Cliciwch ar yr enwau i weld eu manylion bywgraffyddol.

Yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd y Cyngor

Randolph Thomas

Roedd yr Hybarch Randolph Thomas yn Archddiacon Aberhonddu rhwng 2003 a 2013, ar ôl dal yn flaenorol swyddi Ficer Caerfyrddin (1993- 2003) a Chanon Cadeirlan Tyddewi (1996-2003).

Mae hefyd wedi gwasanaethu’n Ustus Heddwch; Cadeirydd Grŵp Gwalia; Llywodraethwr Coleg Crist Aberhonddu; a Chyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’n un o sylfaenwyr Cymdeithas Tai Cartrefi Cymru ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig ac yn Gadeirydd Bwrdd Amddiffyn yr Eglwys yng Nghymru.

Emlyn Dole, Darpar-Gadeirydd

Emlyn Dole

Yn raddedig o Brifysgol Cymru (Bangor) a PCYDDS, cafodd Emlyn Dole yrfa gynnar yng ngweinidogaeth y Bedyddwyr ac yn y celfyddydau cyn dod yn Gynghorydd Sir etholedig. Gwasanaethodd am saith mlynedd fel Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin lle bu’n gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Roedd yn un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU. Mae’n un o ymddiriedolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn parhau i weithio’n rhan amser fel gweinidog hunan-ordeiniedig.

Yr Athro Medwin Hughes DL, DPhil, DPS, FRSA, Is-Ganghellor

Medwin Hughes

Yr Athro Medwin Hughes yw Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, ac mae wedi dal y swydd hon ers dechrau’r Brifysgol. Er 2011 mae hefyd wedi dal swydd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru. Fe’i penodwyd yn Brifathro Coleg y Drindod Caerfyrddin ym mis Medi 2000 ac arweiniodd y Brifysgol wrth iddi ymgeisio’n llwyddiannus am bwerau i ddyfarnu graddau a addysgir, ac yn dilyn hynny statws coleg prifysgol.

Cyn hynny bu’n ddarlithydd ac yn ymchwilydd yng Ngholeg y Drindod, Prifysgol Caerdydd ac Athrofa Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru, a elwir bellach yn Brifysgol Glyndŵr. Mae’n gyn-Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae wedi gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau Ymgynghorol Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop.

Mae’n gyn aelod o Fwrdd Dyfarnu Gwobr Dug Caeredin Cymru, ac yn gyn-gadeirydd Kaleidoscope UK, elusen sy’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd sy’n dioddef oherwydd effeithiau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Bu’n Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2016-17 ac mae’n gwasanaethu’n Ddirprwy Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Sir Ddyfed. Mae’n un o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Justin Albert OBE, Aelod o’r Cyngor

Justin Albert

Mae Justin Albert OBE wedi bod yn Gyfarwyddwr ar Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er 2011. Mae ganddo gefndir cyfreithiol a phrofiad helaeth o arweinyddiaeth fasnachol ac nid-er-elw mewn sefydliadau cadwraeth, addysgol a diwylliannol. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys bod yn aelod o fwrdd Croeso Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn ymgynghorydd i Weinidog y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth; mae ei rolau cyfredol yn cynnwys Is-Lywydd Gŵyl y Gelli, Ymddiriedolwr Farms for City Children a llywodraethwr yr Ysgol Fale Frenhinol.

Yn ogystal â’i radd yn y gyfraith mae ganddo radd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru. Mae’n ddinesydd deuol y DU a’r Unol Daleithiau.

Siwan Davies, Aelod o’r Cyngor

Siwan Davies

Siwan Davies yw Cyfarwyddwr Busnes y Senedd yn Senedd Cymru ac mae ganddi brofiad helaeth o faes llywodraethu. Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin a bu ei gyrfa gynnar yng Ngwasanaeth Sifil y DU a Chynulliad Cymru (fel yr oedd ar y pryd), cyn symud i Awstralia, lle bu ganddi nifer o rolau gweithredol yn Senedd Awstralia a Senedd Queensland.

