Photography

CADWCH LE

Sesiwn Flasu Ffotograffiaeth

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio un o’n cyrsiau ffotograffiaeth, pam na wnewch chi ymuno â sesiwn flasu a dysgu rhagor amdanom ni?

Fe gewch gyfle i gwrdd â staff a sgwrsio am y cyrsiau yn ogystal â dysgu rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer tynnu lluniau gwych adref.

Mae ein diwrnodau blasu wedi’u rhannu dros ddwy wythnos; mae sesiwn un yn gyflwyniad a gweithdy ar bortreadaeth gartref, mae sesiwn dau’n gyfle i adolygu a rhoi adborth ar y gwaith rydych wedi’i wneud.


Ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiwn Flasu ffotograffiaeth nesaf

Gweithdy Goleuo Portread wedi’i wneud adref

  • Defnyddio goleuo tŷ – lamp, nenfwd, cannwyll, a golau ffôn
  • Creu offer goleuo gyda deunyddiau tŷ (adlewyrchyddion yn defnyddio ffoil a cherdyn)
  • Technegau goleuo sylfaenol –Rembrandt, Split, Butterfly, Loop
  • Gallu i ddefnyddio ffôn, camera compact neu DSLR
  • Mae’r sgiliau ac offer yma’n ychwanegiadau syml i wella esthetig eich delweddau’n ddramatig

Os ydych yn athro/darlithydd gydag archeb grŵp ac yr hoffech drefnu sesiwn bwrpasol, cysylltwch agartanddesign@www.guaguababy.com
Mae croeso i chi gysylltu â Rheolwr y Rhaglen, Sian Addicott, os oes gennych unrhyw gwestiynausian.addicott@www.guaguababy.com
Gweler y tudalennauFfotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (BA)aFfotograffiaeth yn y Celfyddydau (BA)am ragor o wybodaeth am y cyrsiau.