Un o raddedigion Seicoleg y Drindod Dewi Sant yn bwriadu camu ymlaen yn ei gyrfa drwy astudio am radd Meistr mewn Seicoleg Iechyd


24.08.2021

Mae’r fyfyrwraig aeddfed Sarah Griffiths wedi derbyn gradd BSc anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Seicoleg o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae’n bwriadu camu ymlaen yn ei gyrfa drwy astudio ar gyfer cam un gradd meistr mewn Seicoleg Iechyd sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (y BPS).

Mature student Sarah Griffiths has graduated with a first-class honour in BSc Psychology from the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) and plans to further her career by studying for BPS stage one accredited master’s degree in Health Psychology.   

Mae Sarah yn byw yng Nghwm Tawe ac fel rhan o’i chwrs treuliodd gyfnod ar leoliad gwaith gyda chwmni Gwyddorau Bywyd yng Ngorllewin Cymru sy’n ymwneud ag ymchwil a datblygu yn y diwydiannau fferyllol, MedTech a biotechnoleg.

“Yn ystod lleoliad财政年度,roeddwn Yn gydymaith ymchwil ac yn defnyddio dulliau a dyluniadau ymchwil, yn dadansoddi data seicolegol (gan ddefnyddio SPSS), ac yn paratoi a chyflwyno adroddiadau manwl i reolwyr uwch,” meddai.

“Ers i mi gwblhau fy lleoliad ymchwil, graddio a gwneud cais dilynol i astudio am MSc mewn seicoleg iechyd, rwy wedi cael cyfle pellach i weithio gyda’r Cwmni Gwyddorau Bywyd fel rheolwr prosiect (rhan amser i gyd-fynd â’m hastudiaethau meistr). Mae fy rôl yn ymwneud ag ymgynghori â diwydiant ac arbenigwyr clinigol a grwpiau cleifion yn y GIG i ymchwilio a chyflwyno adroddiad ar ddeilliannau a adroddwyd gan gleifion (PROS/ PROMS) ac ansawdd bywyd (QoL) cleifion i asesu sut mae ymyriadau fferyllol, MedTech neu fiodechnoleg newydd yn effeithio ar salwch, bywyd bob dydd, ac ansawdd bywyd (yn enwedig o ran salwch cronig).

“Mae ‘llais y claf’ yn ffenomen hanfodol ac yn faes o seicoleg iechyd yr wyf yn awyddus i ehangu fy ngwybodaeth ohono. Rwy’n edrych ymlaen yn awr at hybu fy nealltwriaeth o faterion bioseicogymdeithasol a’u heffeithiau ar ddewisiadau iechyd, mesurau ataliol, ymyriadau a deilliannau iechyd. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn hybu fy ngwybodaeth am gyflyrau iechyd hirdymor ac ymyriadau seicolegol y gellir eu defnyddio’n ymarferol i helpu i adfer a rheoli cyflyrau cronig. Rwy’n awyddus hefyd i ddysgu rhagor am seicoleg ymddygiadau iechyd newidiol ar waith.”

Ar ôl astudio seicoleg, cymdeithaseg a bioleg at Lefel A, aeth Sarah yn syth i’r gweithle.

“Mae gen i brofiad yn y sector bancio, y sector elusennol a’r diwydiant cynhyrchu cerddoriaeth. Fodd bynnag, roeddwn i’n teimlo’n barod am newid cyfeiriad, felly penderfynais ddilyn gradd BSc mewn seicoleg,” ychwanegodd.

“Mae’r meddwl dynol a sut y gellir defnyddio ymchwil a gwybodaeth seicolegol yn ymarferol i fynd i’r afael â heriau unigol, cymdeithasol a byd-eang wastad wedi fy nghyfareddu.”

Dywedodd Sarah ei bod wedi penderfynu gwneud cais i’r Drindod Dewi Sant am fod y rhaglen radd BSc seicoleg wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

“Mae gan y rhaglen bwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau ymchwil seicolegol unigol ac mae’n canolbwyntio ar faterion y byd go iawn a chymhwyso gwybodaeth seicolegol,” meddai.

