People stack their hands in a symbol of cooperation.

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn ymroddedig i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas trwy ein Cenhadaeth Ddinesig. Yn sefydliad addysg uwch sydd â gwreiddiau dyfnion yng Nghymru, cofleidiwn ein cyfrifoldeb i wasanaethu anghenion ein cymunedau a chyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol, ac economaidd y rhanbarth.

Gwerthoedd

Mae casgliad o werthoedd craidd sy’n pennu ein hagwedd at ymgysylltu â’r gymuned ac effaith gymdeithasol yn arwain ein Cenhadaeth Ddinesig:

  • Cynwysoldeb:Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ac sy’n cefnogi mynediad cyfartal at addysg i bawb.
  • Cynaliadwyedd:Rydym wedi ymrwymo i feithrin arferion cynaliadwy, yn amgylcheddol ac yn economaidd, er mwyn sicrhau lles hirdymor ein cymunedau.
  • Cydweithio:Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i geisio partneriaethau a chydweithrediadau â sefydliadau, busnesau, a grwpiau cymunedol lleol er mwyn cynyddu ein heffaith ar y cyd.
  • Arloesi:Rydym yn annog arloesi a chreadigrwydd wrth fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gan gofleidio syniadau newydd, a meithrin ysbryd entrepreneuraidd.
  • Dysgu gan Fyfyrwyr:Drwy interniaethau INSPIRE i fyfyrwyr a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, rydym ni’n gallu darparu nifer cynyddol o leoliadau sy’n cwmpasu agendâu a meysydd dysgu cynaliadwyedd a’r Genhadaeth Ddinesig.

Mentrau

Gwireddir ein Cenhadaeth Ddinesig trwy gasgliad o fentrau sydd â’r nod o fynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd, hyrwyddo dysgu ac addysg, a chefnogi datblygiad cymunedol. Ymhlith ein mentrau allweddol y mae:

  • Rhaglenni Allgymorth Cymunedol:Rydym yn ymgysylltu â chymunedau lleol trwy raglenni allgymorth amrywiol, gan ddarparu adnoddau, mentora, a chymorth addysgol i unigolion o bob oed.
  • Ymchwil Effaith Gymdeithasol: Mae ein hymchwilwyr yn gweithio’n agos â phartneriaid cymunedol i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn, gan gynnal ymchwil sydd ag effaith ystyrlon a mesuradwy ar gymdeithas.
  • Gwirfoddoli a Dysgu drwy Wasanaethu:Rydym yn annog ein myfyrwyr a’n staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli a dysgu drwy wasanaethu, gan feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig ac empathi. Dysgwch ragor am gyfleoedd gwirfoddoli yn eincanllaw.
  • Cymorth Entrepreneuriaeth a Busnes:Cefnogwn fusnesau ac entrepreneuriaid lleol trwy fentora, hyfforddiant, a mynediad i adnoddau, gan helpu i ysgogi twf economaidd ac arloesi.
  • Dysgu Myfyrwyr:Trwy ein hinterniaethau INSPIRE i fyfyrwyr a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, gallwn ddarparu nifer cynyddol o leoliadau sy’n ymdrin ag agendâu a meysydd dysgu cynaliadwyedd a Chenhadaeth Ddinesig.

Partneriaethau

Mae cydweithio wrth wraidd ein Cenhadaeth Ddinesig. Gweithiwn yn agos ag ystod amrywiol o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, busnesau, a sefydliadau addysgol eraill. Mae’r partneriaethau hyn yn caniatáu inni rannu adnoddau, arbenigedd, a gwybodaeth er mwyn creu mwy o effaith gyda’n gilydd.

Cysylltu

Os hoffech ddysgu mwy am ein Cenhadaeth Ddinesig neu archwilio cyfleoedd am bartneriaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost:inspire@www.guaguababy.comneu os hoffech archwilio gwirfoddoli, cysylltwch â ni trwy:volunteer@www.guaguababy.com