Taya Gibbons, Aelod o’r Cyngor

Taya Gibbons

Taya长臂猿yw Llywydd etholedig Undeb Myfyrwyr yDrindod Dewi Sant ar Gampws Caerfyrddin ar gyfer 2022/23, sy'n cymryd seibiant o'i hastudiaethau i gyflawni ei rôl a'i hamser fel swyddog sabothol. Hi yw'r swyddog sabothol ieuengaf, ac yn gobeithio dod â phersbectif newydd i bob agwedd o'r swydd. Mae’n ymddiriedolwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Uzo Iwobi CBE, Aelod o'r Cyngor

A head-and-shoulders photo of Council Member Uzo Iwobi.

Uzo Iwobi CBE yw CEO a sylfaenydd Race Council Cymru ac mae’n rhedeg ei hymgynghoriaeth arweinyddiaeth a hyfforddiant ei hun. Mae’n gyfreithiwr a bargyfreithiwr a chafodd ei galw i Far Nigeria. Hi yw sylfaenydd Canolfan Cymuned Affrica yng Nghymru, ZeroRacismWales, Fforwm Ieuenctid Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cenedlaethol Cymru, a Black Lives Matter Wales Collective (fforwm polisi Cymru-gyfan). Yn ddiweddar mae hi wedi gorffen ei thymor fel Ymgynghorydd Polisi Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru. Mae hi wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, wedi’i lleoli yn y Swyddfa Gartref, lle buodd yn rhan o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau hiliol ac amrywiaeth. Bu hefyd yn Gomisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU. Mae hi wedi’i chynnwys yn rhestrau 100 menyw wych Cymru ac 15 eicon du Cymru WalesOnline.

Mae’n meddu ar TAR o Brifysgol Cymru a gweithiodd fel darlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe rhwng 1995 a 2004. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus ac yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

罗兰·琼斯,Aelod或Cyngor

Rowland Jones

Llun yn国防部yn fuan

Mae Rowland Jones yn Syrfëwr Siartredig ac yn Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Mae ganddo wybodaeth eang am weithgareddau ynghylch eiddo ac ystadau ledled de Cymru ac mae’n gyfarwyddwr ar ei gwmni ei hun er 1991.

Mae wedi cyfrannu i ddarparu prosiectau datblygu mawr, gan gynnwys Prosiect Ethos £7m yng Nglannau Abertawe a’r Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Ranbarthol, a bu’n un o lywodraethwyr Coleg Gŵyr, Abertawe. Bu’n Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg ar gyfer 2010-11 ac mae’n gwasanaethu’n Ddirprwy Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn yr un sir.

Vanessa Liverpool, Aelod o’r Cyngor

A headshot of Vanessa Liverpool.

Vanessa Liverpool yw Llywydd Grŵp etholedig Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant ar gyfer 2021/22. Ar hyn o bryd mae hi yn ei hail flwyddyn o astudio ar Gampws Llundain, gan ddilyn BA Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle. Mae ganddi brofiad helaeth o wasanaeth cwsmeriaid, ar ôl treulio 13 mlynedd fel Swyddog Sgrinio Teithwyr ar gyfer Eurostar. Mae'n Aelod o Weinidogaeth y Menywod Eneiniedig yng nghanolfan addoli Shiloh ac ar hyn o bryd mae'n un o Ymddiriedolwyr Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant.

Timothy J Llewelyn, Aelod o’r Cyngor

Wedi’i eni a’i addysgu yng Nghaerfyrddin, mae gan Timothy Llewelyn gefndir mewn bancio. Roedd ganddo uwch swyddi rheolaethol ym Manc Lloyds tan 2018, ac yn fwyaf diweddar, bu’n Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol dros Gymru a’r Rhanbarth Gorllewinol. Mae ganddo bellach nifer o swyddi anweithredol: ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Cymdeithas Tai Bro Myrddin; mae’n aelod Lleyg o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn Gadeirydd ei Bwyllgor Sefydlog; yn Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi; ac yn Drysorydd Eglwys Sant Pedr yng Nghaerfyrddin.

Arwel Ellis Owen OBE, Aelod o’r Cyngor

Arwel Ellis Owen

Arwel Ellis Owen OBE yw Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Chadeirydd Cyfeillion yr Ystafell Fyw. Ymunodd â’r BBC ar ôl graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac roedd yn Olygydd Newyddion a Materion Cyfoes Cymru cyn cael ei benodi’n Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon.

