Aduniad Cyn-fyfyrwyr Llambed, 2023 (i raddedigion 2015-2023)
- 29ain i 31ain Awst, 2023
- Campws Llambed, Y Drindod Dewi Sant
Bydd PCYDDS Llambed yn cynnal ei aduniad pwrpasol cyntaf i raddedigion diweddar.
Ymunwch â ni i hel atgofion ac ailgysylltu!
I bwy mae’r aduniad ar gyfer?
Mae’r digwyddiad cyntaf hwn yn agored i bob myfyriwr sydd wedi graddio o Lambed ers 2015. Mae yna groeso hefyd i raddedigion 2023 i fynychu. Ar gyfer y rheiny a wnaeth raddio cyn 2015, peidiwch â phoeni, mi fyddwn yn cynnal aduniad mwy o faint i chi yn fuan!
Yr amserlen
- Dydd Mawrth, 29ain Awst
- 14:00 i 16:00: Cofrestru
- 17:00: Barbeciw a diodydd ar y ddôl
- Dydd Mercher, 30ain Awst
- 13:30 i 15:00: Anerchiadau diweddaru’r Brifysgol, gan gynnwys Gyrfaoedd, buddion i Gyn-fyfyrwyr, a Chymdeithas Llambed
- 15:00 i 17:00: Cyflwyniad Archifau
- 18:00: Swper yn y Ffreutur
- 19:00: Noson gymdeithasol yn yr Hen Far
- Dydd Iau, 31ain Awst
- 11:00: Digwyddiad yn gorffen
Sut i archebu?
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau archebu ar gael, o Wely a Brecwast a Phob Pryd Bwyd i archebu ar gyfer prydau/digwyddiadau unigol, ac mae yna hefyd opsiwn rhad ac am ddim i archebu lle yn unig heb lety na bwyd.
Dewch ar ben eich hun neu gyda hen griw o ffrindiau. Naill ail ffordd, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yna!
Oes os gennych chi ymholiad, cysylltwch âlampeteralumni@www.guaguababy.com