Mae’r dudalen hon yn dwyn llawer o wybodaeth ynghyd sy’n arbennig o berthnasol i ddysgwyr o bell. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr amdano, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r swigen sgwrsio ar waelod y dudalen.

Cyflwyniad Rhithwir i Wasanaethau'r Llyfrgell

美或cyflwyniad rhithwir hwn wedi份子fwriadu ar gyfer unrhyw fyfyrwyr na allant fynychu taith o gwmpas y llyfrgell yn y cnawd. Mae sesiynau ar gael trwy gydol y flwyddyn a gallwch archebu lle gan ddefnyddio’r ffurflen hon:Teithiau Llyfrgell.

Trefnu Apwyntiad

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol sydd wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu maes gwaith. Os oes angen ychydig o gymorth, cyngor neu anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi. Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i wneud apwyntiad, ar gael ar ein tudalenTrefnu Apwyntiad.

Man Astudio Rhithwir

Os na allwch ymweld â’n llyfrgelloedd i astudio yn y cnawd, bydd einGofod Astudio Rhithwiryn eich galluogi i neilltuo amser i’ch astudiaethau prifysgol wrth gael eich cefnogi gan staff y llyfrgell, gan ail-greu profiad astudio’r llyfrgell mewn amgylchedd ar-lein.

Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio a benthyca eitemau o lyfrgelloedd academaidd eraill yn y DU gan ddefnyddio cynllunSCONUL Access.

Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y gallwch gofrestru i ddefnyddioLlyfrgell Genedlaethol Cymru.

Archebu Sganiau o Benodau Llyfrau neu Erthyglau a Gedwir yn y Llyfrgell

Defnyddiwch ein gwasanaethAngen Rhagor?i ofyn am sganiau o eitemau a gedwir yn ein llyfrgelloedd.

Benthyca drwy’r post i Ddysgwyr o Bell

Mae dysgwyr o bell yn gymwys i ddefnyddio ein gwasanaeth benthyciadau post ar gyfer eitemau nad ydynt ar gael yn electronig a dylid cyflwyno ceisiadau am fenthyciadau post trwy eincatalog llyfrgell. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn unig i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cofrestru fel Dysgwyr o Bell. Sylwch y bydd tâl postio bychan yn cael ei ychwanegu at eich cyfrif llyfrgell ar gyfer ceisiadau am fenthyciadau post:

  • Yn y DU: £4 y pecyn hyd at 2kg
  • Rhyngwladol: rhwng £4 a £16 yn dibynnu ar bwysau. Fel arfer £8 am un llyfr.

Ar ôl cwblhau’ch astudiaethau, bydd gofyn ichi ddychwelyd yr holl eitemau sydd gennych ar fenthyg a thalu unrhyw ddyledion. Os cewch estyniad, rhaid i hwnnw fod wedi'i gadarnhau'n swyddogol a'i gofnodi gan y Gofrestrfa cyn bydd modd ymestyn eich mynediad i'r llyfrgell hefyd.

Mae ôl-raddedigion yn gallu benthyca hyd at 20 eitem ar y tro ac ar gyfer ymchwilwyr mae'n 25.

Mae benthyciadau post ar gael i’w benthyca am gyfnod cychwynnol o chwe wythnos a byddant yn adnewyddu’n awtomatig am hyd at un flwyddyn galendr, oni bai bod cwsmer llyfrgell arall yn gofyn amdanynt (neu fod eich cyfrif ar fin dod i ben).

Archebu Eitemau Na Chedwir gan y Llyfrgell

Defnyddiwch静脉gwasanaeth Angen兆瓦y? i archebu eitemau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd eraill ond nad ydynt yn cael eu cadw yn PCYDDS.

Os ydych yn ddysgwr o bell cofrestredig ac angen i eitemau gael eu postio atoch, byddwch yn ymwybodol bod tâl bychan am bostio:

  • Yn y DU: £4 y pecyn hyd at 2kg
  • Rhyngwladol: rhwng £4 a £16 yn dibynnu ar bwysau. Fel arfer £8 am un llyfr.
chat loading...

Arddangosfa Llyfrau Rhithwir

Bydd yr arddangosfa hon yn arddangos e-lyfrau o’n casgliadau ar-lein, yn edrych ar themâu amrywiol ac yn dangos llyfrau newydd sydd wedi’u hychwanegu at y casgliadau yn ddiweddar.

Calendr Digwyddiadau Ar-lein

Digwyddiadau llyfrgell sy'n cael eu cynnal ar-lein