Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Cyrsiau Israddedig- Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng, HND, Mynediad Sylfaen)

Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng)

Ymgeisio Nawr

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 2il yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes Peirianneg Fecanyddol -Complete University Guide 2023

Bwriedir i’r rhaglenni Peirianneg Chwaraeon Moduro roi sylfaen gadarn i chi yng ngwyddoniaeth a thechnolegau peirianneg fecanyddol a’r modd y cânt eu cymhwyso wrth ddylunio a datrys ystod o broblemau peirianneg yng nghyd-destun y diwydiant chwaraeon moduro. Nod y rhaglenni yw datblygu eich gallu i weithio gydag eraill i gymhwyso’r gwaith hwn i broblemau yn y byd go iawn.

Bydd eich gradd yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, o ran y reid a gofynion trin y cerbyd, a pherfformiad ac effeithlonrwydd y pwerwaith. Bydd y cwrs yn defnyddio offer a phrosesau o safon diwydiant i ymchwilio i ddyluniadau cerbydau. Mae’r offer hyn yn cynnwys Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur, Caffael Data a phecynnau efelychu datblygedig megis Dynameg Hylifol Cyfrifiadurol a Dadansoddiad Elfen Feidraidd.

Mae meysydd astudio arbenigol yn cynnwys dylunio peiriannau datblygedig, dylunio pwerwaith, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Mae prosiectau annibynnol a grŵp yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r arbenigeddau hyn ymhellach.

Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau Chwaraeon Moduro yn y byd go iawn.

Achredwyd y graddau Baglor canlynol fel rhai sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer y carfanau derbyn o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:

  • BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro (Amser Llawn 3 Blynedd; EngC cyf 15968)
OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Peirianneg Chwaraeon Moduro (BEng)
Cod UCAS: H336
Gwnewch gais trwy UCAS

Peirianneg Chwaraeon Moduro (HND)
Cod UCAS: 034H
Gwnewch gais trwy UCAS

Mynediad Sylfaen Peirianneg Chwaraeon Modur (BEng)
Cod UCAS: H341
Gwnewch gais trwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth Tîm Rasio PCYDDS
Enw'r cyswllt::Timothy Tudor


Ffioedd Dysgu 2022/23:
Cartref: (Llawn-amser):£9,000y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser):£13,500y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro hynaf yn y wlad.
  2. Y cyfleuster chwaraeon moduro pwrpasol mwyaf newydd yn y wlad.
  3. Tîm rasio dan arweiniad myfyrwyr, sy’n rhoi profiad ymarferol a lywir gan y diwydiant.
  4. Staff brwdfrydig a gofalgar.
  5. Rhaglen BEng a achredir gan IMechE.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd meysydd astudio arbenigol, gan gynnwys uwch ddylunio peiriannau a deinameg cerbydau, yn eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb arbenigol y gellir eu datblygu yn y modylau Grŵp a Phrosiect Mawr.

Yn llawer o’r modylau mae’r cwrs yn ystyried yr agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnoleg sy’n drosglwyddadwy i ystod eang o gyfleoedd gwaith. Caiff y cwrs ei gefnogi hefyd gan gyfleoedd allgyrsiol i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgir yn y modylau i gymwysiadau chwaraeon moduro yn y byd go iawn.

Mae ein BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro (Llawn amser 3 Blynedd; cyf EngC 15968) a BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro gyda blwyddyn mewn diwydiant (Llawn Amser 4 Blynedd; cyf EngC 15969) wedi eu hachredu’n gyrsiau sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn Rhannol) gan y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol o dan drwydded gan reoleiddiwr y DU, sef y Cyngor Peirianneg.

Mae achrediad yn farc sicrwydd bod y radd yn bodloni’r safonau a bennir gan y Cyngor Peirianneg yn Safon y DU ar gyfer Cymhwysedd Peirianneg Proffesiynol (UK-SPEC).

Bydd gradd achrededig yn rhoi ichi’r holl wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, neu ran ohonynt, sydd eu hangen i gofrestru yn y pendraw yn Beiriannydd Corfforedig (IEng) neu Siartredig (CEng). Mae rhai cyflogwyr yn dewis recriwtio o blith graddau achrededig, ac mae gradd achrededig yn debygol o gael ei chydnabod gan wledydd eraill sydd wedi llofnodi cytundebau rhyngwladol.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Sylfaen (Tyst AU STEM)

  • Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Integreiddio (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Beirianneg Fodurol (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)

  • Dulliau Dadansoddol (20 credyd; gorfodol)
  • Systemau Rheoli Trydanol (20 credyd; gorfodol)
  • Dylunio a Deunyddiau Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Gwyddor Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
  • Technoleg Chwaraeon Moduro (20 credyd; gorfodol)
  • Gweithdy ac Arfer (20 credyd; pasio pob elfen).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)

  • Systemau Gyriad Amgen (20 credyd; gorfodol)
  • Rheolaeth Peirianneg (20 credyd; pasio pob elfen)
  • Prosiect Dylunio Grŵp (20 credyd; gorfodol)
  • Dynameg Chwaraeon Moduro (20 credyd; gorfodol)
  • Dadansoddi Straen a Pheirianneg drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAE) (20 credyd; gorfodol)
  • Thermodynameg a Thanio (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)

  • Dynameg Chwaraeon Moduro Uwch (20 credyd; gorfodol)
  • Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd (20 credyd; gorfodol)
  • Dylunio Pwerwaith Cyfoes (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Dylunio Strwythurol a Dadansoddi Hylifol (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.

