“Does dim rhaid i ni fod yn berffaith; does dim rhaid i ni gael popeth yn iawn bob amser; ac mae hon yn neges bwysig i blant a phobl ifanc ei deall hefyd.”


19.02.2021

Yn y blog hwn, mae Catherine Slade a Catherin Hancox o Ddisgyblaeth Academaidd Seicoleg a Chwnsela’r Brifysgol yn trafod pwysigrwydd cymryd amser i gydnabod ac adnabod ein teimladau yn ystod y pandemig wrth i ni ddysgu ‘normau cymdeithasol’ newydd, a sut y gall dod o hyd i gyfleoedd bach i ail-gysylltu â theulu a ffrindiau wella ansawdd ein perthnasoedd yn fawr.

In this blog, UWTSD’s Catherine Slade and Catherine Hancox from the University’s Academic Discipline of Psychology and Counselling discuss the importance of taking time to acknowledge and recognise our feelings during the pandemic as we learn new ‘social norms’, and how finding small opportunities to re-connect with family and friends can greatly improve the quality of our relationships.

Catherine Hancox

11 mis yn ddiweddarach, ac mae’r ansicrwydd, newid a’r angen i addasu i sefyllfaoedd newydd yn parhau. Wrth i mi adfyfyrio ar y newidiadau i fy sefyllfa fy hun a’r gwahanol rolau sydd gen i yn fy mywyd – partner, mam, ffrind a chydweithiwr, yn ogystal â darlithydd a seicotherapydd – un peth rydw i’n arbennig o ymwybodol ohono yw sut y mae gan y rolau hyn y potensial i bylu mewn sefyllfa lle nad yw’r ffiniau arferol yn bresennol. Nid oes gweithle penodol mwyach; nid yw aelodau’r teulu mewn gwahanol leoliadau ar gyfer eu gwahanol rolau; nid yw’r cartref yn rhywle sydd ar wahân i fy mywyd proffesiynol; ac nid oes lleoedd i gymdeithasu. Rwy’n gweld fy hun yn fwyfwy ymwybodol o rywbeth a ddysgais yn gynnar yn fy ngyrfa broffesiynol, sef bod ystyried gwrthdrawiadau posibl ‘rôl’ yn rhan bwysig o gydbwysedd iach lle nad oes ffiniau diffiniedig clir. Roedd William James (1890) o’r farn bod gan unigolyn gymaint o ‘hunain’ neu hunaniaethau ag sydd pobl y maent yn rhyngweithio â nhw. Mae’n hawdd colli ymdeimlad o hunaniaeth ymhlith y gofynion gwahanol hyn a ffiniau sy’n pylu. Gallwn fod yn ansicr ynghylch beth a ddisgwylir gennym ym mhob rôl, a sut i reoli ein gwahanol berthnasoedd. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol yn y cyfnod presennol hwn lle mae gofynion yn wahanol a chyfraddau amser yn ansicr.

Wrth fy ngwaith proffesiynol ac ymhlith ffrindiau a theulu, rwy’n clywed mwy a mwy am heriau ceisio mynd i’r afael â bywyd teuluol, gweithio gartref ac addysgu plant gartref. Ynghyd â hyn, mae effaith barhaus anghenion personol, fel cysylltu, amser i ymlacio a chymdeithasu; sy’n dal i fod heb eu bodloni. Mae’r cynnydd mewn gorbryder, iselder a’r gwaethygiad mewn salwch meddwl presennol yn fwy amlwg.

Er bod cyfuno rolau’brofiad cyffredin我律师nodd yw peidio teimlo’n unig yn y sefyllfa bresennol lle mae allfeydd arferol dan fygythiad neu wedi’u hymyrryd. Daw perthnasoedd yn y cartref yn fwy dwys gan ein bod yn treulio cymaint mwy o amser gyda’n gilydd heb effaith lleddfol grwpiau ffrindiau tu allan i’r cartref a gweithgareddau a rennir gyda’r rheiny tu hwnt i’n teuluoedd ac aelwydydd. Mae gan fod yn rhiant ac yn athro i blant ei heriau arbennig ei hun. Fel arfer, caiff y rolau eu gwahanu nid yn unig gan leoliad ond hefyd gan natur y perthnasoedd rhwng plant a phobl ifanc a’r oedolion arwyddocaol yn eu bywydau, yn cynnwys rhieni ac athrawon.