Ar ôl ennill Cymrodoriaeth Ymchwil gyntaf y Guardian yng Ngholeg Nuffield, Rhydychen, gadawodd i sefydlu’i gwmni annibynnol ei hun yn y cyfryngau, Cambrensis Communications. Gadawodd y busnes teuluol ym maes darlledu a’r cyfryngau i fynd yn Brif Swyddog Gweithredol interim S4C ac Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n darlledu’n aml ar faterion Eingl-Wyddelig, yn awdur ac yn Gymrawd Churchill ac yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth.

Victoria Provis, Aelod o’r Cyngor

Victoria Provis

Cafodd Victoria Provis ei haddysg yng Nghymru, Canada a Ffrainc, ac mae ganddi gefndir cyflogaeth mewn cyfathrebu corfforaethol, ymgynghoriaeth reoli ac ymgynghoriaeth recriwtio. Mae hi wedi gweithio i ystod o gwmnïau blaenllaw yn Llundain, yn fwyaf diweddar Odgers Berndtson – ym maes Chwilio Gweithredol (1995-2011) lle’r oedd hi’n bartner a hefyd yn Gadeirydd cychwynnol swyddfa’r cwmni yng Nghaerdydd. Mae ganddi hefyd brofiad helaeth yn y sectorau masnachol a chyhoeddus ar lefel cyfarwyddwr anweithredol, ar ôl gwasanaethu mewn amrywiaeth eang o gyrff gan gynnwys Bwrdd Cynghori Twristiaeth Cymru (penodiad Gweinidogol), Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth y Tywysog (Cymru) ac Amgueddfa Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn aelod o gyngor Cronfa Goffa Genedlaethol yr Arglwydd Kitchener ac yn aelod o Gyngor Cyffredinol Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd (lle bu gynt yn llywodraethwr ac yn Is-gadeirydd).

Geraint Roberts, Aelod o’r Cyngor

Geraint Roberts

Mae gan Geraint Roberts gefndir mewn addysg ysgolion uwchradd. Roedd yn bennaeth Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli rhwng 1997 a 2009 a gweithio wedyn yn Bennaeth Ymgynghorol yn yr Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, gan ganolbwyntio ar adolygu a newid trawsffurfiol.

Er 2012, mae wedi gweithio’n ymgynghorydd annibynnol ar brosiectau sydd wedi cynnwys ad-drefnu ysgolion, adolygiadau ysgol gyfan, gwella ysgolion a datblygu modelau llywodraethu yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Rhondda Cynon Taf, a strategaethau ar gyfer trawsffurfio addysg uwchradd yng ngogledd Powys.

Mae wedi golygu dwy gyfrol o farddoniaeth ac wedi ennill sawl gwobr am farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hefyd yn cyfrannu i ystod o weithgareddau sy’n hyrwyddo’r celfyddydau. Sefydlodd Ysgol Farddol Caerfyrddin bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl ac mae’n aelod o bwyllgor llenyddiaeth canolog yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gyfarwyddwr Gofal Celf Caerfyrddin, sef elusen yn y celfyddydau sy’n darparu cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth sef 'Desg Lydan' yn 2020.

Nigel Roberts, Aelod o’r Cyngor

奈杰尔·罗伯茨华盛顿大学

Mae cefndir gan Nigel Roberts ym maes bancio ac mae wedi dal swyddi rheoli gyda Banc Midland/HSBC tan 2010, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Bancio Masnachol ar gyfer Gorllewin Cymru. Bellach mae’n gweithio fel ymgynghorydd i Clay Shaw Butler, Cyfrifyddion Siartredig ac mae’n dal nifer o swyddi anweithredol o fewn Esgobaeth Tyddewi. Mae rolau cyfredol eraill yn cynnwys Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol Eglwysig y Model ac Ymddiriedolwr ar gyfer Canolfannau Teulu Caerfyrddin. Mae hefyd yn aelod o’r Panel Benthyciadau ar gyfer Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

Dr Elizabeth Siberry OBE, Aelod o’r Cyngor

Elizabeth Siberry

Wedi ei magu a’i haddysgu yng Nghymru, gweithiai Elizabeth Siberry fel gwas sifil yn Llundain: yn Gyfarwyddwr AD adrannol rhwng 2003-08 ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol rhwng 2008-11. Bellach mae ganddi bortffolio o rolau sector cyhoeddus ac ymddiriedolaethau yn y sector elusennol: yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor y Brifysgol mae’n un o Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Brycheiniog, ac Ymddiriedolaeth Gregynog.

