Myfyrwyr MA Theatr Perfformio a Chyfarwyddo yn cydweithio gyda’r elusen Oasis i gynnal gweithdai i ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches.


15.11.2021

Mae myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs MA Theatr Perfformio a Chyfarwyddo ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithio’n ddiweddar â’r elusen Oasis er mwyn cynnal gweithdai ar gyfer ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Daeth y syniad yn wreiddiol pan wnaeth un o gleientiaid yr elusen ddatgan ei ddiddordeb mewn drama. Sylweddolodd Oasis fod yna botensial i’r syniad o greu gweithgaredd perthnasol i’w cleientiaid fel cyfle i fwynhau ac i leihau straen. Cysylltodd un o wirfoddolwyr yr elusen, Share Bower, â’r Brifysgol i weld a fyddai modd cydweithio i alluogi i’r prosiect hwn gael ei wireddu.

Bydd y bartneriaeth newydd hon yn golygu fod y Brifysgol yn agor ei drysau ac yn creu cysylltiadau newydd o fewn cymuned Caerdydd. Yn ogystal, mae prosiect o’r fath yn herio’r myfyrwyr i ymdrin â sefyllfaoedd anghyfarwydd drwy drosglwyddo sgiliau’r theatr a’i berthnasedd i bobl fel eu bônt yn medru mynegi’u hun.

Dywedodd Tomos Owen o’r elusen Oasis: "Rydym yn falch i gydweithio â’r Drindod Dewi Sant ar ein prosiect drama. Sefydlwyd y prosiect er mwyn creu gofod diogel i ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches i allu mynegi’u hun ac i wella eu hiechyd meddwl drwy ddrama. Mae’r sesiynau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr yn wych, ac mae’n rhoi cyfle i’n cleientiaid fedru dysgu am ddrama a’r technegau mewn modd na fyddai’n bosib i nifer ei brofi heb y bartneriaeth hon. Mae’r myfyrwyr a’n cleientiaid yn cyd-dynnu’n dda gyda’i gilydd, ac rydym yn gwybod y gall y bartneriaeth addawol hon droi allan i fod yn un hirdymor arbennig.”

Bydd y Brifysgol yn cynnal pedwar sesiwn o awr a hanner i gyd, ac mae niferoedd y cleientiaid yn amrywio o sesiwn i sesiwn.

Hyd yn hyn, mae’r sesiynau wedi llwyddo i ddatblygu hunan hyder y cleientiaid, ac mae’n gyfle iddyn nhw fedru mynegi’u hun, ymarfer ychydig ar ei Saesneg, ac mae hefyd yn gyfnod iddyn nhw fedru anghofio am ofidiau bywyd am gyfnod byr o amser.

Cyn i’r myfyrwyr ddechrau gweithio gyda Oasis, gwnaeth un o diwtoriaid y cwrs Elen Bowman gysylltu â Kate Duffy- Syedi o gwmni Phosfurus Theatre sy’n arbenigo ar weithio ar brosiectau tebyg, i gael cyngor ar y math o weithdai y dylid ei gynnal, ac i ddysgu pa fath o eirfa y dylid defnyddio er mwyn gwneud y profiad yn un cyfforddus iddynt.

Meddai Elen Bowman,

“Fi wnaeth rhedeg y gweithdy cynta’, a beth oedd yn eich taro’n fwy na dim oedd y teimlad o brydferthwch oedd yno o ddod â llawenydd i’r ystafell - y cynhesrwydd a rhannu storïau. Mae’n bwysig rhoi’r profiad sy’n rhoi’r teimlad o werth iddyn nhw. Pan mae pobl yn rhannu straeon ei hunain, maen nhw’n gorfod teimlo’n gyfforddus a diogel yn yr ystafell, ac roedd gweld y bobl yn ymddiried ynom a rhannu’u straeon personol yn deimlad braf. Mae’n brofiad arbennig i allu clywed straeon y bobl hyn, ac i ddysgu mwy am y byd o’u hanesion.