Efallai mai un o’r camau cyntaf at ddod o hyd i ryw fath o gysur yn y sefyllfa bresennol yw cael cydnabod ein teimladau. Pan gaiff ein teimladau eu cydnabod a’u dilysu, maent yn dod yn llai poenus ac yn haws eu derbyn. Os cânt eu hanwybyddu, maent yn dod yn fwy dyfal, ac mae hyn yn wir ar gyfer oedolion a phlant. Dilysiad sydd wrth wraidd seicotherapi. Dywed Linehan (1993):

“Mae’r therapydd yn cyfathrebu i’r cleient bod ei hymatebion yn gwneud synnwyr ac yn ddealladwy o fewn ei chyd-destun neu sefyllfa bywyd presennol.”

Mae teimlo bod rhywun yn ein deall yn golygu na fyddwn yn teimlo’n unig. Carl Rogers yw sylfaenydd ffordd ‘unigolyn-ganolog’ o fynd i’r afael â seicotherapi sy’n adnabod bod rhaid profi ‘amodau’ penodol perthynas er mwyn gwella a ffynnu. Mae empathi’n gydran greiddiol yn y ddamcaniaeth hon ac yn angenrheidiol ar gyfer iechyd seicolegol. Meddai:

‘...mae empathi ei hun yn gyfrwng gwella. Dyma un o agweddau mwyaf grymus therapi, am ei fod yn rhyddhau, yn cadarnhau, yn dod â hyd yn oed y cleient mwyaf ofnus i mewn i’r hil ddynol. Os yw person yn cael ei ddeall, mae ef neu hi yn perthyn.’ (Rogers, 1980)

Yn ôl Tudor (2011) pan fyddwn yn teimlo “bod rhywun yn ein deall ac yn dal i’n derbyn”, ein bod yn teimlo ein bod yn ‘llai ar wahân, llai unig, ac yn perthyn mwy i fod dynol arall.’

Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn manteisio ar gyfleoedd i ddweud wrth eraill sut rydym yn teimlo. Mae angen i ni allu dweud pan fyddwn yn cael pethau’n anodd a theimlo ein bod yn cael ein derbyn wrth wneud hynny. Mae plant a phobl ifanc angen teimlo hyn hefyd. Pan fydd rhywun yn dweud wrthym eu bod yn drist, blin neu’n straffaglu, mae’n gamsyniad meddwl bod rhaid i ni drwsio hynny mewn rhyw ffordd. Os oes gennych blentyn gartref sy’n ymddwyn yn heriol neu sydd i weld yn ofidus a dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau – rhowch gyfle iddynt gael eu clywed. Efallai na fyddwch yn gallu newid y ffordd maent yn teimlo neu’r sefyllfa maen nhw a chithau ynddi ar hyn o bryd, ond gallwch ddysgu i negodi ffyrdd lle caiff pob aelod o’r teulu gyfle i ddweud sut maen nhw’n teimlo. Os yw’n anodd ei leisio, anogwch blant a phobl ifanc i ysgrifennu neu dynnu llun y ffordd maen nhw’n teimlo; ac mae hyn yn ffordd dda i oedolion fynegi eu hunain hefyd. Mae’n bwysig cydnabod bod y profiad hwn yn cael ei rannu gan bawb ac yn un sy’n symud a newid. Does dim rhaid i ni fod yn berffaith; does dim rhaid i ni gael popeth yn iawn bob amser; ac mae hon yn neges bwysig i blant a phobl ifanc ei deall hefyd. Rydym yn gwneud hyn gyda’n gilydd, yn addasu i ffyrdd newydd o wneud pethau. Rydym yn dysgu ‘normau cymdeithasol’ newydd. Does ond raid i ni sylwi ar ymddygiadau wrth fynd am dro neu ymarfer corff bob dydd i weld y ffordd rydym wedi dysgu i osgoi cyswllt â’n gilydd. Nawr, rydym yn cerdded i ffwrdd neu’n croesi’r ffordd i osgoi dod yn rhy agos i’n gilydd. Ond gwnaeth ffrind da fy atgoffa’n ddiweddar y byddwn cyn hir yn symud tuag at ein gilydd yn hytrach na cherdded i fwrdd. Gallwn ddechrau hyn nawr drwy ddysgu i glywed a chael ein clywed gan ein gilydd a chofleidio grym empathi.

