Hafan YDDS-Y Brifysgol-Campysau, Canolfannau a Lleoliadau-Campysau Abertawe- Matrics Arloesi

Matrics Arloesi



Agor Mai 2024

Swansea Bay City Deal Logo

Croeso i’r Matrics Arloesi, adeilad ac eco-system newydd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar arloesi digidol, yng nghanol Ardal Arloesi SA1 Abertawe.

Mae’r Matrics Arloesi yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu eich busnes drwy gydleoli a phartneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, prifysgol hynaf Cymru. Trwy weithio mewn partneriaeth â ni byddwch yn ymuno â chymuned arloesi newydd a bywiog o fusnesau newydd, busnesau ac ymchwilwyr. Byddwch hefyd yn cael mynediad i gyfleusterau blaengar sydd wedi’u lleoli yn ein hadeiladau campws cyfagos, gan roi cymorth technegol arbenigol i chi i helpu i gyflymu datblygiad cynnyrch newydd a thyfu eich menter.

Mae datblygiad y Matrics Arloesi yn ganlyniad partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn bortffolio buddsoddi gwerth £1.3 biliwn.

o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Ariennir y Fargen Ddinesig, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Dros ei hoes gynlluniedig.

o 15 mlynedd, nod y Fargen Ddinesig yw rhoi hwb o leiaf £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol, wrth greu mwy na 9,000 o swyddi.

Sut galla i gael mwy o wybodaeth

I ddysgu mwy am y Matrics Arloesi neu i ddechrau’r broses ymgeisio, e-bostiwch:
matrix@www.guaguababy.com

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw adeiladu canolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil sydd wedi’i grymuso’n ddigidol a chydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant i sicrhau effaith economaidd ar gyfer ein Mentrau Partner, y Brifysgol, y Ddinas-ranbarth ac economi’r DU.

Gwerthoedd

Ardal Arloesi SA1 Y Drindod Dewi Sant

SA1 Innovation Quarter

Innovation Matrix Map

Lleoliad

Mae’r Matrics Arloesi wedi’i leoli yng nghanol ein Hardal Arloesi SA1, sy’n rhan o Gampws Dinas Abertawe. Mae ei leoliad arfordirol unigryw, yn ardal hanesyddol Dociau’r ddinas, yn darparu golygfeydd panoramig ar draws Bae Abertawe a’r bryniau i’r gogledd. Mae’r lleoliad 15 munud ar droed o ganol y ddinas a dim ond 20 munud o’r gorsafoedd trên a bws. Mae Ardal Arloesi SA1 yn cynnig mynediad cyflym i draffordd yr M4 ac mae o fewn cyrraedd hawdd i Benrhyn Gŵyr hardd a’i draethau ysblennydd. Mae cyfleusterau eraill megis fflatiau preifat, bwytai, archfarchnadoedd, fferyllfeydd, gwestai a chyfleusterau hamdden o fewn cyrraedd rhwydd yn yr Ardal.

Darperir maes parcio ar y safle gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â phwyntiau gwefru ar gyfer beiciau trydan a sgwteri. Cefnogir y cynnig hwn gan y Brifysgol trwy ein strategaeth beicio campws ac yn ein hymrwymiad i Siarter Teithio Iach Bae Abertawe.

Cyfleoedd Partneriaeth

Credwn fod y矩阵Arloesi yn wahanol我ddatblygiadau masnachol eraill oherwydd bod partneriaeth a chydweithio yn ganolog iddo. Yn hytrach na dull landlord a thenant traddodiadol, rydym am weithio ochr yn ochr â busnesau sydd wedi ymrwymo i arloesi ac sy’n rhannu gwerthoedd ein Prifysgol. Gallai hon fod yn fenter sydd newydd ddechrau yn ein parth deori, ac sydd am gael mynediad i’n cyfleusterau ymchwil a datblygu arbenigol, hyd at fenter ryngwladol sy’n chwilio am gannoedd o fetrau sgwâr o le Gradd A a pherthynas strategol sy’n gysylltiedig â’n cyrsiau arloesol neu ganolfannau ymchwil arbenigol.

I adlewyrchu’r mathau amrywiol hyn o bosibiliadau, rydym wedi datblygu tri model partneriaeth unigryw i greu cynnig newydd a chymhellol sy’n cael ei yrru gan werth, sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Mae gan bob model partneriaeth fwndel llety a gwasanaeth sylfaenol ynghyd â bwndel cydweithredu a drafodir yn unigol. Gallai’r bwndel cydweithredu gynnwys amrywiaeth o gyfleoedd cydweithio gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, Partneriaethau Clyfar a Mentrau ar y Cyd. Bydd y rhain yn cael eu datblygu ar y cyd â’n hadran INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesedd, Ymchwil a Menter) a’i dîm ymroddedig o arbenigwyr masnachol a phartneriaeth.

Innovation Matrix Concepts

Gweithle Cyfoes

Y Stryd

Mae’r Matrics Arloesi wedi’i drefnu o amgylch ‘stryd’ a rennir, wedi’i gwresogi’n ganolog, sy’n gweithredu’n fan cymunedol, gweithio hyblyg a man cyfarfod lle mae cysylltiadau newydd yn cael eu gwneud a hen rai’n cael eu hadnewyddu. Fel gyda phob stryd wych, mae siop goffi wych ar y gornel sy’n darparu lle anffurfiol i gwrdd a dal i fyny. Mae mannau mwy ffurfiol y gellir eu harchebu wedi’u lleoli yng nghanol y stryd ynghyd â mannau eistedd a rennir.

Mae’r stryd ganolog yn darparu mynediad i’r unedau swyddfa unigol, ystafell gyfarfod bwrpasol, ein hystafell ddeori yn ogystal â Swyddfa Partneriaeth Matrics Arloesi a’r dderbynfa.

Y Landin

Mae’r llawr cyntaf neu’r ‘landin’ yn cynnig mwy o breifatrwydd. Ceir mynediad i’r landin trwy nifer o risiau a lifft teithwyr sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Mae’r llawr uchaf hefyd yn cynnwys ystafell gynadledda fawr y gellir ei harchebu gyda chysylltedd hybrid o’r radd flaenaf.