“Roedd pynciau’r modylau oedd wedi’u rhestru yn y prosbectws yn dangos sylw cynhwysfawr i faes seicoleg, gyda’r cyfle i ganolbwyntio ar feysydd arbenigol dewisol yn y flwyddyn olaf ac yn y prosiect ymchwil empirig unigol (y traethawd hir).

“Wrth ymweld ar ddiwrnod agored, fe wnes i gwrdd ag aelodau’r staff a oedd yn hynod o wybodus ac angerddol am eu maes arbenigol. Cefais gyfle hefyd i weld cyfleusterau newydd sbon y labordy seicoleg, sydd wedi’i adeiladu i’r pwrpas, yn rhan o ddatblygiad newydd SA1, sydd yn wych. Mae campws newydd SA1 yn amgylchedd rhagorol ar gyfer dysgu.”

Dywed莎拉ei bodwedi mwynhau ei phrofiad prifysgol a phob agwedd ar y modylau a addysgwyd yn fawr iawn, yn enwedig y modylau seicoleg iechyd a rhagfarn a gwahaniaethu yn y flwyddyn olaf, a’r prosiect empirig.

“Yn ogystal, mwynheais y modylau dulliau ymchwil a dysgu sut i gynnal dadansoddiad ffenomenolegol ar gyfer ymchwil ansoddol a dadansoddiad ystadegol ar gyfer ymchwil meintiol (gan ddefnyddio’r rhaglen gyfrifiadurol SPSS),” meddai.

“Roedd modwl ymchwil ar waith yn yr ail flwyddyn yn caniatáu i fyfyrwyr gynnal prosiect ymchwil ar raddfa fach; fe wnaeth yr holl fodylau fy mharatoi’n dda ar gyfer y prosiect empirig olaf yn y drydedd flwyddyn.”

Yn ei thraethawd hir israddedig yn ystod COVID-19, fe wnaeth Sarah archwilio rôl bygythiad clefydau, effaith negyddol (pryder), y canfyddiad o fod yn agored i glefyd, osgoi clefydau a bygythiad pathogenau (penodol i COVID-19), a chydberthynas hyn ag agweddau niweidiol at fewnfudwyr Tsieineaidd.

“Roedd fy mhrosiect traethawd hir yn cynnwys ymgysylltu’n feirniadol â llenyddiaeth gyfredol, berthnasol, syntheseiddio damcaniaethau â ffocws empirig, a gweithredu dadansoddiad yn ymchwilio i wybodaeth am fygythiad pathogenau COVID-19, canfyddiadau risg a chydberthynas ag agweddau niweidiol, ”meddai.

“Roedd fy mhrosiect empirig hefyd yn archwilio lefelau straen yn gysylltiedig â bygythiad pathogenau a senoffobia yn gysylltiedig â COVID—19 i archwilio rhagfarn tuag at fewnfudwyr Tsieineaidd. Rwy wedi datblygu sgiliau dadansoddol, ymarferol a datrys problemau gan ddefnyddio gwybodaeth seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”

“Fel myfyrwraig aeddfed, rwy wedi mwynhau dychwelyd i ddysgu yn y Drindod Dewi Sant, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, yr anogaeth broffesiynol a’r cyfleoedd y mae’r adran a’r staff seicoleg yn y Drindod Dewi Sant wedi’u rhoi i mi.

Meddai Dr Ceri Phelps, Cyfarwyddwr Academaidd: Seicoleg a Chwnsela: “Mae Sarah wedi bod yn fyfyrwraig ymroddedig a chydwybodol ers ei diwrnod cyntaf yn y Drindod Dewi Sant yn astudio gradd Seicoleg wedi’i hachredu gan y BPS. Braf gweld sut mae ei sgiliau ymchwil a’i hyder wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan greu cyfleoedd gwych i Sarah wrth iddi symud ymlaen yn ei gyrfa. A minnau’n seicolegydd iechyd cofrestredig fy hun, rwy’n falch iawn i weld Sarah yn dilyn fy angerdd dros gymhwyso seicoleg i faes iechyd a meddygaeth, a dymunwn y gorau iddi yn ei dyfodol.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com