In this blog, UWTSD’s Catherine Slade and Catherine Hancox from the University’s Academic Discipline of Psychology and Counselling discuss the importance of taking time to acknowledge and recognise our feelings during the pandemic as we learn new ‘social norms’, and how finding small opportunities to re-connect with family and friends can greatly improve the quality of our relationships.

Catherine Slade

Felly, beth a allwn ei wneud yn ymarferol i alluogi ein plant a phobl ifanc i gyfathrebu gyda ni? Fel y mae Cath yn nodi, mae ein perthnasoedd teuluol yn ffocysu mwy yn y cartref y dyddiau hyn, mae cyfleoedd i gael amser ar ben eich hun yn fwy a mwy prin ac mewn rhai achosion, mae perthnasoedd yn teimlo mwy o straen ac yn doredig.

Beth a allwn ei wneud i greu lle i ni ein hunain, neu ddarparu cyfleoedd i siarad a rhannu emosiynau, neu ddod o hyd i amser o ansawdd a phosibiliadau i chwarae a rhyddhau stêm?

Yn fodau cymdeithasol, rydym yn teimlo angen dwfn i gysylltu. Rydym yn chwilio am berthnasoedd; rydym yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag eraill ac rydym yn teimlo’n dda pan fydd y cysylltiadau hynny’n bositif a symbylol. Yn wir, mae ein goroesiad fel bodau dynol wedi’i adeiladu ar y cysylltiad hwn ag eraill, ond mae’r cyfyngiadau angenrheidiol rydym i gyd yn eu profi nawr wedi cyfyngu’n ddifrifol ar ein cyfleoedd i ymgysylltu a chysylltu â phobl tu allan i’r cartref.

Mae llawer ohonom yn byw gartref gyda’n teuluoedd. Gall dod o hyd i gyfleoedd bach i ailgysylltu o fewn y teulu wella ansawdd ein perthnasoedd yn fawr. Awgryma Chatterjee (2019) bod pum munud y dydd o feithrin y bondiau hynny yn gallu cael effaith bositif ar ein llesiant meddwl. Mae treulio cyfnodau byr, wedi’u ffocysu, gyda’n gilydd yn darparu rhai cyfleoedd i ymlacio gyda’n gilydd a chyfathrebu.

Un awgrym yw cymryd egwyl ‘de’ ganol bore gyda’n gilydd gan y gall hyn helpu i wella perthnasoedd. Gall teimlo’n lluddedig ac yn llawn straen ychwanegu at y tensiwn yn y cartref. Gall cymryd egwyliau byr gyda’n gilydd, eistedd gyda’n gilydd a chael sgwrs dros baned a chacen ddarparu’r cyfle bach hwnnw sydd ei angen i deimlo’n fwy ffres, ymlaciedig a thawel eich meddwl eto. Manteisiwch ar yr egwyliau byr hynny i siarad am eich gilydd, nid am arian, neu Covid-19 neu bethau eraill yn eich bywyd sy’n teimlo’n feichus. Defnyddiwch y cyfleodd hynny i wrando ar eich gilydd a chysylltu. Gwrandewch ar straeon eich gilydd yn astud, gall wneud gwahaniaeth.

Treuliwch ams gyda 'ch gilydd涂llan i’r cartref. Mae manteision bod tu allan ym myd natur wedi’u cydnabod ers canrifoedd. Mae bod yng nghanol byd natur yn tanio ymateb yn ein cyrff sy’n ein helpu i ymlacio ac yn meithrin ein hymdeimlad o lesiant, mae tystiolaeth hefyd ei fod yn lleihau’r risg o straen cronig (Hartig, 2014). Bu nifer o astudiaethau yn Japan hefyd yn archwilio i’r syniad y gallai’r system imiwnedd elwa o’r amgylchedd naturiol (WHO, 2016). Gall mynd am dro gyda’n gilydd ddarparu cyfleoedd i rannu profiadau a siarad am deimladau pawb. Gall amgylchedd naturiol a niwtral roi cyfle i bobl gysylltu â’i gilydd a gall helpu i feithrin ymdeimlad o ymddiried, derbyn a pherthyn.

