Ydds Hafan-Astudio Gyda Ni-Cyrsiau Ôl-raddedig- Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc)

Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc)

Bydd y cwrs hwn yn apelio at unigolion sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am weithrediadau darbodus ac ystwyth.

Wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â gradd gyntaf mewn peirianneg, gweithgynhyrchu, logisteg a rheoli’r gadwyn gyflenwi, mae hefyd yn helpu rheolwyr profiadol i ategu eu gwybodaeth.

Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar reoli gweithrediadau, yn y sectorau diwydiannol a’r sector gwasanaethu. Mae’r rhaglen meistr yn canolbwyntio’n gryf ar gymhwyso syniadau a gwelliant parhaus, gydag asesiadau’n seiliedig ar faterion go iawn. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael y wybodaeth a ddisgwylir gan arbenigwr â thystysgrif ‘Six Sigma Black Belt’.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

MSc Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (MSc)
(Amser Llawn)
(Rhan-amser)
Gwnewch Gais Nawr

Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (Diploma Ôl-raddedig)
(Amser Llawn)
(Rhan-amser)
Gwnewch Gais Nawr

Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth (Tystysgrif Ôl-raddedig)
(Amser Llawn)
(Rhan-amser)
Gwnewch Gais Nawr


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Benthyciadau Ôl-raddedig Cais am Wybodaeth Gwnewch Gais Nawr
Enw'r cyswllt::Andrew Thorn

Ffioedd Dysgu 2021/22:
Cartref:£7,500
Dramor:£13,340

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Y rhaglen wedi’i datblygu mewn partneriaeth â’r diwydiant.
  • Cyfle i astudio ar ein campws tra modern gwerth £350m yng Nglannau Abertawe (SA1).
  • Mae gan yr adran beirianneg dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu’r cyrsiau hyn yn llawn amser ac yn rhan amser.
  • Darperir y cwrs gan staff sydd â blynyddoedd lawer o brofiad diwydiannol
  • Cysylltiadau helaeth yn y diwydiant ac mewn prosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Adlewyrcha’r MSc Gweithrediadau Darbodus ac Ystwyth y galw cyfredol yn y diwydiant am arbenigedd mewn technegau gweithgynhyrchu darbodus ac ystwyth.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys gweithgareddau sy’n chwarae rhan allweddol mewn rheoli’r fenter estynedig. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ddylunio cynhyrchion a phrosesau ar gyfer gweithgynhyrchu, gan reoli’r risg adeg y cam dylunio o ddatblygu cynhyrchion a chynllunio prosesau.

Cwmpasa’r ddisgyblaeth feysydd megis rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg, sydd yn allweddol i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang a darparu gwasanaeth o safon fyd-eang. Nod y rhaglen yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am weithdrefnau allweddol mewn masnach ryngwladol a sut y gall sefydliadau leihau eu heffaith amgylcheddol trwy gydol y gadwyn gyflenwi a gweithrediadau gweithgynhyrchu. Mae meysydd allweddol ansawdd a phrynu yn rhan ganolog o’r cwrs, a bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau yn gysylltiedig ag amrywiaeth o offer a thechnegau y gellir eu defnyddio i wella perfformiad a mantais gystadleuol.

Pynciau Modylau
  • Systemau Darbodus ac Ystwyth
  • Caffael a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
  • Rheoli Ansawdd mewn Amgylchedd Gweithredol
  • Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol
  • Arweinyddiaeth ym maes Rheoli Peirianneg
  • Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu
  • Prosiect Meistr
Asesiad

Mae’r asesu ar y rhaglen meistr yn cynnwys cymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gallai asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem a gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella gan ddefnyddio offer a thechnegau a ddysgwyd gennych mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.

Dolenni Cysylltiedig

Final Year Exhibition Face widget

Arddangosfeydd Prosiect Blwyddyn Olaf

Anastasija -MSc Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth


Jamie Lean - Heriau Astudio’n Rhan Amser yn YDDS

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Gradd anrhydedd dosbarth 2:2 neu uwch mewn disgyblaeth briodol.

Golyga natur y rhaglen y rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Cymwysterau cyfwerth

Ystyrir cymwysterau cyfwerth ar gyfer derbyn ymgeiswyr ar y rhaglen. Er enghraifft, byddai’r brifysgol yn ystyried ymgeisydd â HND da, ynghyd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad perthnasol. Byddai angen tystiolaeth i gefnogi’r cais.

Sgiliau eraill a ystyrir

Nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd, byddwn hefyd yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd.

Ceisir tystiolaeth o brofiad personol, proffesiynol ac addysgol, i ddarparu dangosyddion o allu unigolyn i fodloni gofynion y rhaglen.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion amrywiaeth eang o sgiliau a chymwyseddau proffesiynol sy’n drosglwyddadwy o fewn sectorau busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r rhaglen astudio.

Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwyliwr cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio ac amserlennu, rheolwr / cyfarwyddwr gweithrediadau.

Mae pob un o’n graddedigion sydd wedi astudio’n rhan amser wedi cael dyrchafiad tra roeddent yn astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi priodoli hynny i’w cymhwyster.

Mae graddedigion iau wedi elwa o well rhagolygon cyflogaeth ac wedi canfod eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.

Mae nifer o gwmnïau mawr bellach wedi cydnabod bod y cwrs hwn yn ofyniad allweddol er mwyn cael dyrchafiad neu ddal swydd benodol.

Costau Ychwanegol

Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs hwn heb fynd i gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau sy’n codi o gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

Cyrsiau Cysylltiedig
Dyfyniadau Myfyrwyr

Gwnaeth y cwrs fy ngalluogi i ddysgu technegau a dulliau newydd, gan roi’r rhyddid i mi ei gysylltu’n uniongyrchol â’m gwaith

David Hunt

Roedd y staff o gymorth mawr ac aethant y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt i'm helpu i lwyddo.

Jamie Lean

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Ewch i’n tudalenYsgoloriaethau a Bwrsarïaui ddysgu rhagor.

Llety

Ewch i dudalenHafan Lletyam ragor o wybodaeth