gynnig gwasanaethau penodol ym maes atebion gofal iechyd arloesol. Ewch i www.masterclasses.nature.com
  • RoeddATiCyn bartner ynrhaglen Accelerate Cymru o 2018-2022, a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), grŵp Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, prifysgolion, Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru (arweinydd rhaglen), a’r byrddau iechyd. Nod Accelerate Cymru yn y pen draw oedd creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu | Marketing and Communications Officer

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) | University of Wales Trinity Saint David (UWTSD)
Techniwm 1 | Technium 1
Heol y Brenin | Kings Road
Abertawe | Swansea
SA1 8PH

Ebost | Emailbethan.evans@www.guaguababy.com