Astudiodd hanes yn Llundain a Chaergrawnt a dyfarnwyd iddi PhD yn 1982. Mae’n parhau i ysgrifennu a chyhoeddi fel hanesydd, gan weithio ar agweddau ar hanes canoloesol a hanes Sir Frycheiniog ac mae hi’n aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Dyfarnwyd iddi OBE yn 1997.

Emlyn Schiavone, Aelod o'r Cyngor

A head-and-shoulders photo of Council Member Emlyn Shiavone.

Mae Emlyn Schiavone yn Gynghorydd Tref a Sir ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin, rôl sy’n cynnwys aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Addysg a Phlant, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Mae ei gefndir proffesiynol ym maes addysg, lle mae wedi meddu ar ystod o rolau addysgu a rheoli gwasanaeth. Mae’n ymddiriedolwr neu’n aelod pwyllgor ar ystod eang o elusennau lleol ac ar hyn o bryd mae’n llywodraethwr a chyn-gadeirydd mewn dwy ysgol yng Nghaerfyrddin.

Maria Stedman, Is-Gadeirydd y Cyngor

Maria Stedman

Mae gan Maria Stedman gefndir ym maes cyfrifeg ac mae hi wedi dal swyddi uchel yng Nghyngor Sir Dyfed, Cyngor Sir Caerfyrddin a Phrifysgol Abertawe. Bu’n Bennaeth ar CIPFA Wales Cymru am naw mlynedd cyn ymddeol.

Ar ôl cyflawni amrywiol rolau gwirfoddol oddi mewn i bwyllgorau rhanbarthol CIPFA, rhwng 1999 a 2002 hi oedd Llywydd CIPFA De Cymru a Gorllewin Lloegr; Aelod Cyfetholedig o Gyngor CIPFA; Cadeirydd Bwrdd Cymwysterau CIPFA, Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhanbarthau; Aelod o Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant CIPFA.

Mae hefyd wedi gwasanaethu’n Llywodraethwr Ysgol ac yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin; Trysorydd yr Ŵyl Ffilm Geltaidd Ryngwladol; yn un o sefydlwyr, aelod bwrdd a thrysorydd canolfan ieuenctid galw heibio Dr M’z, Caerfyrddin; a rhwng 2012 a 2014, yn aelod lleyg o Bwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.

Penodwyd gan y Staff Academaidd

Dr Conny Matera-Rogers, Aelod Staff Academaidd

Wedi'i geni a'i haddysgu yn yr Almaen, dechreuodd gyrfa Dr Conny Matera-Rogers drwy interniaeth rheoli gydag ITT. Ar ôl symud ac ymsefydlu yng Nghymru, mae wedi dal swyddi addysgu a rheoli yng Ngholeg Sir Benfro ac wedyn ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a’r Drindod Dewi Sant. Derbyniodd ei Doethuriaeth ar Reoli Newid mewn Addysg Uwch o Brifysgol Sheffield yn 2014. Yn 2005 dechreuodd ddatblygu partneriaethau AU cartref a rhyngwladol yng Nghymru a Llundain a bu'n allweddol wrth lansio Campws Llundain Y Drindod Dewi Sant yn 2012, ac wedyn Canolfan Ddysgu Birmingham Y Drindod Dewi Sant yn 2018. Ar hyn o bryd hi yw’r Profost sydd â chyfrifoldeb dros Gampysau Llundain a Birmingham.

美’gyn-Aelod或Bwrdd ac yn Gyfarwyddwr ar Antur Teifi, Arts Care Gofal Celf, Foothold Enterprises, sy'n adlewyrchu ei hymrwymiad i ddatblygu prifysgolion yn ganolfannau dysgu cymunedol o ansawdd uchel yn ogystal â busnesau cadarn a chynaliadwy.

Dr Peter Spring, Aelod Staff Academaidd

Dr Peter Spring

Ymunodd Dr Peter Spring â’r Brifysgol yn 2015 yn Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Cynnyrch a Dodrefn. Daeth yn Bennaeth Ysgol yng Ngholeg Celf Abertawe yn 2019, yna’n Gyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Dylunio a Diwydiannau Perfformio yn 2020, portffolio sy’n cynnwys rhaglenni yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Cyn ymuno â’r Brifysgol, bu’n rhedeg ei gwmni Dylunio bach llwyddiannus ei hun ar ôl cwblhau ei MA a PhD mewn Nodweddion Dylunio yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain yn 2008. Ei hoff beth yw Celf Gain, ac fe astudiodd gerflunio yn Adelaide, De Awstralia, cyn astudio Dylunio 3D ym Mhrifysgol Kingston.