Dolenni Cysylltiedig

Fideo Peirianneg Chwaraeon Moduro

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

BEng Mynediad Sylfaen Pedair Blynedd

Ar gyfer mynediad lefel sylfaen我’graddau pedairblynedd, mae ein cynigion wedi’u seilio ar 32 pwynt UCAS (80 yn flaenorol). Ni fyddwn yn mynnu ar bynciau penodol. Byddwn yn derbyn cymwysterau Safon Uwch, Diplomâu Cenedlaethol, Tystysgrifau, Dyfarniadau Cenedlaethol neu’r cyfwerth, yn cynnwys NVQ Lefel 3, Diploma 14-19 a chyrsiau mynediad. Ar yr amod eich bod chi’n cyflawni’r pwyntiau sydd eu hangen, byddai un Safon Uwch yn ddigonol. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.

Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

HND

80 pwynt o gymhwyster lefel 3 technegol fel Diploma Estynedig BTEC. Gellir ystyried profiad perthnasol.

BEng

112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ar draws y diwydiant chwaraeon moduro, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i dimau Fformiwla 1 a WRC. Mae graddedigion yn gweithio nawr mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau perfformiad uchel a dylunio aerodynameg.

Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach yn ogystal â gweithio i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs) fel Ford, Jaguar Land Rover a chyflenwyr haen un fel Mahle. Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

Dyfyniadau Myfyrwyr

Steffan Williams, un o raddedigion BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
“Rwy’n dod o gefndir gwibgartio a ralio felly, drwy gymryd rhan yn Formula Renault a Thîm MCR yn ystod fy amser yn y brifysgol, datblygais ddealltwriaeth o ddau gar rasio gwahanol iawn. Trwy’r prosiectau rydych hefyd yn dysgu am broses gyfan chwaraeon moduro, yn cynnwys gweithio drwy’r nos i drwsio’r car pan fod angen. Roedd y prosiectau ychwanegol hyn yn amhrisiadwy, gan gynnig cyfle i roi’r hyn a ddysgwyd mewn darlithoedd ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn.”

Harley Gasson, BEng (Anrh) Peirianneg Chwaraeon Moduro / McLaren
“Mae fy swydd i’n cwmpasu amrywiaeth o gyfrifoldebau, gan ddechrau o’r cysyniadau dylunio, y cyfrifiadau a’r dadansoddiadau cychwynnol. Y peth gorau am fy swydd yw’r rhyddid i ddylunio a chymhwyso amrywiaeth eang o sgiliau a ddysgais drwy gydol fy addysg. Rwy’n mwynhau datrys problemau ar sail egwyddorion sylfaenol a gwthio’r terfynau i sicrhau perfformiad gorau cydrannau, boed hynny drwy leihau pwysau, ffrithiant, sŵn ac ati. Roedd y cwrs yn defnyddio dull ymarferol ac yn cynnig y rhyddid i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon moduro allgyrsiol. Am ddwy flynedd fi oedd Prif Beiriannydd tîm Fformiwla 4 y Brifysgol, a defnyddiais injan y car hwn ar gyfer fy nhraethawd hir oedd yn canolbwyntio ar berfformiad y pen silindrau a dynameg ‘valvetrain’.”

Richard Browne, BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
“Peiriannydd Rasio Volkswagen Motorsport GMBH” Gwyddwn fy mod i eisiau gweithio ym maes Chwaraeon Moduro, ond doeddwn i ddim 100% yn siŵr ym mha faes. Roeddwn i’n gogwyddo tuag at ddylunio. Siaradais i â llawer o brifysgolion yn sioe chwaraeon moduro Autosport yn Birmingham, ac roedd PCYDDS wir yn sefyll allan. Roedden nhw’n barod i helpu, yn hyblyg a realistig ac roedd eu cwrs yn gyfuniad perffaith o waith ymarferol a theori. Cefais amser difyr iawn yn Abertawe, ac mae’r pynciau a astudiais yn dal i fod yn ddefnyddiol hyd heddiw. Roedd y darlithwyr yn broffesiynol iawn ac yn fwyaf pwysig, yn hawdd siarad â nhw. Yn 2013, symudais i Volkswagen Motorsport, i fod yn Beiriannydd Chassis Andreas Mikkelsen. Rwy’n gyfrifol am saernïaeth a manyleb y Chassis a adeiladwyd ar gyfer Andreas drwy gydol tymor Pencampwriaeth Ralio’r Byd, y cyfan o fewn rheoliadau’r FIA ac yn cydymffurfio â nhw. Mewn profion a ralïau, rwy’n gweithio gyda’r gyrrwr i ddod o hyd i gynllun addas y mae’n hapus ag ef. Mae’n swydd gystadleuol iawn sy’n rhoi boddhad mawr, ac ni fyddwn i yma oni bai am fy nghyfnod yn Abertawe.”

Dan May, BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro
“Fy hoff brofiad i yn y Brifysgol, o bell ffordd, oedd cymryd rhan gyda thîm Formula Renault a Thîm MCR. Nid yn unig mae’r prosiectau’n caniatáu i chi gael profiad go iawn o’r theori a ddysgir mewn darlithoedd, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i’ch gwneud yn fwy unigryw pan fyddwch yn gadael y Brifysgol â gradd. Rhoddodd brofiad bywyd go iawn i fyfyrwyr fel fi o gystadlu mewn tîm, mewn rasys go iawn, mewn pencampwriaethau priodol. Yn ychwanegol at hyn, mae’r prosiectau’n gymaint o hwyl i fod yn rhan ohonynt.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i'n tudalennauYsgoloriaethau a Bwrsarïauam y wybodaeth ddiweddaraf.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalenTeithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Santi ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

Llety

Ewch i dudalenHafan Lletyam ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â nios oes gennych unrhyw gwestiynauy Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.