Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Doethuriaethau Proffesiynol- Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Prof Doc)

Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Prof Doc)



Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (Prof Doc) wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith; bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn yn gysylltiedig â’u galwedigaeth.

Oherwydd ei bod wedi’i llunio gan ystyried anghenion pobl sy’n gweithio, cyflwynir y rhaglen yn hyblyg trwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r Prof Doc yn rhannu sawl modwl â’i chwaer gymhwyster, yGwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA).

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o alwedigaethau ac arbenigeddau. Er enghraifft:

  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Teuluoedd
  • Gofal Plant
  • Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal Cymdeithasol
  • Datblygiad Cymunedol
  • Gwaith Chwarae
  • Gweision Sifil
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaethau Iechyd.
OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Gallwch ymgeisio’n uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ddefnyddio’r botwmYmgeisio Nawrar frig y dudalen.

Mae’n bosibl gadael y rhaglen yn gynnar gyda chymhwyster sy’n briodol i faint o waith a gyflawnwyd. Y cymwysterau gadael yn gynnar yw:

  • Tystysgrif Ôl-raddedig
  • Diploma Ôl-raddedig
  • Gradd Meistr yn y Celfyddydau

Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt::Dr Glenda Tinney BSc




Pam dewis y cwrs hwn?

  • Hyblygrwydd: gall y cwrs hwn addasu i gyd-fynd â’ch amserlen.
  • Cydweithio: mae’n creu cyfleoedd i chi ymgysylltu â’ch cyfoedion ym mhob modwl.
  • Ffocws: os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch cefnogi a’ch herio.
  • Personoli: siapiwch eich prosiect ymchwil yn unol â’ch cyfrifoldebau, diddordebau ac amgylchedd gwaith.
  • Cefnogaeth: byddwch yn cael mynediad at staff trwy ddiwrnodau astudio wyneb yn wyneb a gweminarau ar-lein, yn ogystal â thiwtorialau un i un i’ch cefnogi â’ch cynllun ymchwil.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Er mwyn sicrhau, fel gweithiwr proffesiynol prysur, y cewch eich cefnogi i lwyddo, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w chyflwyno y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd ar ddydd Sadwrn wedi’u cefnogi gan weminarau ar-lein mynych gyda’r nos. Mae staff ar gael ar gyfer tiwtorialau gyda’r nos os oes angen, a byddant yn eich cefnogi trwy gynnig tiwtorialau dal i fyny os byddwch yn cael eich gorfodi i golli sesiynau dysgu oherwydd eich cyfrifoldebau proffesiynol.

Os ydych yn ansicr o’ch sgiliau ysgrifennu academaidd ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o addysg ffurfiol, bydd staff yn rhoi cymorth ar ffurf tiwtorialau. Datblygir eich sgiliau ysgrifennu academaidd hefyd trwy’r adborth wedi’i dargedu a roddir gan staff cyn i chi gyflwyno eich aseiniadau.

Mae gan y rhaglen elfen gydweithredol gryf. Gallwch ddisgwyl ymgysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs i drafod a beirniadu’ch cynlluniau ymchwil eich gilydd mewn modd adeiladol.

Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen ond wedyn yn penderfynu nad ydych am symud ymlaen i Lefel 8 (y traethawd hir), gallwch drosglwyddo i’r llwybr Gradd Meistr, ac ennill MA sy’n benodol i ddisgyblaeth.

Pynciau Modylau

PROF DOC

Modylau Lefel 7

  • Adfyfyrio’n Feirniadol ar Ymarfer Academaidd a Phroffesiynol (30 credyd; Gorfodol)
  • Safbwyntiau Beirniadol mewn Polisi, Cynllunio a Chyflawni (30 credyd; Gorfodol)
  • Datblygu Chwilfrydedd Proffesiynol: Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth (30 credyd; Gorfodol)
  • Dylunio a Rheoli Ymchwil ar gyfer Ymarfer Proffesiynol (30 credyd; Gorfodol)
  • Canolbwyntio ar y Dyfodol: Effeithio ar newid ac arwain gwelliant trwy ymchwil (30 credyd; Gorfodol)
  • Athroniaeth ac Ymarfer Ymchwil Cymdeithasol (30 credyd; Gorfodol)
  • Goruchwylio, Arwain a Rheoli ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (30 credyd; Dewisol)
  • Cymunedau Cynaliadwy (30 credyd; Dewisol)
  • Llesiant a Pherthyn yn y Blynyddoedd Cynnar (30 credyd; Dewisol)
  • Dysgu gan Blant Bach (30 credyd; Dewisol)
  • Traethawd Hir: Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg (60 credyd; Gorfodol)

Modylau Lefel 8

  • Traethawd Hir Ymchwil yn Seiliedig ar Ymarfer (360 credyd; Gorfodol)

Recognition of Prior Learning (RPL)

Asesiad

Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.

Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.

Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.

Dolenni Cysylltiedig

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Dylech fod ag o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’r Ddoethuriaeth Broffesiynol cyn ymgeisio. Gweler hefyd chwaer gymhwyster y cwrs hwn, yGwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA), sy’n derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu gradd israddedig yn ddiweddar.

Dylech fod â chefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Teuluoedd
  • Gofal Plant
  • Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal Cymdeithasol
  • Datblygiad Cymunedol
  • Gwaith Chwarae
  • Gweision Sifil
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaethau Iechyd.
Cyfleoedd Gyrfa

Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen.

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn llenwi bwlch yn narpariaeth cymwysterau ymchwil ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau plentyndod, ieuenctid a chymunedol. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.

O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:

  • Nodi cyfleoedd
  • Creadigrwydd
  • Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
  • Cymhelliant a dycnwch
  • Mentro
  • Cynllunio a rheoli
  • Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
  • Dysgu trwy brofiad.
Costau Ychwanegol

Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau.Nid yw hyn yn ofynnoloherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i £100.

Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.

Bydd dewis o gwrs preswyl ar gyfer y ddoethuriaeth broffesiynol sy’n costio rhwng £250 a £500.

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â nios oes gennych unrhyw gwestiynauy Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.