Strategaeth greadigol hyfryd ar gyfer annog cyfleoedd i gysylltu yw gwrando ar gerddoriaeth gyda’n gilydd. Mae gan gerddoriaeth y grym i effeithio arnom yn seicolegol; daw â phobl at ei gilydd a gall gyfrannu at emosiynau positif. Mae’n ffurf rymus o hunan-fynegiant yn ogystal â rhoi cyfle gwych i ni gyfathrebu. Mae Hargreaves a North wedi honni bod “gan gerddoriaeth lawer o swyddogaethau gwahanol ym mywyd bodau dynol, ac mae bron pob un ohonynt yn gymdeithasol yn ei hanfod (1997, t.1). Gall rhannu cerddoriaeth a siarad am sut mae’r gerddoriaeth yn gwneud i chi deimlo, neu gofio amseroedd da sy’n gysylltiedig â’r gerddoriaeth, gael effaith mor bositif ar lesiant. Gall cysylltu gyda’ch gilydd, gwrando ar gerddoriaeth a rhannu cerddoriaeth rydych yn ei charu gyda’ch gilydd eich rhyddhau a helpu i ddymchwel unrhyw rwystrau at gyfathrebu. Mae cerddoriaeth yn dweud wrth eraill sut rydym yn teimlo; hefyd, mae’n ein helpu i ddangos sut rydym yn teimlo am ein hunain, ein hunaniaeth. Mae’n ffurf greadigol o gyfathrebu.

Yn olaf, ychydig eiriau am bwysigrwydd ‘amser i chi’ch hun’. Rydym yng nghanol pandemig, mae’n amser anodd, trawmatig a llawn straen. Nid ydym ar ben ein hunain yn teimlo’r straen, gofid neu ofn hwn am y dyfodol. Pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, gallwn ddechrau cwrdd â ffrindiau eto, cynllunio gwyliau, neu fynd i siopa heb deimlo’n anniogel. Er hynny, ar hyn o bryd, mae pethau’n anodd. Felly, mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar gyfleoedd bach i ofalu amdanom ni ein hunain. Efallai mai cymryd hoe fach yw hynny yn ystod y dydd neu’r wythnos i fod ar ben eich hun am ychydig funudau. Dywed Hammond (2019) bod hyd yn oed pobl allblyg yn ffeindio bod ar ben eu hunain yn fwy gorffwyslon na chymdeithasu gydag eraill. Gall dewis pryd a sut rydym yn treulio amser ar ben ein hun helpu i adfer ein llesiant - gall roi cyfle tawel i ni adnabod ein hemosiynau a’n helpu i deimlo’n fwy adferedig a gorffwysiedig. Efallai bod angen ychydig o amser ar ben eu hunain ar bawb o bryd i’w gilydd, yn enwedig os ydym yn byw yng nghwmni ein gilydd bob munud o’r dydd. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hyn ac yn rhoi ychydig o lei i’n gilydd pan fydd angen.

Chatterjee R. (2019). Feel Better in 5: Your daily plan to feel great for life. Penguin Life

Hammond, C. (2019). The Art of Rest. Caeredin: Canongate.

Hartig, T., Mitchell, R., De Vries, S. & Frumkin, H. (2014). Nature and Health. Annual Review of Public Health, 35, 207‐228

Hargreaves, D.J. a North, A.C. 1997. “The social psychology of music”. InThe social psychology of music, Golygwyd gan Hargreaves, D.J. a North, A.C. 1–21. Efrog Newydd: Oxford University Press

Linehan M. Validation and psychotherapy. Yn: Bohart A, Greenber LS, golygyddion. Empathy reconsidered: New directions in psychotherapy. Washington DC: American Psychological Association; 1997.

James, W. (1890).The Principles of Psychology, mewn dwy gyfrol. Efrog Newydd:Henry Holt and Company.

Rogers, C. R. (1980), A Way of Being. Boston: Houghton Mifflin.

Tudor, K. (2011). Empathy: A Concretive Perspective.Transactional Analysis Journal,41(4), 322-335.

Sefydliad Iechyd y Byd (2016). Urban green spaces and health: A review of evidence. Ohttp://www.euro.who.int/__data/assets/pdf_file/0005/321971/Urban-green-spaces-and-health-review-evidence.pdf?ua=1

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile:07384 467071

Email:Rebecca.Davies@www.guaguababy.com