Hafan YDDS-Astudio Gyda Ni-Cyrsiau Ôl-raddedig- Moeseg – Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid (Tyst. Ôl-radd)
Mae ein Tyst. Ôl-radd Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid wedi’i hanelu at bobl sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol ar hyn o bryd, boed hynny ym maes cadwraeth, rheolaeth adnoddau, gwyddoniaeth filfeddygol, neu’r sectorau elusen a chodi arian.
P’un a ydych am gymryd diddordeb personol mewn athroniaeth foesol i lefel arall, ddiweddaru eich sgiliau a gwybodaeth i ymgyfarwyddo â dimensiwn moesol eich proffesiwn, neu’n gobeithio cael eich herio, gall y cwrs ar-lein, rhan amser hwn ffitio o gwmpas eich bywyd.
Mae’r rhaglen hon yn gynnig unigryw sy’n manteisio ar gryfderau sefydledig wrth ddarparu athroniaeth ôl-raddedig ac arbenigedd staff presennol.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwmYmgeisio Nawrar frig y dudalen.
Sut i Wneud Cais Cyllid Ôl-raddedig Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref:£7,800
Dramor:£15,000
Pam dewis y cwrs hwn?
- astudio’n rhan amser, ar-lein o gwmpas eich ymrwymiadau bob dydd,
- meithrin eich gwybodaeth am faterion moesegol pwysig sy’n berthnasol i’r gweithle modern,
- elwa o draddodiad hir y Brifysgol o addysgu ac ymchwil ym maes athroniaeth a moeseg,
- cyfoethogi eich sgiliau trosglwyddadwy,
- dysgu gan staff profiadol, brwdfrydig.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen yn manteisio ar staff sy’n weithgar ym maes ymchwil athroniaeth a moeseg, gan gynnwys eu profiad proffesiynol o ystyried moeseg gwasanaethau cyhoeddus a newid deddfwriaeth a pholisi, yn ogystal â datblygu cynnig Dyniaethau Llambed mewn cyfeiriad sy’n troi o gwmpas gwaith a sgiliau.
Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu’n feirniadol â phrif heriau gweithle’r 21ain ganrif, ochr yn ochr â datblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall gwybodaeth academaidd am foeseg fod yn sail i arfer proffesiynol bob dydd. Mae’r datblygiad hwn o sgiliau allweddol ac ymwybyddiaeth yn y gweithle’n datblygu sgiliau a medrau gweithleoedd i gyfrannu at wybodaeth newydd am drawsnewid cymdeithasol ac ymddygiad gwaith proffesiynol.
Lefel 7 (Tystysgrif Ôl-raddedig)
- Damcaniaeth Foesegol (30 credyd)
- Moeseg Amgylcheddol ac Anifeiliaid (30 credyd)
Caiff y rhaglen hon ei hasesu trwy gyfuniad o asesiadau addysgu.
Dolenni Perthnasol
Gwybodaeth allweddol
- Dr Husam Al-Mallak (Programme Director)
- Dr Angus Slater
Gradd israddedig neu gyfwerth.
Bydd pob llyfr craidd ar gael drwy’r llyfrgell, ond efallai yr hoffech brynu eich copi eich hun, neu brynu adnoddau dewisol.
Bydd angen i chi fod â mynediad at liniadur neu gyfrifiadur neu ddyfais electronig arall sy’n eich galluogi i ddefnyddio systemau e-ddysgu’r Brifysgol.
Os hoffech gael mynediad i’r cwrs ar y campws neu ymweld â’r campws, mae rhwydd hynt i chi ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell, ond yn ddysgwr o bell, bydd angen i chi gael mynediad o bell.
Efallai可以忍受bod yn gymwys我helpu盖尔人阿里乌派我gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadranYsgoloriaethau a Bwrsarïau.
Cysylltwch â nios oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.