Ydych chi’n ystyried dechrau busnes? Neu a oes gennych chi fusnes yn barod?

Entreprise banner

Does dim byd yn curo’r boddhad o redeg eich busnes eich hun – gan ddilyn eich angerdd i fod yn fos arnoch chi’ch hun, rheoli eich amser eich hun, a gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Does dim byd yn curo’r boddhad o redeg eich busnes eich hun – gan ddilyn eich angerdd i fod yn fos arnoch chi’ch hun, rheoli eich amser eich hun, a gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Efallai eich bod yn breuddwydio am weithio i chi’ch hun, bod gennych syniad gwych ar gyfer busnes newydd ond rydych chi’n poeni am y risgiau o fwrw ati ar eich pen eich hun, neu nid oes gennych ddigon o hyder a’r sgiliau angenrheidiol i gymryd y cam cyntaf. Efallai eich bod yn rhedeg busnes newydd llwyddiannus ac y byddech yn elwa o gael rhywfaint o gyfeiriad, neu efallai y byddech yn hoffi cynyddu eich set sgiliau trwy gael cyngor arbenigol. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae pob perchennog busnes yn wynebu’r un heriau.

Mae cymorth a chefnogaeth AM DDIM ar gael.

Gall YDDS gynnig y canlynol i chi:

  • Cymorth i ddechrau busnes – cymorth a gyllidir gan y Sefydliad a Llywodraeth Cymru
  • Grant Entrepreneuriaith i Fusnesu Newydd o £500
  • Cyfarfodydd un i un
  • Clwb Mentergarwch
  • Cwrs Mentergarwch
  • Gweithdai ar Eiddo Deallusol a Chreadigrwydd
  • rh Cyfleoedd我drafod archwiliowydweithio gyda myfyrwyr o’r un anian ac entrepreneuriaid
  • Cysylltiadau â diwydiant – prosiectau, siaradwyr gwadd a rhwydweithio gyda busnesau
  • Digwyddiadau’r Wythnos Fenter yn mis Tachwedd
  • Gweithgareddau allgyrsiol – cystadlaethau, gweithdai dechrau busnes, cwrdd â chyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd
  • Siaradwyr sy’n ysbrydoli (yn cynnwys ein cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd)

P’un a ydych yn byw yng Nghymru neu y tu hwnt byddai’n bleser gennym glywed oddi wrthych.

Os hoffech ragor o wybodaeth yna cysylltwch â’n Swyddog Menter naill ai:
Ffôn:01792 481152
E-bost:Dylan.williams-evans@www.guaguababy.com

Cliciwch yma i weld ein hadroddiad diweddaraf

Ffeithlun Mentergarwch

Ffeithlun gyda disgrifiad isod.

Disgrifiad Testunol

Y Drindod Dewi Sant Diogelu Addysg at y Dyfodol: Y Rheidrwydd Entrepreneuraidd 2022

  • Ymgysylltu: 3,500 o fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o ddechrau busnes newydd yn ddewis gyrfa.
  • Grymuso: 400 o fyfyrwyr wedi’u grymuso gan weithdai i gynyddu eu gallu entrepreneuraidd.
  • Arfogi: 47 o fyfyrwyr wedi’u harfogi i roi prawf ar eu syniadau busnes.
  • Cymeradwyo: Derbyniodd 122 o fyfyrwyr a graddedigion gymorth i fwrw ymlaen â’u busnesau eu hunain.
  • Gwella: 38 wedi cychwyn busnes naill ai yn ystod astudiaethau neu ar ôl graddio.
  • Galluogi: 16 pencampwr academaidd menter wedi eu galluogi i gyfoethogi gweithgareddau’r cwricwlwm a rhai all gwricwlaidd.