“Mae nifer o’r bobl yma wedi dod o wledydd a sefyllfaoedd treisgar, felly mae dod i ofod lle maen nhw’n gallu bod yn rhydd i rannu pwy yw nhw heb unrhyw ragfarn yn cymryd amser iddyn nhw i ymgarfwyddo â’r amgylchedd hwn, ac i ymddiried ynom.”

Fel rhan o’r sesiynau, mae’r criw yn chwarae sawl gêm er mwyn gwneud pobl i deimlo’n gyfforddus yn eu cwmni, ac i ddod i adnabod ei gilydd yn well. Y bwriad yw cael pobl i deimlo’n greadigol, ac yn dysgu’r sgiliau o wrando ar ei gilydd, ac i rannu profiadau.

Yn ôl Elen,

“Mae’r cyfle yma yn euraidd ar gyfer y myfyrwyr. Maen nhw’n dysgu cymaint o sgiliau; sgiliau arwain, sgiliau paratoi. Maen nhw’n dysgu sut i ddelio gydag adegau anodd, er enghraifft os oes rhywun yn dechrau llefain, neu beth i’w wneud os oes rhywun yn rhannu stori ddirdynnol gyda’r grŵp. Mae’r sefyllfaoedd yma i gyd yn gwneud i’r myfyrwyr feddwl sut i ddelio gyda’r sefyllfa”

Mae’r profiad hyd yn hyn i’r myfyrwyr wedi bod yn werthfawr, ac wedi gwneud iddyn nhw edrych ar bethau mewn modd gwrthrychol a sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth.

Dywedodd un o’r myfyrwyr, Leigh Alexandra Woolford,

”潘dorrodd y newyddion bod nif fawr o deuluoedd yn dod i'n Prifddinas er mwyn dod o hyd i noddfa, roeddwn wir eisiau helpu mewn rhyw ffordd. Wnes i byth ddychmygu byddai'r Brifysgol wedi trefnu'r cyfle o ddatblygu ein sgiliau trwy helpu pobl eraill. Mae'n deimlad arbennig ein bod ni wedi cael ein gwahodd i fod yn rhan o'r gymuned gynnes sydd wedi cael ei sefydlu i gefnogi ffoaduriaid yma yng Nghymru."

Oherwydd natur y sesiynau, nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i greu cynhyrchiad fel y cyfryw, ond yn hytrach maen nhw’n canolbwyntio ar weithdai penodol. Mae Leigh er enghraifft wedi paratoi gweithdy ar yr anthem genedlaethol drwy rannu a darganfod ystyr caneuon ac emynau pwysig i fynychwyr y sesiwn. Ychwanegodd Leigh,

"Byddaf yn dechrau gydag ymarferion llais, yna hoffwn archwilio'r storïau sydd tu ôl i'r caneuon sy'n holl bwysig i ni yng Nghymru, yn enwedig wrth i'r ddinas lenwi gyda gwylwyr rygbi. Dwi'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn i roi blas o'n hetifeddiaeth fel Cymry a'r ffordd mae cân yn gallu creu undod o fewn eiliadau. Yn yr un modd, byddwn yn gweithio mewn modd gweithdy i ddarganfod pa ganeuon a storïau traddodiadol sy'n creu angerdd mewn gwledydd eraill."

Meddai James Hope, myfyriwr arall sy’n ymwneud â’r prosiect,

"Mi wnes i ddewis i seilio fy ngweithdy ar Clownio oherwydd mae'n annog ni i chwarae a defnyddio ein dychymyg. Ond, yn bwysicach oll, i ganiatáu eich hunain i ymlacio ac edrych fel ffŵl (mewn modd 'plentyn rhydd'), a bod yn gyfforddus, drwy gael hwyl mewn grŵp."

Wrth i’r berthynas rhwng y Brifysgol a Oasis barhau i gryfhau, y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn dod yn rhywbeth blynyddol, a fydd yn gobeithio medru ymestyn allan at elusennau eraill hefyd er mwyn rhoi cyd-destun i fyfyrwyr o fywyd er mwyn adrodd straeon credadwy.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@www.guaguababy.com