Ef yw cyd-sylfaenydd Canolfan Ymchwil Metadylunio yng Ngholeg Celf Abertawe ac mae ei ymchwil yn cynnwys meysydd o ddiddordeb metadylunio: sut y gallwn ddylunio rhyngweithiadau mwy manteisiol rhwng pobl a’r pethau a gynhyrchwn, ac arferion cynaliadwy a sut y gall dylunwyr newydd ymestyn ffiniau creadigrwydd gyda deunyddiau fel technolegau Realiti Estynedig (XR). Mae ei uchelgeisiau’n ffocysu ar ddod â diwydiannau creadigol y Brifysgol at ei gilydd i greu gwaith cydweithredol synergaidd ac felly defnyddio creadigrwydd yn gatalydd ar gyfer twf cyffredinol.

Mae wedi graddio o garfan gyntaf y Brifysgol o Raglen Arweinwyr y Dyfodol y Brifysgol, gan ennill PGCert mewn Arfer Proffesiynol (Arweinyddiaeth Strategol mewn AU). Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a HEA.

Dr Kerry Tudor, Aelod Staff Academaidd

Ymunodd克里都铎博士或Drindod戴维·桑特yn 2013 yn ddarlithydd mewn Peirianneg Foduro, ar ôl cwblhau Doethuriaeth Beirianneg (EngD) a oedd yn rhychwantu'r Diwydiannau Moduro a Dur. Gan ddefnyddio ei phrofiad diwydiannol, mae wedi datblygu cyfres lwyddiannus ynghylch Datblygiad Proffesiynol a Chyflogadwyedd i helpu'r myfyrwyr peirianneg i gynyddu eu sgiliau meddal ac elwa o ddarlithoedd gwadd gan amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau perthnasol.

Y meysydd ymchwil sydd o ddiddordeb iddi yw'r dadansoddiad cynaliadwyedd a chylch bywyd ar gyfer y diwydiant moduro a chwaraeon moduro. Mae ei chyfrifoldebau addysgu yn cynnwys pynciau megis dylunio peirianneg, sgiliau astudio peirianneg a materion cynaliadwyedd, yn ogystal â chyflwyno sgiliau peirianneg allweddol megis dylunio drwy gymorth cyfrifiadur a llunio adroddiadau technegol. Enillodd statws Peiriannydd Siartredig yn 2015 ac mae'n un o Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch.

Penodwyd gan Cymorth y员工

Yr Athro Kyle Erickson

Professor Kyle Erickson

Ymunodd yr Athro Kyle Erickson â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2010 fel darlithydd yn y Clasuron. Yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth Adran y Clasuron ac yn Ddeon Cynorthwyol y Dyniaethau. Yn 2019, symudodd i rôl anacademaidd yn y Swyddfa Academaidd fel Cyfarwyddwr Profiad Academaidd. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar gyfoethogi’r profiad academaidd drwy sicrhau ansawdd, gwella dysgu ac addysgu, rheoliadau academaidd, achosion myfyrwyr a dehongli data gyda chylch gwaith ar draws y Brifysgol.

Cwblhaodd ei radd israddedig ym Mhrifysgol Califfornia, Los Angeles, lle bu’n astudio Hanes a Groeg a Lladin, a bu’n gweithio yn y Ganolfan i’r Rhannol Ddall yn addysgu technoleg gyfrifiadurol addasol. Cwblhaodd ei radd Meistr a PhD mewn Hanes Helenistaidd ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau gwleidyddol a diwylliannol rhwng y byd Groegaidd a’r Dwyrain Agos. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cysylltiadau rhwng diwinyddiaeth, cyfreithlondeb a phŵer. Mae’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.

Clerc y Cyngor

Sarah Clark, Clerc y Cyngor

Clerc y Cyngor yw:

Sarah Clark
Ffon: 01267 676860
E-bost:s.clark@www.guaguababy.com

Gweler adran am ragor o fanylion.