Hafan YDDS-Y Brifysgol-Sefydliadau ac Academïau- Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch

White text on marbled green-blue background, reading: collective healing, social justice, global well-being.

Lansiwyd Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch ar y cyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès. Mae wedi’i leoli arGampws LlambedPCYDDS, gyda chefnogaeth partneriaid byd-eang. Mae’r Sefydliad yn parhau â sawl prif raglen ymchwil ryngwladol a ddatblygwyd yn flaenorol yn Sefydliad Heddwch Guerrand-Hermès, ac mae’n rhan o amgylchedd ymchwil ac addysgu a chymuned ddysgu ardderchog yn PCYDDS.

Mae Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch yn ceisio ymwneud ag ymchwil ar flaen y gad sy’n anelu at ddealltwriaeth newydd, arloesi, newid polisi, a thrawsnewid cymdeithasol.

Mae’r Sefydliad yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Meithrin iachâd ar y cyd(gan gynnwys iacháu clwyfau o erchyllterau’r gorffennol a chlwyfau ein planed), cyfoethogi adfywio cymunedol, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac undod byd-eang.
  • Grymuso arweinyddiaeth ieuenctidmeithrin cymwyseddau trawsnewidiol ieuenctid adarparu cyfleoedd datblygu proffesiynoli hwyluswyr iachâd ar y cyd ac adfywio cymunedol.
  • Cysonillesiant dynol cyfannolâ ffyniant ein planed.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblyguprosesau llywodraethusy’n seiliedig ar werthoedd, sy’n canolbwyntio ar ddeialog, ac sy’n ystyriol o les.
  • Annogtrawsnewid addysgolac ysbrydoli diwylliant gofalgar mewn sefydliadau addysgol.
  • Creu mannauar gyfer cyfarfyddiadau dwfn, gwrando astud, a deialog ddofn er mwyn ennynheddwch a mwy o gytgordymhlith popeth sy’n bod.

Cyflawnir yr holl weithgareddau hyn mewn partneriaeth âPhrosiect Llwybrau Caethweision UNESCOac maent yn cyd-fyndblaenoriaethau ac amcanion UNESCO.

Byddwn yn cynnig cyrsiau gradd meistr a doethurol a rhaglenni proffesiynol mewn iachâd ar y cyd, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, trawsnewid gwrthdaro, deialog ddofn, heddwch cadarnhaol, addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, ac adfywio cymunedol.

Cysylltu â Ni

E-bost:ghfp.institute@www.guaguababy.com

Staff

Yr Athro Scherto Gill: Cyfarwyddwr

Dilynwch y dolenni isod i ddysgu rhagor:

UNESCO InitiativeMenter UNESCO

Menter Iachâd ar y Cyd i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a lles byd-eang.

Students completing researchYmchwil

Mannau rhyngweithiol ar gyfer cyfarfyddiadau trawsnewidiol, gwrando astud a deialog ddofn i gyfoethogi dealltwriaeth a chyfeillgarwch.

person in a meetingAstudio

Cyrsiau gradd Meistr a doethurol a rhaglenni eang i weithwyr proffesiynol.

eventsDigwyddiadau

Mannau rhyngweithiol ar gyfer cyfarfyddiadau trawsnewidiol, gwrando astud a deialog ddofn i gyfoethogi dealltwriaeth a chyfeillgarwch.

student looking for a bookCyhoeddiadau

Llyfrau, erthyglau, llawlyfrau, dewislenni hyfforddiant ac adroddiadau i ledaenu syniadau newydd a gwybodaeth arloesol.

Holding HandsCymerwch Ran

Partneriaethau ymchwil, nawdd, ysgoloriaethau, cynlluniau cyfnewid academaidd, cymrodyr gwadd, ymweliadau astudio, interniaethau.